Cymorth ar gyfer Llog Morgais (SMI)

Printable version

1. Trosolwg

Os ydych yn berchen ar gartref neu wedi prynu eiddo rhanberchnogaeth, efallai y gallwch gael help tuag at daliadau llog ar:

  • eich morgais
  • benthyciadau rydych wedi’u cymryd ar gyfer atgyweiriadau a gwelliannau penodol i’ch cartref

Enw’r help hwn yw Cymorth ar gyfer Llog Morgais (SMI).

Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg (English) a fformat hawdd ei ddarllen.

Mae’n cael ei dalu fel benthyciad, y bydd angen i chi ei ad-dalu gyda llog pan fyddwch yn gwerthu neu’n trosglwyddo perchnogaeth o’ch cartref. Efallai y byddwch yn gallu trosglwyddo’r benthyciad os ydych yn prynu cartref newydd.

Mae angen eich bod yn cael, budd-dal cymwys i gael SMI.

Nid oes unrhyw sicrwydd y byddwch yn cael SMI am forgais neu fenthyciad a gymerwch.

Beth na allwch ddefnyddio SMI ar ei gyfer

Ni all SMI eich help i dalu:

  • unrhyw beth tuag at bolisïau yswiriant sydd gennych
  • methu taliadau morgais (ôl-ddyledion)

Siaradwch â’ch benthyciwr

Gallech siarad â’ch benthyciwr morgais cyn i chi wneud cais am SMI.

Gall rhai benthycwyr gynnig ffyrdd eraill o helpu, fel gwyliau talu dros dro, taliadau llog yn unig neu ymestyn tymor eich morgais i leihau taliadau misol.

Cymorth a chefnogaeth

Gwiriwch a allwch gael cymorth costau byw.

Gallwch gael gwybodaeth am ddim am gymorth tai gan:

2. Beth fyddwch yn ei gael

Byddwch yn cael help i dalu’r llog ar eich morgais neu fenthyciad.

Mae cymorth ar gyfer llog morgais (SMI) fel arfer yn helpu i dalu’r llog am hyd at £200,000 o’ch benthyciad neu forgais. Fodd bynnag, gallwch dim ond cael hyd at £100,000 os byddwch naill ai’n:

Os ydych yn cael SMI yn barod ac yn symud i Gredyd Pensiwn o fewn 12 wythnos ar ôl stopio eich budd-daliadau eraill, byddwch yn dal i gael help gyda llog ar hyd at £200,000.

Y gyfradd llog a ddefnyddir i gyfrifo’r swm SMI a gewch ar hyn o bryd yw 3.66%.

Enghraifft

Mae gennych £250,000 o’ch morgais ar ôl i’w dalu ac rydych yn gymwys am SMI hyd at £200,000.

Ar y gyfradd llog SMI gyfredol, byddwch yn cael benthyciad o 3.66% o £200,000 ar draws blwyddyn. Mae hyn yn £7,320 y flwyddyn neu £610 y mis.

Beth fyddwch yn ei dalu’n ôl

Mae SMI yn cael ei dalu fel benthyciad. Bydd angen i chi ad-dalu’r arian a gewch gyda llog pan fyddwch yn gwerthu neu’n trosglwyddo perchnogaeth o’ch cartref (oni bai eich bod yn [symud y benthyciad i eiddo arall).

Os ydych eisiau ad-dalu’r benthyciad yn gynt, gallwch hefyd wneud ad-daliadau gwirfoddol.

Darganfyddwch fwy am sut i ad-dalu eich benthyciad SMI

Sut y telir SMI

Mae SMI fel arfer yn cael ei dalu’n uniongyrchol i’ch benthyciwr.

Gallwch ofyn i roi’r gorau i gael SMI ar unrhyw adeg drwy gysylltu â’r swyddfa sy’n talu eich budd-dal.

Mae pryd y gall taliadau ddechrau yn dibynnu ar ba budd-dal rydych yn ei hawlio.

Os ydych yn cael Credyd Pensiwn

Gall taliadau ddechrau o’r dyddiad rydych yn dechrau cael Credyd Pensiwn.

