Atal cais am brofiant
Printable version
1. Herio cais am brofiant rhywun arall
Gallwch herio cais am brofiant rhywun arall (‘cofnodi cafeat’) os oes anghydfod, er enghraifft ynghylch:
-
pwy all wneud cais am brofiant
-
p’un a oes ewyllys ai peidio
Mae’r cafeat yn para am 6 mis i ddechrau, ac yna gallwch ei ymestyn am 6 mis arall. Mae’r cafeat yn atal pob cais am brofiant ar yr ystad rhag cael ei gymeradwyo yn ystod y cyfnod hwnnw.
Gall cofnodi cafeat arwain at gamau cyfreithiol a chostau cyfreithiol. Dylech geisio dod i gytundeb gyda’r unigolyn sy’n gwneud y cais am brofiant yn gyntaf.
Mae’r cyfarwyddyd a’r gwasanaeth hwn hefyd ar gael yn Saesneg (English).
Mae yna reolau gwahanol ar sut i wneud cais am gafeat yn yr Alban a .
Sut i gofnodi cafeat
Rhaid i chi fod yn 18 oed neu’n hŷn.
Gallwch gofnodi cafeat eich hun, neu gallwch ddefnyddio cyfreithiwr neu unigolyn arall sydd wedi’i drwyddedu i ddarparu gwasanaethau profiant.
Os ydych yn cofnodi cafeat eich hun, gallwch:
-
gwneud apwyntiad i
2. Gwneud cais i gofnodi cafeat
Gallwch wneud cais am gafeat ar-lein neu drwy’r post. Mae’n costio £3.
Pa wybodaeth sydd ei hangen arnoch
Bydd arnoch angen:
-
enw llawn yr unigolyn sydd wedi marw, ac unrhyw enwau eraill yr oeddynt yn cael eu hadnabod wrthynt
-
union ddyddiad y farwolaeth fel y mae’n ymddangos ar y dystysgrif marwolaeth
-
cyfeiriad olaf yr unigolyn sydd wedi marw
-
eich cyfeiriad chi yng Nghymru neu Loegr
-
eich cyfeiriad e-bost (os ydych am wneud cais ar-lein)
Os nad oes gennych y dystysgrif marwolaeth
Gallwch gofnodi cafeat heb y dystysgrif marwolaeth, ond mae’n rhaid i chi ddiweddaru’r cafeat gydag union ddyddiad y farwolaeth pan fyddwch yn gwybod beth ydyw. Efallai na fydd y cais am brofiant yn cael ei atal os yw dyddiad y farwolaeth yn anghywir.
Ffioedd
Mae’n costio £3 i gofnodi cafeat.
Os byddwch yn gwneud cais drwy’r post, mae’n rhaid i chi dalu’r ffi drwy anfon siec yn daladwy i ‘Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd EF’ gyda’ch ffurflen.
Help i dalu ffioedd
Efallai y byddwch yn gallu cael help i dalu’r ffi cafeat a ffioedd llys eraill os oes gennych incwm isel neu os ydych yn cael budd-daliadau penodol.
Mae dal angen i chi dalu’r ffi gwneud cais am gafeat os ydych yn gwneud cais am gafeat ar-lein. Fe gewch ad-daliad os bydd eich cais am help i dalu ffioedd yn llwyddiannus.
Gwneud cais am help i dalu ffioedd ar-lein
Gallwch wneud cais am help i dalu ffioedd ar-lein. Mae’n rhaid i chi wneud hyn cyn i chi wneud cais am gafeat.
Gwneud cais am help i dalu ffioedd drwy’r post
Llenwch ac anfonwch ffurflen EX160 drwy’r post. Mae’n rhaid i chi wneud hyn cyn i chi wneud cais am gafeat.
Bydd angen i chi hefyd bostio neu anfon copi o’r ffurflen wedi’i llenwi drwy e-bost i’r tîm ffioedd profiant cyn i chi wneud cais am gafeat.
