Canllawiau

Cyfarwyddyd ymarfer 11: archwiliad a cheisiadau am gop茂au swyddogol

Diweddarwyd 11 Tachwedd 2024

Yn berthnasol i Gymru a Loegr

Sylwer bod cyfarwyddiadau ymarfer Cofrestrfa Tir EF wedi eu hanelu鈥檔 bennaf at gyfreithwyr a thrawsgludwyr eraill. Maent yn aml yn delio 芒 materion cymhleth ac yn defnyddio termau cyfreithiol.

1. Cyflwyniad

Mae鈥檙 cyfarwyddyd hwn yn cwmpasu archwilio鈥檙 gofrestr a sut i wneud ceisiadau am gop茂au swyddogol. Newidiodd Deddf Cofrestru Tir 2002 hawliau archwilio a chael cop茂au o brydlesi ac arwystlon y cyfeiriwyd atynt ar y gofrestr ac o ran dogfennau nas cyfeiriwyd atynt ar y gofrestr.

Mae gwasanaeth ar gyfer cael cop茂au o argraffiadau hanesyddol o鈥檙 gofrestr ar gael hefyd.

Lle rydym yn cyfeirio at ddogfennau, nid yw hyn yn golygu gweithredoedd teitl yn unig. Mae鈥檙 term hefyd yn cynnwys ffurflenni cais, gohebiaeth ac eitemau a gr毛wyd gennym neu a gomisiynwyd fel rhan o鈥檔 gwaith, er enghraifft, canlyniad arolwg o鈥檙 tir.

Mae鈥檙 un hawliau ar gael yn gyffredinol pa un ai ydych am archwilio鈥檔 bersonol neu wneud cais am gop茂au swyddogol. Byddwn yn delio ag elfennau cyffredin yn gyntaf ac yna gyda鈥檙 gwahanol ffurflenni cais.

2. Yr hyn sydd ar gael fel hawl o dan Reolau Cofrestru Tir 2003

Gyda rhai eithriadau pwysig y cyfeirir atynt yn Dogfennau nad ydynt ar gael fel hawl, gall unrhyw un wneud cais i archwilio neu gael cop茂au swyddogol o鈥檙 canlynol fel hawl:

  • y gofrestr neu gofrestr rhybuddiad teitl unigol
  • unrhyw gynllun teitl neu gynllun rhybuddiad teitl unigol
  • unrhyw ddogfen y cyfeiriwyd ati ar y gofrestr
  • unrhyw ddogfen nas cyfeiriwyd ati ar y gofrestr sy鈥檔 berthnasol i gais

Sylwer: Ni allwch ofyn am y wybodaeth hon o dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000, oherwydd ei bod 鈥渁r gael o fewn rheswm鈥 i chi o fewn ystyr adran 21 o Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000.

3. Dogfennau nad ydynt ar gael fel hawl

Ceir rhai eithriadau pwysig i hawliau cyffredinol archwilio a chop茂o. Y rhain yw:

  • dogfennau gwybodaeth eithriedig
  • dogfen gwybodaeth a olygwyd a ddisodlwyd gan ddogfen gwybodaeth arall a olygwyd o dan reolau 136(6) neu 138(4) o Reolau Cofrestru Tir 2003
  • ffurflen EX1A
  • ffurflen CIT ac unrhyw ffurflen sydd ynghlwm wrth ffurflen CIT ynghyd ag unrhyw ddogfennau neu gop茂au o ddogfennau a baratowyd neu a anfonwyd gan y cofrestrydd mewn ymateb i鈥檙 cais
  • gohebiaeth a dogfennau鈥檔 ymwneud 芒 hawliau indemniad
  • unrhyw ddogfen yn ymwneud 芒 chais am gytundeb mynediad i鈥檙 rhwydwaith o dan baragraff 1(4) Atodlen 5 i Ddeddf Cofrestru Tir 2002
  • unrhyw ddogfen o fewn adran 66(1)(c) o Ddeddf Cofrestru Tir 2002 a ddarparwyd, a baratowyd neu a gafwyd fel tystiolaeth hunaniaeth unrhyw unigolyn (megis ceisydd neu wrthwynebydd)
  • unrhyw ddogfen arall o fewn adran 66(1)(c) sy鈥檔 ymwneud ag atal neu ganfod trosedd 鈥 oni bai ei bod yn ddogfen:
    • a gyflwynwyd fel rhan o neu i gefnogi cais i鈥檙 cofrestrydd neu wrthwynebiad i gais
    • a baratowyd gan, neu ar gais, y cofrestrydd fel rhan o鈥檙 broses o ystyried cais neu wrthwynebiad ond nad yw鈥檔 cael ei baratoi鈥檔 bennaf mewn cysylltiad ag atal neu ganfod twyll

Gweler rheolau 133 ac 135 o Reolau Cofrestru Tir 2003.