Os ydych yn cael Credyd Cynhwysol

Gall taliadau ddechrau os oes gennych Gredyd Cynhwysol am 3 mis yn olynol.

Os byddwch yn symud i Gredyd Cynhwysol o fewn mis i fudd-dal arall ddod i ben, gall taliadau ddechrau pan fyddwch wedi treulio cyfanswm o 3 mis yn cael y budd-dal blaenorol hwnnw a Chredyd Cynhwysol.

Os ydych yn cael Cymhorthdal Incwm, JSA yn seiliedig ar incwm neu ESA yn seiliedig ar incwm

Gall taliadau ddechrau pan fyddwch wedi hawlio am 39 wythnos yn olynol.

3. Cymhwysedd

I fod yn gymwys i gael benthyciad Cymorth ar gyfer Llog Morgais (SMI), rhaid i chi fod yn berchen ar eich cartref neu wedi prynu eiddo rhanberchnogaeth. Rhaid i chi hefyd fod yn cael un o’r budd-daliadau cymwys canlynol:

Cysylltwch â’r swyddfa berthnasol i wneud cais am SMI. Nid oes gwiriad credyd.

Gallwch ddechrau cael y benthyciad:

  • o’r dyddiad y byddwch yn dechrau cael Credyd Pensiwn
  • ar ôl i chi gael Credyd Cynhwysol am 3 mis yn olynol neu symud i Gredyd Cynhwysol o fewn mis i fudd-dal arall ddod i ben ac rydych chi wedi treulio cyfanswm o 3 mis yn cael y budd-daliadau hyn

Gallwch wneud cais am SMI o’r dyddiad y byddwch yn dechrau cael eich budd-dal.

Os gwnaethoch stopio cael SMI oherwydd gwnaethoch stopio cael budd-dal cymwys

Byddwch yn dechrau cael SMI eto yn syth os:

  • gwnaethoch stopio cael Credyd Cynhwysol ond wnaethoch ddechrau ei gael eto o fewn 6 mis
  • gwnaethoch stopio cael Credyd Pensiwn a gwnaethoch symud i Gredyd Cynhwysol
  • gwnaethoch stopio cael Cymhorthdal Incwm, JSA yn seiliedig ar incwm neu ESA yn seiliedig ar incwm, a gwnaethoch gais am Gredyd Cynhwysol o fewn mis

Fel arall, bydd rhaid i chi aros y cyfnod arferol cyn cael SMI eto.

4. Sut i wneud cais

Pan fyddwch yn gwneud cais am fudd-dal cymwys, gofynnir cwestiynau ychwanegol i chi am eich costau tai i ddarganfod a ydych yn gymwys i gael Cymorth ar gyfer Llog ar Forgais (SMI).

Os fyddwch wedyn eisiau gwneud cais am SMI, bydd angen i chi lenwi ac arwyddo ffurflen. Nid oes angen i chi dalu ffi i wneud cais.

Cyn llenwi’r ffurflen, bydd angen i chi:

  • ddarganfod faint o fenthyciadau morgais neu welliannau’r cartref sydd gennych ar ôl i’w dalu
  • darganfod faint o log rydych yn talu ar eich benthyciadau morgais neu welliannau’r cartref
  • cael eich partner i gytuno i arwyddo’r ffurflen, os oes gennych bartner

Yna bydd angen i chi anfon y ffurflen i’ch benthyciwr i’w gwblhau. Bydd eich benthyciwr yn anfon y ffurflen wedi’i chwblhau i’r swyddfa sy’n talu eich budd-dal.

Os ydych yn gymwys ar gyfer SMI, byddwch yn cael cynnig benthyciad. Gallwch ddewis ei wrthod neu ei dderbyn.

Os byddwch yn gwrthod y cynnig i ddechrau, gallwch ei dderbyn ar unrhyw adeg cyn belled â’ch bod yn gymwys i SMI. Gall y taliadau i’ch benthyciwr gael eu hôl-ddyddio hyd at pan oedd gennych hawl gyntaf i’r benthyciad. Cysylltwch â’r swyddfa sy’n talu’ch budd-dal.

