Cyfarwyddyd ymarfer 22: maenorau
Diweddarwyd 24 Mehefin 2015
Yn berthnasol i Gymru a Loegr
Sylwer bod Cyfarwyddiadau Ymarfer Cofrestrfa Tir EF wedi eu hanelu鈥檔 bennaf at gyfreithwyr a thrawsgludwyr eraill. Maent yn aml yn delio 芒 materion cymhleth ac yn defnyddio termau cyfreithiol.
1. Cyflwyniad
Mae tarddiad maenorau yn hynafol yn dyddio ers cyn dyddiau鈥檙 Normaniaid. Rhodd wreiddiol y Goron neu uwch-arglwydd sy鈥檔 penderfynu maint y faenor fel arfer. Roedd maenor yn hunangynhwysol gyda鈥檌 harferion a鈥檌 hawliau ei hun o fewn ei chylch diffiniedig.
Mae tair elfen ar wah芒n o faenorau sy鈥檔 gallu effeithio ar Gofrestrfa Tir EF.
- Arglwyddiaeth y faenor: mae hawl gan bwy bynnag sy鈥檔 meddu arglwyddiaeth y faenor i gyfeirio at eu hunain fel arglwydd y faenor honno, er enghraifft, Arglwydd maenor Keswick
- Tir maenoraidd: oherwydd bod maenor yn ardal ddiffiniedig roedd yn cynnwys y tir diriaethol o fewn yr ardal honno. Gallai tir o鈥檙 fath fod naill ai鈥檔 rhydd-ddaliol neu brydlesol
- Hawliau maenoraidd: hawliau oedd yn rhan hanfodol o鈥檙 teitl maenoraidd ac oedd yn cael eu cadw fel arfer gan yr arglwydd wrth gael gwared ar rannau o鈥檙 tir maenoraidd, er enghraifft, yr hawl i hela, saethu neu bysgota
Gall yr elfennau hyn fodoli ar wah芒n neu鈥檔 gyfunol. Nid oes modd ymrannu teitl yr arglwyddiaeth, ond mae modd gwneud hynny gyda鈥檙 tir maenoraidd a鈥檙 hawliau maenoraidd.
Mae鈥檔 hawdd peri dryswch, gan y gall 鈥榤aenor鈥 gyfeirio at naill ai鈥檙 arglwyddiaeth a/neu鈥檙 tir maenoraidd.
2. Teitlau arglwyddiaeth
2.1 Cofnodion yng ngofal Cofrestrfa Tir EF
Yn syml, arglwyddiaeth y faenor yw enw arglwydd y faenor. Mewn llawer achos gall yr enw fod heb unrhyw dir na hawliau ynghlwm wrtho mwyach. Oherwydd ei darddiad a diffyg sylwedd diriaethol, caiff ei alw yn 鈥榟ereditament anghorfforol鈥. Ystyr hereditament anghorfforol yw 鈥榖udd heb unrhyw fodolaeth ddiriaethol鈥.
Cyn 13 Hydref 2003, sef dechrau Deddf Cofrestru Tir 2002, roedd modd cofrestru鈥檙 teitlau arglwyddiaeth hyn. Fodd bynnag, roedd y cofrestru bob amser yn wirfoddol ac ni cheisiodd y rhan fwyaf gofrestru teitl yr arglwyddiaeth. Rydym yn dal i gadw mynegai teitlau arglwyddiaeth cofrestredig. Mae cyfarwyddyd ymarfer 13: mynegai rhyddfreintiau a maenorau cysylltiedig 鈥 chwiliadau swyddogol yn egluro trefnau chwilio鈥檙 mynegai.
Mae cofrestr unigol ar gyfer pob teitl cofrestredig. Bydd hon yn cynnwys enw a chyfeiriad y perchennog cofrestredig presennol, a ddylai allu ateb eich ymholiadau ynghylch y buddion maenoraidd (os oes rhai) sy鈥檔 effeithio ar y tir o dan sylw. Oherwydd eu natur, nid oes cynlluniau teitl ar gyfer teitlau arglwyddiaeth ac ni fyddwn yn dal unrhyw gofnod swyddogol o faint y faenor wreiddiol.
2.2 Cofrestru o dan Ddeddf Cofrestru Tir 2002
Oddi ar 13 Hydref 2003, nid oes modd gwneud cais am gofrestriad cyntaf teitl arglwyddiaeth mwyach. Fodd bynnag, mae unrhyw ddeliad 芒 theitlau cofrestredig presennol yn peri cofrestru gorfodol. Mae hyn yn cynnwys rhoi prydles (o unrhyw gyfnod) allan o deitl arglwyddiaeth cofrestredig.
2.3 Datgofrestru
Gall perchennog cofrestredig teitl arglwyddiaeth wneud cais i ddatgofrestru teitl (adran 119 o Ddeddf Cofrestru Tir 2002). Yn yr achos hwn bydd teitl yr arglwyddiaeth yn dal i fodoli oddi ar y gofrestr ond, fel mwyafrif y teitlau hyn, ni fyddwn yn dal unrhyw gofnod ohono.
Dylai鈥檙 perchennog cofrestredig, neu ei gynrychiolydd cyfreithiol, wneud cais, gan ddefnyddio . Dylid llenwi paneli canlynol y ffurflen.
- Ardal awdurdod lleol yn gwasanaethu鈥檙 ardal
- Rhif teitl y teitl arglwyddiaeth cofrestredig
- Nid oes modd rhannu arglwyddiaeth maenor unigol. Felly, oni bai bod y teitl yn cynnwys mwy nag un faenor, rhowch 鈥榅鈥 gyferbyn 芒鈥檙 datganiad cyntaf
- Rhowch natur y cais fel 鈥渄atgofrestru maenor鈥. Nid oes dim i鈥檞 dalu
- Rhowch enw鈥檙 person sy鈥檔 gwneud cais i ddatgofrestru鈥檙 faenor
- Rhowch enw a chyfeiriad y person sy鈥檔 cyflwyno鈥檙 cais
- Llenwch y panel hwn dim ond os byddwch am i ni ddweud wrth rywun arall ar 么l cwblhau鈥檙 cais
- Rhaid i鈥檙 ceisydd neu ei gynrychiolydd cyfreithiol arwyddo
Anfonwch eich cais i swyddfa gywir Cofrestrfa Tir EF.
3. Tir maenoraidd
Tir maenoraidd yw鈥檙 tir oedd yn wreiddiol yn rhan o dirddaliadaeth arglwyddiaeth y faenor ac na throsglwyddwyd ar wah芒n i deitl yr arglwyddiaeth. Gall tir maenoraidd fod yn helaeth, neu gall fod yn gasgliad o ddarnau bach o dir gwasgaredig, a all fod dros ardal eang.
Mae tir maenoraidd yn ddarostyngedig i gofrestriad gorfodol yn yr un ffordd ag unrhyw dir diriaethol (corfforol) arall.
Defnyddiwch ffurflen SIM i weld a yw tir wedi ei gofrestru neu鈥檔 destun cais cofrestriad cyntaf sy鈥檔 aros i鈥檞 brosesu 鈥 gweler cyfarwyddyd ymarfer 10: map mynegai 鈥 chwiliad swyddogol.
Os nad oes angen darpariaethau indemniad arnoch o ran chwiliad o鈥檙 map mynegai, gallech ystyried defnyddio MapSearch. Mae鈥檙 gwasanaeth hwn ar gael i gwsmeriaid e-wasanaethau Busnes sydd 芒 mynediad i鈥檙 porthol.
4. Hawliau maenoraidd
4.1 Gall teitl arglwyddiaeth fod heb fudd hawliau
Gall arglwydd maenor ymarfer hawliau penodol, fel arfer yn dwyn yr enw 鈥榥odweddion maenoraidd鈥. Nid oedd modd creu hawliau o鈥檙 fath mwyach ar 么l 1925. Mae modd crynhoi鈥檙 prif hawliau maenoraidd fel:
- hawliau hela鈥檙 arglwydd
- hawliau mwyngloddiau neu fwynau鈥檙 arglwydd neu鈥檙 tenant
- hawl yr arglwydd i gynnal ffeiriau a marchnadoedd
- cyfrifoldeb yr arglwydd neu鈥檙 tenant dros adeiladu, cynnal a thrwsio cloddiau, ffosydd, camlesi a gwaith arall
Enghreifftiau yn unig yw鈥檙 rhain ac nid yw鈥檔 golygu o angenrheidrwydd bod hawliau o鈥檙 fath yn gyfreithiol arferadwy. Fel arfer, nid yw teitl arglwyddiaeth cofrestredig yn cyfeirio at unrhyw nodweddion maenoraidd ar y gofrestr. Gall fod nad oedd budd yr hawliau yn rhan o werthu teitl yr arglwyddiaeth cyn hynny.
4.2 Tir 芒 hawliau arno
Wrth gofrestru eiddo am y tro cyntaf, gallwn wneud cofnod ar y gofrestr eiddo os bydd yn ymddangos y gall fod hawliau maenoraidd yn dal ar y tir. Gall fod fel hyn os bydd gweithredoedd yr eiddo yn dangos bod y tir yn gopiddaliad gynt (hy yn cael ei ddal trwy arglwydd y faenor) a bod yr hawliau wedi eu cadw ar adeg rhyddfreinio (pan droswyd y teitl yn rhydd-ddaliad).
4.3 Effaith Deddf Cofrestru Tir 2002
Yn 么l Deddf Cofrestru Tir 2002 caiff hawliau maenoraidd eu dosbarthu fel buddion gor-redol, fel bod tirfeddiannwr yn eu derbyn hyd yn oed os nad ydynt yn cael eu crybwyll ar eu cofrestr. Fodd bynnag, o dan adran 117 o Ddeddf Cofrestru Tir 2002 bydd yr hawliau hyn yn colli eu statws gor-redol ar 么l 12 Hydref 2013 (10 mlynedd ar 么l i鈥檙 Ddeddf ddod i rym). Lle nad yw hawliau maenoraidd wedi eu gwarchod trwy rybudd neu rybuddiad yn erbyn cofrestriad cyntaf cyn 13 Hydref 2013, nid ydynt yn peidio 芒 bod yn awtomatig ar y dyddiad hwnnw. Nodir y sefyllfa yn Cofrestrwyd y tir ar 么l 12 Hydref 2013 a Cofrestrwyd y tir cyn 13 Hydref 2013.
Mae鈥檔 ddyletswydd ar geiswyr i ddatgelu hawliau maenoraidd ar holl gofrestriadau cyntaf neu warediadau o dir cofrestredig. I gael rhagor o wybodaeth gweler cyfarwyddyd ymarfer 15: buddion gor-redol a鈥檜 dadlennu.
Gall rhywun gyda鈥檙 budd wneud cais i nodi bodolaeth nodweddion maenoraidd ar gofrestr teitl sydd 芒 hwy arno. Rhaid i鈥檙 ceisydd ein bodloni o fodolaeth yr hawliau. Nid oes dim i鈥檞 dalu. I gael rhagor o wybodaeth, gweler cyfarwyddyd ymarfer 66: buddion gor-redol yn colli gwarchodaeth awtomatig yn 2013 sy鈥檔 ymdrin 芒 buddion trydydd parti.
Os yw鈥檙 tir sydd 芒鈥檙 hawliau arno鈥檔 ddigofrestredig, mae modd eu diogelu heb daliad trwy rybuddiad yn erbyn cofrestriad cyntaf, gweler cyfarwyddyd ymarfer 3: rhybuddiadau yn erbyn cofrestriad cyntaf.
4.3.1 Cofrestrwyd y tir ar 么l 12 Hydref 2013
Cyn cofrestriad cyntaf, bydd perchennog cyfreithiol y tir yn rhwym wrth unrhyw hawliau maenoraidd gan eu bod yn fuddion cyfreithiol. Ar gofrestriad cyntaf byddant yn dal yr ystad yn rhydd o hawliau maenoraidd oni bai eu bod yn cael eu gwarchod trwy rybudd ar adeg cofrestriad cyntaf.
4.3.2 Cofrestrwyd y tir cyn 13 Hydref 2013
Hyd yn oed os nad yw鈥檙 budd wedi ei warchod gan gofnod rhybudd yn y gofrestr, bydd y tir yn parhau鈥檔 ddarostyngedig iddo. Ond os nad yw rhybudd o鈥檙 fath yn cael ei gofnodi, bydd person sy鈥檔 caffael yr ystad gofrestredig am gydnabyddiaeth am werth trwy warediad cofrestradwy ar 么l 12 Hydref 2013 yn cymryd o鈥檙 budd hwnnw am ddim (adran 29 o Ddeddf Cofrestru Tir 2002). Hyd nes i warediad o鈥檙 fath gael ei gofrestru, gall y person sydd 芒 mantais y budd wneud cais i鈥檞 warchod trwy gofnodi rhybudd.
5. Rhagor o wybodaeth
Gall y canlynol gynorthwyo wrth ymchwilio maenor.
- mae鈥檙 Archifau Cenedlaethol, Ruskin Avenue, Kew, Richmond, Surrey TW9 4DU yn dal cofnodion swyddogol gan gynnwys dosraniadau a mapiau degwm a phrisiadau a wnaed gan gomisiynwyr Deddf Cyllid 1909-10 yn ogystal 芒鈥檙 Gofrestr Dogfennau Maenoraidd.
The National Archives,
Ruskin Avenue,
Kew,
Richmond,
Surrey TW9 4DU
- yn aml bydd archifdai sirol yn dal dyfarniadau a mapiau cau tir comin, rholiau llys, arolygon a chofnodion maenoraidd eraill
- bydd byrddau cyllid esgobaethol yn dal cofnodion eglwysig, gan gynnwys dosraniadau a mapiau degwm
- bydd awdurdodau priffyrdd (cynghorau sir lle maent yn bodoli, cynghorau dosbarth a bwrdeistref fel arall) yn dal cofnodion priffyrdd a therfynau priffyrdd
- bydd awdurdodau cofrestru tir comin yn dal cofrestri tiroedd comin a chlytiau tref a phentref, gyda mapiau cysylltiedig
- mae llawer o gofnodion plwyfol yn cynnwys gwybodaeth berthnasol
- Cymdeithas Maenorau Prydain, 104 Kennington Road, Llundain SE11 6RE yw鈥檙 gymdeithas y bydd llawer o arglwyddi maenor yn perthyn iddi
The Manorial Society of Great Britain,
104 Kennington Road,
London SE11 6RE
6. Pethau i鈥檞 cofio
Dim ond gwybodaeth ffeithiol a chyngor diduedd ynghylch ein gweithdrefnau rydym yn eu darparu. Darllenwch ragor am y cyngor rydym yn ei roi.