Dylid gwneud ceisiadau i archwilio neu wneud copi o鈥檙 dogfennau hyn yn ysgrifenedig gan gynnwys, yn achos Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000, trwy ebost. Nid oes unrhyw ofyniad o dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 i鈥檙 ceisydd roi rheswm dros ofyn am y wybodaeth, ond gall gynorthwyo mewn achosion lle bo angen i Gofrestrfa Tir EF ystyried prawf lles y cyhoedd.

Lle dynodwyd dogfen yn ddogfen gwybodaeth eithriedig, mae modd gwneud cais am gopi llawn gan ddefnyddio ffurflen EX2 yn unol 芒 rheol 137 o Reolau Cofrestru Tir 2003 鈥 gweler cyfarwyddyd ymarfer 57: eithrio dogfennau o鈥檙 hawl gyffredinol i archwilio a chop茂o. Gallwch hefyd wneud cais ysgrifenedig yn unol 芒 Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000.

Sylwer: Gall fod peth oedi wrth ddelio 芒鈥檙 mathau hyn o geisiadau oherwydd efallai y bydd angen i ni gyflwyno rhybudd i unrhyw rai 芒 budd.

Mae gennym ymrwymiad i roi gwybodaeth o dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 o fewn 20 diwrnod gwaith. Os yw鈥檔 edrych yn debygol na fyddwn yn gallu gwneud hyn, byddwn yn eich hysbysu ymlaen llaw ac yn rhoi amcangyfrif i chi o鈥檙 amser tebygol i ddelio 芒鈥檆h cais.

Mae pob o鈥檙 un dogfennau uchod ar gael fel hawl i geiswyr Atodlen 5 sy鈥檔 gwneud cais o dan reol 140 o Reolau Cofrestru Tir 2003 ac sy鈥檔 defnyddio ffurflen CIT. (Mae鈥檙 rheol hon yn gymwys i鈥檙 heddlu a cheiswyr penodol eraill. Gweler cyfarwyddyd ymarfer 43: achosion llys, ansolfedd a rhwymedigaeth treth:ceisiadau i gael rhagor o wybodaeth).

4. Cop茂au swyddogol o gofrestri a chynlluniau teitl

Lle bo modd, dylid gwneud pob cais am gop茂au swyddogol yn electronig. Mae Atodiad: dulliau cyflenwi yn rhoi manylion am y dull cyflenwi ar gyfer ceisiadau am gop茂au swyddogol.

Sylwer mai dim ond trwy鈥檙 post gall cwsmeriaid sy鈥檔 ddinasyddion gyflwyno cais.

4.1 聽Gwneud cais electronig am gop茂au swyddogol electronig o gofrestr neu gynllun

Gallwch wneud cais am gop茂au swyddogol o鈥檙 gofrestr a鈥檙 cynllun trwy borthol Cofrestrfa Tir EF. Gweler Porthol Cofrestrfa Tir EF: sut i ofyn am gop茂au swyddogol am ragor o wybodaeth

Dylai ceiswyr e-wasanaethau busnes, Business Gateway a鈥檙 Gwasanaeth Gwybodaeth Tir Cenedlaethol ddewis yr opsiwn cyfatebol o鈥檙 ddewislen briodol.

Rhaid cynnwys y ffi a bennwyd o dan y Gorchymyn Ffi Cofrestru Tir cyfredol gyda鈥檙 cais. Gweler Cofrestrfa Tir EF: Ffioedd Gwasanaethau Gwybodaeth.

Fel rheol, bydd ceiswyr yn cael copi swyddogol electronig o gofrestr teitl, cynllun teitl, cofrestr rhybuddiad neu gynllun rhybuddiad, lle bo Cofrestrfa Tir EF yn dal y gwreiddiol ar ffurf electronig.

Bydd cop茂au swyddogol yn cael eu cyflwyno ar ffurf ffeil PDF. Yn ein barn, bydd print o鈥檙 ffeil PDF yn gopi swyddogol, ar yr amod nad yw鈥檙 ffeil PDF wedi cael ei haddasu na鈥檌 llygru ers ei derbyn. Hefyd, yn ein barn, os caiff y ffeil PDF ei hanfon ymlaen, ar yr amod nad yw wedi cael ei haddasu na鈥檌 llygru, bydd yn gyfwerth 芒 chopi swyddogol a bydd print o鈥檙 fath ffeil PDF heb ei newid na鈥檌 llygru yn gopi swyddogol.

Ceir achosion pan na ellir darparu copi swyddogol electronig 鈥 megis pan fo鈥檙 ddogfen yn fwy na 40 megabeit neu ddim yn cael ei chadw鈥檔 electronig. Pan na ellir darparu copi swyddogol electronig, anfonir copi swyddogol papur trwy鈥檙 post neu DX heb unrhyw gost ychwanegol i鈥檙 ceisydd. Wrth gyflwyno cais, gwnewch yn siwr eich bod yn rhoi鈥檙 cyfeiriad cywir ar gyfer dychwelyd y dogfennau hyn. Os yw鈥檙 cyfeiriad dychwelyd yn wahanol i鈥檙 un sy鈥檔 gysylltiedig 芒鈥檆h rhif allwedd, defnyddiwch y swyddogaeth 鈥楢lternative Address鈥 i roi鈥檙 cyfeiriad cywir.

Ceir dewis hefyd i weld y gofrestr a鈥檙 cynllun teitl yn electronig gan ddefnyddio鈥檙 dewisiadau 鈥楻egister View鈥 (HTML a PDF) a 鈥楾itle plan View鈥 (PDF). Fodd bynnag, o fewn ystyr adran 67 o Ddeddf Cofrestru Tir 2002, nid yw鈥檙 cofrestri a鈥檙 cynlluniau teitl hyn yn dderbyniadwy mewn llys yn yr un modd 芒 chopi swyddogol, felly efallai na fyddant yn rhoi鈥檙 hawl i berson gael ei indemnio gan y Cofrestrydd os yw鈥檔 dioddef colled oherwydd camgymeriad sydd ynddynt. Gellir chwyddo ffeiliau PDF fel y 鈥楾itle plan View鈥 i gael golwg well ar y lliwio neu rifo ar y cynllun teitl.

4.1.1 A yw鈥檙 ddogfen a gefais yn gopi swyddogol neu brint o gopi swyddogol?

Yn yr un ffordd i bob diben ag y byddech yn argyhoeddi eich hun bod dogfen bapur draddodiadol yn gopi swyddogol, bydd dwy ystyriaeth o gymorth i chi benderfynu: sut olwg sydd ar y ddogfen ac o ble y daeth?

O ran sut olwg sydd ar y ddogfen, oes golwg copi swyddogol arni ac oes yna unrhyw anghysondebau amlwg yn ffurf a threfn cyflwyno鈥檙 wybodaeth?

O ran o ble daeth y ddogfen, a honnwyd iddi ddod o e-wasanaethau busnes ar wefan Cofrestrfa Tir EF, y Gwasanaeth Gwybodaeth Tir Cenedlaethol neu, os anfonwyd hi ymlaen gan drydydd parti, a yw statws pwy bynnag a鈥檌 hanfonodd yn ei gwneud yn debygol ei bod yn gopi swyddogol?

4.2 聽Gwneud cais trwy鈥檙 post am gop茂au swyddogol o鈥檙 gofrestr gyfredol a鈥檙 cynllun teitl

Lle bo modd, dylid gwneud ceisiadau am gop茂au swyddogol yn electronig 鈥 gweler Gwneud cais electronig am gop茂au swyddogol o gofrestr neu gynllun.

Wrth wneud cais ar bapur, rhaid ichi lenwi ffurflen OC1 wrth gyflwyno cais papur sy鈥檔 cynnwys unrhyw gais am gopi swyddogol o gofrestr teitl rhybuddiad neu gynllun.

Rhaid cynnwys y ffi a bennwyd o dan y Gorchymyn Ffi Cofrestru Tir cyfredol gyda鈥檙 cais 鈥 gweler Cofrestrfa Tir EF: Ffioedd Gwasanaethau Gwybodaeth.

Cwblhewch bob panel perthnasol er mwyn inni allu delio 芒鈥檆h cais cyn gynted 芒 phosibl. Rhaid cwblhau panel 5 ffurflen OC1. Mae鈥檙 panel hwn yn cynnwys enw a chyfeiriad y ceisydd, a defnyddir y wybodaeth hon i anfon y ddogfen(nau) atoch. Byddwn yn gwrthod unrhyw gais lle nad yw panel 5 wedi ei gwblhau.

Lle gwyddys bod yr eiddo wedi ei gofrestru a bod ganddo gyfeiriad post (er enghraifft 145 Rhiw-las, Rhywle) ond nad yw鈥檙 rhif teitl ar gael yn rhwydd, gallwch ysgrifennu, 鈥榥odwch y rhif teitl鈥 mewn prif lythrennau ar ben y ffurflen neu ym mhanel 2. Rhaid ichi wedyn nodi natur y teitl mae gennych ddiddordeb ynddo yn ail ran panel 2.

Byddwn yn gwrthod ceisiadau 鈥榥odwch y rhif teitl鈥 gyda chyfeiriad nad yw鈥檔 gyfeiriad post (er enghraifft 鈥榯ir ar ochr orllewinol y Stryd Fawr, Rhywle鈥 neu 鈥33 Heol y M么r a thir gerllaw, Rhywle鈥). Byddwn yn gwrthod ceisiadau 鈥榥odwch y rhif teitl鈥 sy鈥檔 cael eu cynnwys gyda chynllun hyd yn oed os oes gan yr eiddo gyfeiriad post. Byddwn hefyd yn gwrthod ceisiadau o鈥檙 fath lle mae nifer y rhifau teitl a ddatgelir yn fwy na phump. Pan fyddwn yn gwrthod y ceisiadau hyn, byddwn yn gofyn ichi wneud cais am chwiliad o鈥檙 map mynegai gan ddefnyddio ffurflen SIM.

4.3 Cop茂au swyddogol yn gyffredinol

Mae amser a dyddiad ar gop茂au swyddogol o gofrestri a chynlluniau teitl bob amser i ddangos eu bod yn cynrychioli cofnod cywir o鈥檙 cofnodion ar y gofrestr a maint y teitl cofrestredig ar yr adeg benodol honno. Lle bo ceisiadau safonol yn aros i鈥檞 prosesu, bydd y dyddiad a鈥檙 amser yn cael eu h么l-ddyddio i adeg cyn derbyn y cais cynharaf sy鈥檔 aros i鈥檞 brosesu. Mae modd gwneud chwiliad swyddogol ar sail y gofrestr gopi i ddarparu manylion y ceisiadau sy鈥檔 aros i鈥檞 prosesu.

Nid oes dyddiad ar gop茂au swyddogol o ddogfennau am na fydd dogfennau yn cael eu newid fel arfer unwaith iddynt gael eu cofrestru.

Mae cop茂au swyddogol yn dderbyniol fel tystiolaeth i鈥檙 un graddau 芒鈥檙 gwreiddiol (adran 67 o Ddeddf Cofrestru Tir 2002).

O ran ceisiadau am gop茂au swyddogol a wnaed yn unol 芒 Rheolau Cofrestru Tir 2003, gweler Cofrestrfa Tir EF: 贵蹿茂辞别诲诲 Gwasanaethau Gwybodaeth. Mae ystyriaethau gwahanol yn gymwys i geisiadau am wybodaeth a wnaed yn unol 芒 Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000. Cysylltwch ag unrhyw un o swyddfeydd Cofrestrfa Tir EF i gael gwybodaeth.

Sylwer: Os oes unrhyw geisiadau sy鈥檔 aros i鈥檞 prosesu ynn Nghofrestrfa Tir EF yn effeithio ar y teitl o dan sylw, megis trosglwyddiad o ran, mae鈥檔 bosibl y byddwn wedi cwblhau鈥檙 gwaith mapio yn unig. Efallai y bydd lliwiau ychwanegol neu gyfeiriadau eraill, er enghraifft 鈥榳edi ei rifo 1鈥 yn ymddangos ar y cynllun teitl, ond efallai na fyddant wedi eu nodi yn y gofrestr eto. Efallai y bydd lliwiau neu gyfeiriadau eraill hefyd wedi eu newid neu wedi eu tynnu ymaith o鈥檙 cynllun teitl ond mae鈥檔 bosibl na fyddant wedi eu hadlewyrchu yn y gofrestr.

5. Dewis tystysgrif ar ffurf CI

Mae trefn arbennig ar gael, ar sail defnyddio cynllun ystad a gymeradwywyd yn swyddogol, i symleiddio prynu a gwerthu, neu brydlesu lleiniau ar deitl datblygu. Mae鈥檔 golygu defnyddio rhifau lleiniau cydnabyddedig ac, yn lle gwneud cais am gopi swyddogol o gynllun teitl, gallwch wneud cais am dystysgrif archwiliad.

Bydd y dystysgrif yn cadarnhau bod y llain o fewn teitl y gwerthwr a bydd hefyd yn datgelu a oes unrhyw gyfeiriadau ar gynllun teitl y gwerthwr sy鈥檔 effeithio arni. Gall hyn fod yn ddefnyddiol lle bo cynllun teitl y gwerthwr yn gymhleth.

Lle鈥檙 ydym wedi cymeradwyo cynllun ystad, dim ond rhif y llain sydd angen i chi ei roi.

Am ddisgrifiad mwy manwl o鈥檙 drefn hon, gweler cyfarwyddyd ymarfer 41: ystadau sy鈥檔 datblygu: gwasanaethau cofrestru.

Os oes angen tystysgrif ar ffurf CI arnoch mewn perthynas ag unrhyw deitl lle nad ydym wedi cymeradwyo cynllun ystad, rhaid i chi gyflwyno cynllun manwl gywir yn ddyblyg (ar raddfa 1/2500 neu fwy) sy鈥檔 dangos, mewn perthynas 芒鈥檙 manylyn sy鈥檔 cael ei ddangos ar y cynllun teitl, union leoliad a maint y rhan o鈥檙 teitl sydd o ddiddordeb i chi.

Sylwer: Os oes unrhyw geisiadau sy鈥檔 aros i鈥檞 prosesu yng Nghofrestrfa Tir EF yn effeithio ar y teitl o dan sylw, megis trosglwyddiad o ran, mae鈥檔 bosibl y byddwn wedi cwblhau鈥檙 gwaith mapio yn unig. Efallai y bydd lliwiau ychwanegol neu gyfeiriadau eraill, er enghraifft 鈥榳edi ei rifo 1鈥 yn ymddangos ar y cynllun teitl ac yn cael eu cyfeirio atynt yn ffurflen CI, ond efallai na fyddant wedi eu nodi yn y gofrestr eto. Efallai y bydd lliwiau neu gyfeiriadau eraill hefyd wedi eu newid neu wedi eu tynnu ymaith o鈥檙 cynllun teitl ond mae鈥檔 bosibl na fydd cyfeiriad atynt yn ffurflen CI.

5.1 Sut i wneud cais am dystysgrif archwilio

Dylid gwneud ceisiadau yn electronig trwy ein gwasanaethau digidol, trwy ddewis 鈥榬equest official copies鈥 yn ein gwasanaethau digidol. Wrth wneud cais electronig, gwnewch yn siwr eich bod yn darparu鈥檙 holl wybodaeth berthnasol wrth wneud cais am gopi swyddogol.

Dim ond trwy鈥檙 post neu DX gellir anfon canlyniad cais CI. Wrth gyflwyno cais felly, gwnewch yn siwr eich bod yn rhoi鈥檙 cyfeiriad cywir ar gyfer y rhain er mwyn i鈥檙 dogfennau hyn gael eu dychwelyd. Os yw鈥檙 cyfeiriad dychwelyd yn wahanol i鈥檙 un sy鈥檔 gysylltiedig 芒鈥檆h rhif allwedd, defnyddiwch y swyddogaeth 鈥楢lternative Address鈥 i roi鈥檙 cyfeiriad cywir.

Fel arall, gellir gwneud cais trwy鈥檙 post, ar ffurflen OC1, trwy lenwi adran CI ffurflen CI panel 7.

6. Cop茂au swyddogol o ddogfennau

Lle bo modd, dylid gwneud pob cais am gop茂au swyddogol yn electronig. Mae Atodiad: dulliau cyflenwi yn rhoi manylion am y dull cyflenwi ar gyfer ceisiadau am gop茂au swyddogol.

Sylwer mai dim ond trwy鈥檙 post gall cwsmeriaid sy鈥檔 ddinasyddion gyflwyno cais.

6.1 Gwneud cais electronig am gop茂au swyddogol o ddogfennau

Lle mae Cofrestrfa Tir EF yn cadw鈥檙 gwreiddiol mewn fformat electronig, dylid gwneud ceisiadau yn electronig, trwy ddewis 鈥榬equest official copies鈥 yn ein gwasanaethau digidol.

Bydd pob cais yn cael copi swyddogol electronig o ddogfen y cyfeirir ati yn y gofrestr, lle:

Bydd y copi swyddogol electronig yn cael ei ddosbarthu ar ffurf ffeil PDF, a fydd yn cynnwys tudalen arweiniol sy鈥檔 rhan o鈥檙 copi swyddogol. Yn ein barn ni, bydd print o鈥檙 ffeil PDF sy鈥檔 cynnwys yr arweiniad a鈥檙 holl dudalennau dilynol yn gopi swyddogol, ar yr amod nad yw鈥檙 ffeil PDF cael ei haddasu na鈥檌 llygru ers ei derbyn. Hefyd yn ein barn ni, os caiff y ffeil PDF ei hanfon ymlaen, ar yr amod nad yw wedi cael ei haddasu na鈥檌 llygru, bydd yn gyfwerth 芒 chopi swyddogol a bydd print o ffeil PDF o鈥檙 fath heb ei haddasu na鈥檌 llygru yn gopi swyddogol.

Ceir achosion pan na ellir darparu copi swyddogol electronig 鈥 megis pan fo鈥檙 ddogfen yn fwy na 40 megabeit neu ddim yn cael ei chadw鈥檔 electronig. Pan na ellir darparu copi swyddogol electronig, anfonir copi swyddogol papur trwy鈥檙 post neu DX heb unrhyw gost ychwanegol i鈥檙 ceisydd. Wrth gyflwyno cais, gwnewch yn siwr eich bod yn rhoi鈥檙 cyfeiriad cywir ar gyfer dychwelyd y dogfennau hyn. Os yw鈥檙 cyfeiriad dychwelyd yn wahanol i鈥檙 un sy鈥檔 gysylltiedig 芒鈥檆h rhif allwedd, defnyddiwch y swyddogaeth 鈥楢lternative Address鈥 i roi鈥檙 cyfeiriad cywir.

6.1.1 Sut gallaf fodloni fy hunan bod y ddogfen a gafwyd yn gopi swyddogol electronig neu鈥檔 brint o gopi swyddogol electronig o ddogfen?

Os oes angen ichi fodloni eich hunan bod dogfen yn gopi swyddogol, bydd dwy ystyriaeth yn helpu.

  • A yw鈥檔 ymddangos bod y ddogfen yn gyflawn; a oes unrhyw anghysondebau amlwg?
  • A oedd y ddogfen yn honni ei bod yn dod o e-wasanaethau Busnes, Business Gateway, y Gwasanaeth Gwybodaeth Tir Cenedlaethol neu, os caiff ei hanfon ymlaen gan drydydd parti, a yw statws y person hwnnw yn ei gwneud yn debygol ei fod yn gopi swyddogol?

6.2 Gwneud cais trwy鈥檙 post am gop茂au swyddogol o ddogfennau

Lle bo angen, gallwch wneud cais ar bapur am gop茂au o ddogfennau sydd ar gael fel hawl dan reol 135 o Reolau Cofrestru Tir 2003. I wneud cais rhaid ichi lenwi ffurflen OC2.

Rhaid cynnwys y ffi a bennwyd o dan y Gorchymyn Ffi Cofrestru Tir cyfredol gyda鈥檙 cais 鈥 gweler Cofrestrfa Tir EF: Ffioedd Gwasanaethau Gwybodaeth.

Cwblhewch bob panel perthnasol er mwyn inni allu delio 芒鈥檆h cais cyn gynted 芒 phosibl. Rhaid cwblhau panel 5 ffurflen OC2. Mae鈥檙 panel hwn yn cynnwys enw a chyfeiriad y ceisydd, a defnyddir y wybodaeth hon i anfon y ddogfen(nau) atoch. Byddwn yn gwrthod unrhyw gais lle nad yw panel 5 wedi ei gwblhau.

Ni allwch ofyn am hyn o dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000, gan ei fod yn 鈥渞hesymol hygyrch鈥 ichi o fewn ystyr adran 21 o Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000. Os ydych yn gwneud cais o dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 am gop茂au o ddogfennau nad ydynt ar gael fel hawl, rhaid ichi wneud cais ysgrifenedig, ond gall hyn fod trwy ebost.

6.3 Dogfennau y cyfeirir atynt ar y gofrestr

Nodwch y ddogfen sydd arnoch ei hangen a鈥檌 dyddiad. Os yw鈥檙 cofnod ar y gofrestr yn datgan bod y ddogfen wedi ei ffeilio o dan rif teitl arall dywedwch hyn yn eich cais gan y bydd o gymorth i ni wrth ei brosesu.

Os oes mwy nag un weithred o鈥檙 un dyddiad a math, a鈥檆h bod yn gwneud cais trwy鈥檙 porthol, dewiswch y ddogfen gywir trwy gyfeirio at ei chofnod ar y gofrestr.

Os cyflwynir eich cais trwy Business Gateway, gwnewch gais am fath o ddogfen 鈥榓rall鈥 a rhowch wybodaeth ychwanegol megis rhif cofnod cofrestr y weithred a鈥檌 phart茂on.

Sylwer y bydd ceisiadau sy鈥檔 gofyn am 鈥榟oll鈥 neu 鈥榰nrhyw鈥 ddogfennau yn cael eu gwrthod.

6.3.1 Pan na fydd cop茂au swyddogol o ddogfennau ar gael i鈥檞 harchebu

Nid yw pob dogfen y cyfeirir ati yn y gofrestr yn cael ei chadw ar ffeil. Yn aml, caiff detholiadau o ddogfennau eu gosod yn y gofrestr heb i鈥檙 ddogfen gael ei chadw.

Edrychwch ar y gofrestr yn gyntaf oherwydd efallai bydd 鈥楴odyn鈥 yno sy鈥檔 egluro鈥檔 benodol nad yw copi o ddogfen benodol wedi ei gadw:

  • Os oes dogfen wedi ei chadw ar ffeil a鈥檌 bod ar gael i ofyn amdani fel copi swyddogol, ychwanegir 鈥楴odyn鈥 yn dweud 鈥楥opi yn y ffeil鈥 neu eiriau i鈥檙 perwyl hwnnw.
  • Os nad oes 鈥楴odyn鈥 i ddangos bod dogfen wedi ei chadw ar ffeil, mae鈥檔 annhebygol o fod ar gael, hyd yn oed os yw wedi ei chrybwyll fel rhan o gofnod sy鈥檔 ymwneud 芒 dogfen arall.

6.4 Dogfennau nas cyfeirir atynt ar y gofrestr

Os ydych yn gwybod manylion y ddogfen sydd ei hangen arnoch, rhowch hwynt yn eich cais. Dylech gyfeirio at y 鈥榤ath鈥 o ddogfen (trosglwyddiad, prydles, trawsgludiad) a darparu dyddiad y ddogfen.

Os nad ydych yn gwybod yr union fanylion, rhowch gymaint o wybodaeth ag y gallwch, ee 鈥榯rosglwyddiad i Mr a Mrs Davies yn 1985鈥.

Dylech osgoi ceisiadau am 鈥榟oll鈥 neu 鈥榰nrhyw鈥 ddogfennau lle bo modd. Mae鈥檙 gair 鈥榙ogfen鈥 yn cynnwys amrywiaeth eang o bapurau yn ogystal 芒 gweithredoedd, er enghraifft gohebiaeth, ffurflenni cais ac arolygon. Pe byddem i gop茂o鈥檙 holl ddogfennau yn ein ffeiliau ar gyfer teitl penodol gallai鈥檙 ffi fod yn sylweddol iawn.