Os ydych yn cael budd-dal cymwys yn barod

Cysylltwch â’r swyddfa sy’n talu’ch budd-dal i ddarganfod a allech gael SMI.

Gall y taliadau i’ch benthyciwr gael eu hôl-ddyddio hyd at pan oedd gennych hawl gyntaf i’r benthyciad.

Os ydych cyn cael neu wedi gwneud cais am Gymhorthdal Incwm, JSA yn seiliedig ar incwm neu ESA yn seiliedig ar incwm, cysylltwch â’r Ganolfan Byd Gwaith.

Canolfan Byd Gwaith
Ffôn: 0800 328 1744
Ffôn testun: 0800 169 0314
(os na allwch glywed na siarad dros y ffôn): 18001 yna 0800 169 0314
Iaith Arwyddion Prydain (BSL) os ydych ar gyfrifiadur – darganfyddwch sut i
Llinell Saesneg: 0800 169 0310
Dydd Llun i ddydd Gwener, 8am i 5pm
Darganfyddwch fwy am gostau galwadau

Os ydych yn cael neu wedi gwneud cais am Gredyd Pensiwn, cysylltwch â’r Gwasanaeth Pensiwn.

Gwasanaeth Pensiwn
Ffôn: 0800 731 0453
Ffôn testun: 0800 731 0456
(os na allwch glywed neu siarad dros y ffôn): 18001 then 0800 731 0453
Iaith Arwyddion Prydain (BSL) os ydych ar gyfrifiadur – darganfyddwch sut i
Llinell Saesneg: 0800 731 0469
Ffôn testun Saesneg: 0800 731 0464
Dydd Llun i ddydd Gwener, 8am i 6pm (ac eithrio gwyliau cyhoeddus) Darganfyddwch fwy am gostau galwadau

Os ydych yn cael neu wedi gwneud cais am Gredyd Cynhwysol, gallwch naill ai:

  • ychwanegu neges at eich dyddlyfr ar eich cyfrif Credyd Cynhwysol
  • cysylltu â’r llinell gymorth Credyd Cynhwysol

Llinell gymorth Credyd Cynhwysol
Ffôn: 0800 328 1744
(os na allwch glywed neu siarad dros y ffôn): 18001 yna 0800 328 5644
Iaith Arwyddion Prydain (BSL) os ydych ar gyfrifiadur – darganfyddwch sut i
Llinell Saesneg: 0800 328 5644
Ffôn testun: 0800 328 1344
Dydd Llun i ddydd Gwener, 8am i 6pm
Darganfyddwch afwy m daliadau galwadau

5. Ad-dalu'ch benthyciad

Bydd angen i chi ad-dalu’ch benthyciad SMI fel cyfandaliad gyda llog os ydych yn gwerthu neu’n trosglwyddo perchnogaeth o’ch cartref.

Gall y llog rydych yn ei dalu gynyddu neu ostwng, ond ni fydd y gyfradd yn newid mwy na dwywaith y flwyddyn. Y gyfradd gyfredol yw 4.1%. Byddwch yn cael gwybod os yw hyn yn mynd i newid.

Bydd llog yn cael ei ychwanegu bob blwyddyn nes bod y benthyciad wedi’i ad-dalu’n llwyr neu ei ddileu.

Os byddwch yn marw cyn i chi ad-dalu’ch benthyciad SMI, ni fydd angen ei ad-dalu os gadewir eich cartref i bartner sy’n goroesi. Bydd angen ad-dalu’r benthyciad os caiff eich cartref ei adael i unrhyw un arall neu os caiff ei werthu.

Os byddwch yn gorffen talu eich morgais, ni fydd angen i chi ad-dalu eich benthyciad SMI oni bai eich bod yn gwerthu neu’n trosglwyddo perchnogaeth o’ch cartref.

Gwerthu’ch cartref

Ni ofynnir i chi werthu eich cartref er mwyn ad-dalu’ch benthyciad SMI.