Os ydych eisiau anfon y copi drwy e-bost, rhowch y canlynol yn llinell pwnc y neges:
-
‘H°Â¹ó’
-
p’un a ydych yn gwneud cais am gafeat ar-lein neu drwy’r post
-
enw llawn yr unigolyn sydd wedi marw
-
dyddiad marwolaeth
Tîm help i dalu ffioedd profiant
ymholiadaucymraeg@justice.gov.uk
Os ydych eisiau anfon y copi drwy’r post, anfonwch ef i Gofrestrfa Brofiant Dosbarth Leeds. Dylech gynnwys nodyn i ddweud p’un a ydych yn gwneud cais am gafeat ar-lein neu drwy’r post.
Cofrestrfa Brofiant Dosbarth Leeds
York House
31 York Place
Leeds
LS1 2BA
Gwneud cais am gafeat ar-lein
Mae’r gwasanaeth hwn hefyd ar gael .
Gwneud cais am brofiant drwy’r post
Llenwch ffurflen PA8A a’i hanfon i Wasanaeth Profiant GLlTEF
Adran Brofiant GLlTEF
BLWCH POST 12625
Harlow
CM20 9QE
Os oes arnoch angen cymorth
Gallwch ffonio ein llinell gymorth Profiant i siaradwyr Cymraeg.
Llinell Gymorth Profiant
0300 303 0654
Dydd Llun i ddydd Iau 9am-5pm, dydd Gwener 9am-4.30pm
Wedi cau ar wyliau banc
Gwybodaeth am brisiau galwadau
3. Ar ôl i chi wneud cais
Bydd y cais am brofiant yn cael ei atal un diwrnod gwaith ar ôl i’ch cais am gafeat gyrraedd y tîm.
Os bydd cais am brofiant yn cael ei gymeradwyo yr un diwrnod ac y byddwch yn cyflwyno cais am gafeat, yna ni fydd yn cael ei atal. I gyflwyno eich cais am gafeat ar frys, gwnewch apwyntiad i .
Mae cafeat yn para am 6 mis. Mae’n atal pob cais am brofiant ar yr ystad rhag cael ei gymeradwyo yn ystod y cyfnod hwnnw.
Os bydd y sawl sydd wedi gwneud y cais am brofiant yn gwrthwynebu eich cais am gafeat, efallai y byddant:
-
yn dod i gytundeb efo chi ac yn gofyn i chi dynnu’r cais am gafeat yn ôl
-
yn cyflwyno ‘rhybudd’ ffurfiol
Tynnu cais am gafeat yn ôl neu ei ddiwygio
Gallwch dynnu eich cais am gafeat yn ôl neu ei ddiwygio drwy e-bost neu drwy’r post. Yn eich neges e-bost neu’ch llythyr, dylech gynnwys:
-
eich cyfeirnod cafeat 16 digid
-
enw llawn yr unigolyn sydd wedi marw
-
cadarnhad eich bod eisiau tynnu’r cafeat yn ôl neu fanylion yr hyn sydd angen ei newid
Os ydych wedi ymateb i rybudd ffurfiol drwy ‘gofnodi ymddangosiad’, yna ni allwch dynnu eich cafeat yn ôl. Gellir ond ei ddileu gyda gorchymyn gan Gofrestrydd Dosbarth Profiant, Barnwr Uchel Lys neu Farnwr Rhanbarth.
Os bu i chi wneud cais ar-lein anfonwch neges e-bost i:
ymholiadau@justice.gov.uk
Os bu ichi wneud cais drwy’r post, anfonwch neges e-bost i:
ymholiadaucymraeg@justice.gov.uk
Cofrestrfa Brofiant Dosbarth Leeds
York House
31 York Place
Leeds
LS1 2BA
Ymateb i rybudd gan geisydd y cais am brofiant
Mae gennych 14 diwrnod i ymateb i rybudd (yn cynnwys penwythnosau a gwyliau banc). Os na fyddwch yn ymateb, gall ceisydd y cais am brofiant wneud cais i ddileu’r cafeat.
Gallwch ymateb drwy gofnodi ‘ymddangosiad’ neu godi ‘gwŷs’.
Cofnodi ‘ymddangosiad
I gofnodi ymddangosiad mae’n rhaid bod gennych ‘fudd croes’. Er enghraifft:
-
rydych yn credu bod yr ewyllys yn annilys a byddai gennych hawl i gofnodi ymddangosiad pe na bai ewyllys neu o dan ewyllys gynharach neu ddiweddarach
-
nid oes ewyllys ac rydych yn credu mai chi ddylai fod yn gwneud y cais am brofiant o dan y rheolau profiant
Gallwch ofyn am ffurflen ymddangosiad gan Gofrestrfa Brofiant Dosbarth Leeds. Llenwch y ffurflen a’i hanfon yn ôl atynt.
Os bydd y Cofrestrydd yn cytuno â’ch rhesymau dros gofnodi ymddangosiad, yna bydd yn gwneud y cafeat yn un parhaol. Yna, gellir ond ei ddileu gyda gorchymyn gan Gofrestrydd Dosbarth Profiant, Barnwr Uchel Lys neu Farnwr Rhanbarth.
Codi gwÅ·s
Nid oes angen bod gennych fudd croes i godi gwŷs. Yn hytrach, efallai eich bod yn credu bod gennych chi gymaint o hawl i wneud cais am brofiant neu rydych yn credu nad yw’r ysgutor presennol yn un addas.
Gallwch ofyn am ffurflen i godi gwŷs gan Gofrestrfa Brofiant Dosbarth Leeds. Llenwch y ffurflen a’i hanfon yn ôl gyda datganiad ffeithiau wedi’i lofnodi sy’n cynnwys eich rhesymau dros fod eisiau codi gwŷs.
Bydd y Cofrestrydd yn penderfynu pwy sydd â hawl i wneud cais am brofiant. Efallai y bydd yn awgrymu y byddai’n well i weinyddwr annibynnol ddelio â’r ystad.
Cofrestrfa Brofiant Dosbarth Leeds
0300 303 0654
Dydd Llun i ddydd Iau 9am-5pm, dydd Gwener 9am - 4.30pm
Wedi cau ar wyliau banc
Gwybodaeth am brisiau galwadau
ymholiadaucymraeg@justice.gov.uk
Cofrestrfa Brofiant Dosbarth Leeds
York House
31 York Place
Leeds
LS1 2BA
Ymestyn cafeat
Gallwch ymestyn cafeat am 6 mis arall, os nad ydych wedi cofnodi ymddangosiad neu godi gwÅ·s.
Mae’n costio £3 i ymestyn cafeat.
Dim ond yn ystod y mis diwethaf cyn i’r cafeat ddod i ben y gallwch wneud cais am estyniad.
I ymestyn eich cafeat, llenwch ffurflen PA8B a’i hanfon i Adran Brofiant GLlTEF.
Adran Brofiant GLlTEF
BLWCH POST 12625
Harlow
CM20 9QE
I ymestyn eich cafeat ar frys, gwnewch apwyntiad i
4. Ymateb i her yn erbyn eich cais am brofiant
Gall rywun herio eich cais am brofiant (‘cofnodi cafeat’) os oes anghydfod, er enghraifft ynghylch ewyllys neu pwy all wneud cais am brofiant.
Mae’n rhaid iddynt gofnodi’r cafeat cyn i brofiant gael ei gymeradwyo.
Mae’r cafeat yn para am 6 mis i ddechrau, ac yna gellir ei ymestyn am 6 mis arall. Mae’r cafeat yn atal pob cais am brofiant ar yr ystad rhag cael ei gymeradwyo yn ystod y cyfnod hwnnw.
Beth i’w wneud os bydd rhywun yn cofnodi cafeat
Ceisiwch ddod i gytundeb gyda’r unigolyn a wnaeth gofnodi’r cafeat. Os na allwch ddod i gytundeb, yna gallwch roi ‘rhybudd’ ffurfiol i’r unigolyn.
Gall rhoi rhybudd arwain at gafeat parhaol sy’n golygu y bydd angen cymryd camau cyfreithiol pellach i ddatrys y mater. Efallai y bydd rhaid i chi dalu costau cyfreithiol. Gallwch gael cyngor gan gyfreithiwr neu cysylltwch â .
Rhoi rhybudd
I roi rhybudd, mae angen i chi:
-
Ofyn am ffurflen gan Gofrestrfa Brofiant Dosbarth Leeds.
-
Llenwi’r ffurflen a dweud pam bod gennych hawl i wneud cais am brofiant. Mae hyn yn golygu eich bod yn mynegi ‘diddordeb’ yn yr ystad.
-
Anfon y ffurflen yn ôl i Gofrestrfa Brofiant Dosbarth Leeds. Bydd y ffurflen rybuddio wedi’i llenwi yn cael ei chofnodi, ei dyddio a’i stampio â stamp y llys, ac yna bydd yn cael ei dychwelyd i chi.
-
Gwneud copi o’r rhybudd i’w gadw ar gyfer eich cofnodion.
-
Anfon neu roi’r rhybudd i’r unigolyn a wnaeth gofnodi’r cafeat. Cadwch gofnod o sut a phryd rhoddwyd y rhybudd, er enghraifft, drwy law neu drwy’r post. Ni allwch roi rhybudd drwy e-bost.
Cofrestrfa Brofiant Dosbarth Leeds
0300 303 0654
Dydd Llun i ddydd Iau 9am - 5pm, dydd Gwener 9am - 4.30pm
Wedi cau ar wyliau banc
Gwybodaeth am brisiau galwadau
ymholiadaucymraeg@justice.gov.uk
Cofrestrfa Brofiant Dosbarth Leeds
York House
31 York Place
Leeds
LS1 2BA
Ar ôl i chi roi rhybudd
Bydd gan yr unigolyn sydd wedi atal y grant profiant 14 diwrnod i ymateb (yn cynnwys penwythnosau a gwyliau banc).
Gallant naill ai:
-
gofnodi ‘ymddangosiad’ os oes ganddynt ‘fudd croes’, er enghraifft, maent yn credu bod yr ewyllys yn annilys a bod ganddynt hawl i gofnodi ymddangosiad o dan ewyllys gynharach neu ddiweddarach, neu, os nad oes ewyllys, nad oes gennych chi hawl i wneud cais am brofiant
-
codi ‘gwŷs’ os nad oes ganddynt fudd croes ond, er enghraifft, maent yn credu bod ganddynt gymaint o hawl i wneud cais am brofiant neu maent yn credu nad ydych chi’n ysgutor addas
Os byddant yn cofnodi ymddangosiad a bod y Cofrestrydd yn cytuno â’u rhesymau, yna bydd yn gwneud y cafeat yn un parhaol. Yna, gellir ond ei ddileu gyda gorchymyn gan Gofrestrydd Dosbarth Profiant, Barnwr Uchel Lys neu Farnwr Rhanbarth.
Os byddant yn codi gwŷs, bydd y Cofrestrydd yn penderfynu pwy sydd â’r hawl i wneud cais am brofiant. Efallai y bydd yn awgrymu y byddai’n well i weinyddwr annibynnol ddelio â’r ystad.
Os na fyddant yn ymateb
Os na fyddant yn ymateb ymhen 14 diwrnod, llenwch y ffurflen datganiad cyflwyno.
Yn y ffurflen, nodwch pryd a sut y gwnaethoch anfon y rhybudd at yr unigolyn a wnaeth gofnodi’r cafeat.
Dychwelwch y ffurflen datganiad cyflwyno i Gofrestrfa Brofiant Dosbarth Leeds. Os na chafwyd ymateb i’r rhybudd, bydd y cafeat yn cael ei ddileu a gallwch barhau â’ch cais am brofiant.
Os nad oes gennych ffurflen datganiad cyflwyno, gofynnwch am un gan Gofrestrfa Brofiant Dosbarth Leeds. Gan amlaf, byddant wedi anfon y ffurflen hon atoch pan fu ichi ofyn am gael rhoi rhybudd.