Mae 鈥榙ogfen鈥 hefyd yn cynnwys dogfennau electronig y gallwn fod wedi eu paratoi fel rhan o broses greu neu newid y gofrestr. Ni fyddwn yn cyflenwi cop茂au o鈥檙 dogfennau electronig hyn oni bai eich bod yn gofyn yn benodol amdanynt gan na fyddent yn ychwanegu fawr at y darlun cyflawn yn y rhan fwyaf o achosion a dim ond yn ychwanegu at eich costau.

Os nad ydych yn ei gwneud yn glir yn eich cais, efallai y bydd angen inni gysylltu 芒 chi dros y ff么n yn y lle cyntaf i weld pa gop茂au yn union o ddogfennau sydd eu hangen arnoch.

7. Cop茂au hanesyddol o鈥檙 gofrestr neu鈥檙 cynllun teitl a gedwir ar ffurf electronig

Mae adran 69 o Ddeddf Cofrestru Tir 2002 yn caniat谩u i鈥檙 cofrestrydd roi gwybodaeth am hanes teitl cofrestredig. O dan reol 144 o Reolau Cofrestru Tir 2003 gallwch wneud cais am gop茂au o argraffiadau cynharach o gofrestr neu gynllun teitl unrhyw deitl a gedwir ar ffurf electronig.

Dylech wneud cais am gop茂au hanesyddol o鈥檙 gofrestr neu gynllun teitl, trwy鈥檙 porthol, gweler y canllaw ar gwblhau sgriniau porthol Porthol Cofrestrfa Tir EF: gwneud cais am gop茂au hanesyddol.

Dylai ceiswyr e-wasanaethau busnes ddewis yr opsiwn cyfatebol o鈥檙 ddewislen briodol. Bydd y canlyniad yn cael ei anfon trwy鈥檙 post.

Lle bo angen, gallwch wneud cais am gopi o鈥檙 gofrestr neu gynllun teitl sy鈥檔 cynnwys gwybodaeth hanesyddol trwy鈥檙 post. I wneud cais, rhaid ichi lenwi ffurflen HC1 鈥 gweler Llenwi ffurflen HC1. Gweler Cofrestrfa Tir EF: 贵蹿茂辞别诲诲 Gwasanaethau Gwybodaeth am y ff茂oedd sy鈥檔 daladwy.

7.1 Pa wybodaeth sydd ar gael?

Nid yw鈥檙 holl wybodaeth a ddaliwn ar gael ar ffurf electronig.

Mae鈥檔 bosibl na fydd cop茂au cofrestredig hanesyddol yn rhoi cofnod llawn o鈥檙 holl drafodion a wnaed. Gall cais unigol yn cynnwys mwy nag un trafodiad neu nifer o geisiadau wedi eu prosesu ar yr un pryd beri bod y gofrestr yn adlewyrchu鈥檙 trafodiad terfynol yn unig.

Gall gwybodaeth am hanes y gofrestr fod ar gael am ddyddiadau ar 么l 4 Mai 1993 Gall gwybodaeth am gynllun teitl fod ar gael am ddyddiadau ar 么l 13 Hydref 2003 (cediwr gwybodaeth gyfyngedig am gynlluniau teitl cyn y dyddiad hwn).

7.2 Llenwi ffurflen HC1

Dylech lenwi ffurflen HC1 gan ddangos a oes arnoch angen naill ai:

  • copi o argraffiad diwethaf y gofrestr neu gynllun teitl oedd yn bod ar ddyddiad penodol
  • copi o holl argraffiadau鈥檙 gofrestr neu gynllun teitl oedd yn bod ar ddyddiad penodol

Gallwn wrthod eich cais oni bai eich bod yn rhoi dyddiad llawn yn cynnwys:

  • blwyddyn
  • mis
  • diwrnod

7.3 Beth os nad yw鈥檙 wybodaeth sydd arnaf ei heisiau ar gael ar ffurf electronig?

Os nad ydym yn dal y wybodaeth sydd arnoch ei hangen ar ffurf electronig, efallai ein bod yn dal cop茂au papur o argraffiadau cynharach o鈥檙 gofrestr neu gynllun teitl ac efallai y gallwn eich cynorthwyo a rhoi cop茂au i chi os byddwch yn gwneud cais ysgrifenedig o dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000.

Os ydych yn ansicr o union natur y wybodaeth i ofyn amdani rydym yn argymell eich bod yn gwneud eich ymholiad dechreuol trwy lythyr a鈥檆h bod yn darparu:

  • cymaint o wybodaeth ag y bo modd am eich ymholiad
  • y rheswm mae angen y wybodaeth arnoch chi

Bydd hyn yn ein galluogi i benderfynu a ydym yn gallu darparu鈥檙 wybodaeth sydd arnoch ei hangen.

8. Archwiliad personol yn un o swyddfeydd Cofrestrfa Tir EF

I wneud cais am archwiliad personol, rhaid ichi lenwi ffurflen PIC.

Os ydych yn gwneud cais o dan Reolau Cofrestru Tir 2003 am wybodaeth sydd ar gael 鈥榝el hawl鈥, gweler Yr hyn sydd ar gael fel hawl o dan Reolau Cofrestru Tir 2003.

Unwaith daw eich cais i law, byddwn yn cysylltu 芒 chi i drafod eich cais.

9. 贵蹿茂辞别诲诲

O ran ceisiadau am gop茂au swyddogol a wnaed yn unol 芒 Rheolau Cofrestru Tir 2003, gweler Cofrestrfa Tir EF: 贵蹿茂辞别诲诲 Gwasanaethau Gwybodaeth. Mae ystyriaethau gwahanol yn gymwys i geisiadau am wybodaeth a wnaed yn unol 芒 Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000. Cysylltwch 芒 Chofrestrfa Tir EF i gael rhagor o wybodaeth. Dyma鈥檙 dulliau talu.

9.1 Debyd uniongyrchol newidiol

Mae cynllun debyd uniongyrchol newidiol Cofrestrfa Tir EF yn caniat谩u i geiswyr dalu eu ff茂oedd yn electronig ar gyfer holl wasanaethau Cofrestrfa Tir EF. Gellir talu trwy ddebyd uniongyrchol ar gyfer unrhyw gais a gyflwynir trwy鈥檙 post. Rhaid talu trwy ddebyd uniongyrchol ar gyfer ceisiadau a gyflwynir trwy e-wasanaethau busnes a Business Gateway.

Bydd ceisiadau a gyflwynwyd heb ffi neu heb y cyfarwyddiadau debydu priodol yn cael eu gwrthod.

9.2 Siec

Dylai ceisydd nad oes ganddo gyfrif debyd uniongyrchol newidiol dalu trwy amg谩u siec neu archeb bost yn daladwy i 鈥楥ofrestrfa Tir EF鈥.

9.3 Archwiliad personol yn swyddfa Cofrestrfa Tir EF

Gall cwsmeriaid personol dalu gyda siec, archeb bost, arian parod, cerdyn credyd neu ddebyd.

9.4 Ad-daliadau

Lle y mae鈥檙 crynodeb gweithred perthnasol wedi ei osod yn y gofrestr a dim ond cynllun sydd wedi cael ei gadw, dim ond cynllun gaiff ei anfon a chodir y ffi arferol. Ni roddir ad-daliadau pan fo鈥檙 gofrestr yn nodi鈥檔 glir mai dim ond cynllun sydd wedi cael ei gadw. Dylech gael copi o fersiwn ddiweddaraf y gofrestr, neu ddarllen copi ohono, i weld a oes copi o鈥檙 ddogfen wedi ei gadw gan Gofrestrfa Tir EF. Gweler Pryd na fydd efallai yn bosibl archebu cop茂au swyddogol o ddogfennau.

10. Atodiad: dulliau cyflenwi

Mae sawl ffordd i gyflwyno cais am gopi swyddogol.

Dull cyflwyno OC1 OC2 EX1 HC1
Y porthol Ar gael Ar gael Ddim ar gael Ar gael
Business Gateway Ar gael Ar gael Ddim ar gael Ar gael
NLIS Ar gael Ar gael Ddim ar gael Ddim ar gael
Ebost Ddim ar gael Ddim ar gael Ddim ar gael Ddim ar gael
Post/DX (papur) Ar gael Ar gael Ar gael Ar gael

11. Pethau i鈥檞 cofio

Er mwyn atal eich cais rhag cael ei wrthod, cyn cyflwyno eich cais inni, gwnewch yn siwr:

  • eich bod yn glir yn eich cais ynghylch pa ddogfen sydd ei hangen arnoch
  • eich bod yn gwneud cais am bob dogfen sydd ei hangen
  • eich bod yn cynnwys y math o ddogfen ac union ddyddiad neu ddyddiad bras. Os nad oes dyddiad ar gael, dylid darparu unrhyw wybodaeth ychwanegol, megis y part茂on perthnasol neu at ba ddiben y mae angen y ddogfen
  • nad yw darnau o鈥檙 ddogfen sydd ei hangen arnoch wedi鈥檜 鈥榞osod allan鈥 yn y gofrestr 鈥 o dan yr amgylchiadau hyn, ni fyddai鈥檙 ddogfen ei hun fel arfer wedi ei chadw
  • nad yw鈥檙 gofrestr eisoes yn cynnwys nodyn sy鈥檔 bodoli yn nodi nad oes copi o鈥檙 ddogfen yn cael ei gadw gan Gofrestrfa Tir EF neu na chafodd copi o鈥檙 ddogfen ei ddarparu ar gofrestriad cyntaf

Dim ond gwybodaeth ffeithiol a chyngor diduedd ynghylch ein gweithdrefnau rydym yn eu darparu. Darllenwch ragor am y cyngor rydym yn ei roi.