Os byddwch yn gwerthu’ch cartref, byddwch yn ad-dalu’r benthyciad SMI o’r hyn sydd ar ôl ar ôl i chi dalu:

  • eich morgais
  • unrhyw fenthyciadau gwelliannau i’r cartref
  • unrhyw fenthyciadau eraill a ddiogelwyd yn erbyn eich cartref cyn i chi ddechrau cael SMI, gan gynnwys benthyciadau gwelliannau’r cartref.

Os nad oes gennych ddigon ar ôl i ad-dalu’r holl fenthyciad SMI, bydd yn rhaid i chi dalu’r hyn y gallwch yn ôl. Bydd gweddill y benthyciad yn cael ei ddileu.

Enghraifft 1 Rydych yn gwerthu eich eiddo am £95,000. Mae gennych £35,000 o’ch morgais ar ôl i’w dalu ac mae £4,500 yn ddyledus gennych am eich benthyciad SMI. Byddwch yn cael eich gadael gyda £55,500 ar ôl ad-dalu’ch benthyciad morgais a benthyciad SMI.

Enghraifft 2 Rydych yn gwerthu eich eiddo am £80,000. Mae gennych £71,000 ar ôl i dalu eich morgais ac mae £9,600 yn ddyledus gennych ar gyfer eich benthyciad SMI. Ar ôl ad-dalu’ch morgais dim ond digon o arian sydd gennych i ad-dalu £9,000 o’ch benthyciad SMI. Bydd y £600 sy’n weddill yn cael ei ddileu ac nid oes rhaid i chi ei ad-dalu.

Os ydych yn prynu cartref newydd

Efallai y gallwch drosglwyddo’r benthyciad i’ch cartref newydd. Cysylltwch â Rheoli Benthyciadau DWP cyn gynted ag y byddwch yn gwynod eich bod yn bwriadu symud, a chyn i chi gwblhau eich gwerthiant.

Rheoli Benthyciadau DWP
Ffôn: 0800 916 0567
(os na allwch glywed na siarad dros y ffôn): 18001 yna 0800 916 0567
Dydd Llun i ddydd Gwener, 8am i 6pm
Dargnfyddwch fwy am gostau galwadau

SMI Loan Management
Post Handling Site A
Wolverhampton
WV98 2DS

Bydd angen i chi roi manylion cyswllt eich cyfreithiwr i Reoli Benthyciadau DWP. Byddant yn gweithio gyda’ch cyfreithiwr i drefnu i’r benthyciad gael ei symud i’ch cartref newydd.

Bydd y swyddfa sy’n talu eich budd-dal cymwys hefyd yn gwrio ps ydych yn dal i fod yn gymwys.

Ad-daliadau gwirfoddol

Os ydych am dalu’r benthyciad yn ôl yn gyflymach, gallwch hefyd wneud ad-daliadau gwirfoddol. Yr ad-daliad gwirfoddol lleiaf yw £100 neu’r balans sy’n weddill os yw’n llai na £100.

Sut i ad-dalu

Cysylltwch ag Ad-daliad Benthyciad DWP i ofyn am ‘lythyr setliad’ - bydd hyn yn dweud wrthych faint sydd angen i chi ei dalu.

Gallwch dalu dros y ffôn neu fancio ar-lein gan ddefnyddio manylion y cyfrif banc yn eich llythyr setliad.

Ad-daliad Benthyciad DWP
Ffôn: 0800 916 0567
(os na allwch glywed na siarad dros y ffôn): 18001 yna 0800 916 0567
Dydd Llun i ddydd Gwener, 8am i 6pm
Darganfyddwch fwy am gostau galwadau

6. Cael cymorth ariannol arall gyda'ch costau tai

Gallwch barhau i gael cymorth ariannol gyda’ch costau tai os yw’ch Cymhorthdal Incwm, Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar incwm neu Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn seiliedig ar incwm yn mynd i ddod i ben oherwydd eich bod ar fin:

  • dychwelyd i’r gwaith yn llawn amser
  • gweithio mwy o oriau
  • ennill mwy o arian

Help a chymorth

Gallwch gael gwybodaeth am ddim am gymorth tai o: