Canllawiau

Gwneud cais am orchymyn diogelu rhag cam-drin domestig mewn llys sirol

Sut i wneud cais am orchymyn sy鈥檔 eich diogelu rhag cam-drin domestig, neu鈥檙 risg o gam-drin domestig, os oes gennych achos sifil parhaus mewn llys sirol gyda鈥檙 unigolyn rydych angen eich diogelu rhagddynt.

Yn berthnasol i Loegr

Gorchmynion diogelu rhag cam-drin domestig

Gall gorchymyn diogelu rhag cam-drin domestig (DAPO):

  • atal rhywun rhag dod i鈥檆h cartref neu鈥檔 agos ato
  • penderfynu pwy all aros yn eich cartref neu ddychwelyd iddo
  • gorchymyn bod yr unigolyn yn mynychu rhaglen newid ymddygiad
  • gorchymyn bod yr unigolyn yn gwisgo tag electronig i wirio eu bod yn cadw at amodau鈥檙 gorchymyn

Nid oes rhaid talu ffi鈥檙 llys i wneud cais.

Os nad oes gennych chi achos sifil parhaus mewn llys sirol gyda鈥檙 unigolyn rydych angen eich diogelu rhagddynt, rhaid i chi wneud cais i lys teulu yn lle hynny.

Darllen y canllawiau ar gyfer gwneud cais am DAPO mewn llys teulu

Pwy all wneud cais

Gallwch ond wneud cais am DAPO os yw鈥檙 unigolyn rydych angen eich diogelu rhagddynt yn byw yn:

  • Manceinion Fwyaf
  • bwrdeistrefi Croydon, Bromley neu Sutton yn Llundain
  • Hartlepool, Middlesbrough, Redcar, Cleveland a Stockton-on-Tees
  • Gogledd Cymru (Ynys M么n, Gwynedd, Conwy, Sir Ddinbych, Sir y Fflint a Wrecsam)

Os nad yw鈥檙 unigolyn rydych angen eich diogelu rhagddynt yn byw yn un o鈥檙 ardaloedd hyn, gallwch聽wneud cais am orchymyn rhag molestu neu orchymyn anheddu聽yn lle hynny.

Ble i wneud cais

Dim ond yn y llysoedd sirol canlynol y gallwch wneud cais:

Os yw鈥檙 unigolyn rydych angen eich diogelu rhagddynt yn byw yn Sutton, gallwch wneud cais naill ai yn Croydon neu Bromley.

Efallai y bydd rhaid i chi deithio i un o鈥檙 ardaloedd hyn i fynychu gwrandawiad, hyd yn oed os nad ydych yn byw yno.

Os na allwch deithio i un o鈥檙 ardaloedd hyn, gallwch聽wneud cais am orchymyn rhag molestu neu orchymyn anheddu yn eich llys lleol yn lle hynny.

Sut i wneud cais

Bydd arnoch angen llenwi:

Gallwch wneud cais am DAPO ar unrhyw adeg yn ystod eich achos llys sifil. Er enghraifft, os oes gennych anghydfod ynghylch arian neu eiddo gyda鈥檙 unigolyn rydych angen eich diogelu rhagddynt y mae llys sirol eisoes yn delio ag o.

Rhaid i chi fod 芒 chysylltiad personol 芒鈥檙 unigolyn rydych angen eich diogelu rhagddynt. Er enghraifft, rydych:

  • yn briod neu鈥檔 bartneriaid sifil neu wedi bod yn briod neu鈥檔 bartneriaid sifil
  • mewn perthynas neu wedi bod mewn perthynas
  • yn perthyn

Cwblhau datganiad tyst ategol

Rhaid i chi ddweud yn eich datganiad tyst ategol pam eich bod eisiau gwneud cais am DAPO. Gallai hyn gynnwys y pethau y mae鈥檙 unigolyn rydych angen eich diogelu rhagddynt wedi dweud neu wneud.

Rhaid i chi gynnwys:

  • dyddiad geni鈥檙 unigolyn rydych angen eich diogelu rhagddynt (os yw鈥檔 hysbys)
  • cyfeiriad ar gyfer yr unigolyn rydych angen eich diogelu rhagddynt
  • yr hyn yr hoffech i鈥檙 llys ei orchymyn
  • unrhyw beth arall yr hoffech i鈥檙 llys ei wybod

Gallwch ofyn i鈥檙 llys orchymyn bod yr unigolyn rydych angen eich diogelu rhagddynt:

  • yn rhoi鈥檙 gorau i wneud rhywbeth
  • yn gwneud rhywbeth penodol
  • yn gwisgo tag electronig
  • yn mynychu rhaglen, er enghraifft rhaglen newid ymddygiad, rhaglen camddefnyddio sylweddau neu raglen iechyd meddwl

Gallwch ddefnyddio鈥檙 templed datganiad tyst ategol sydd ar gael yn聽ffurflen DA1.

Cadw eich gwybodaeth yn gyfrinachol

Os nad ydych am i鈥檆h manylion chi neu fanylion eich plentyn gael eu rhannu 芒鈥檙 unigolyn rydych angen eich diogelu rhagddynt, yna ni ddylech eu cynnwys ar y ffurflen.

Bydd angen i chi lenwi ffurflen C8聽a鈥檌 hanfon i鈥檙 llys gyda鈥檆h cais

Cyflwyno鈥檙 cais

Ar 么l i鈥檙 llys dderbyn eich cais, rhaid rhoi copi i鈥檙 unigolyn rydych angen eich diogelu rhagddynt (oni bai bod y llys wedi cytuno i wrando ar eich achos heb roi gwybod iddynt). Gelwir hyn yn 鈥榗yflwyno cais鈥.

Os bydd y llys yn caniat谩u gorchymyn, rhaid cyflwyno鈥檙 gorchymyn i鈥檙 unigolyn rydych angen cael eich diogelu rhagddynt.

Ni ddylech gyflwyno鈥檙 cais neu鈥檙 gorchymyn eich hun. Os nad oes gennych gynrychiolydd cyfreithiol, rhaid i chi hefyd lenwi ffurflen D89聽i ofyn i swyddog llys gyflwyno鈥檙 cais neu鈥檙 gorchymyn. Rhaid i chi anfon y ffurflen hon i鈥檙 llys gyda鈥檆h cais.

Unwaith y bydd y cais neu鈥檙 gorchymyn wedi鈥檌 gyflwyno, rhaid i chi lenwi ffurflen N215聽i ddweud wrth y llys:

  • i bwy y cyflwynwyd y cais/gorchymyn
  • yr hyn y cyflwynwyd iddynt

Amrywio neu ddiddymu gorchymyn

Dim ond os yw dal mewn grym y gallwch wneud cais i amrywio neu ddiddymu DAPO.

Rhaid i chi聽lenwi ffurflen N244 newydd聽a鈥檌 hanfon i鈥檙 llys sirol a wnaeth y gorchymyn.

Nid oes rhaid talu ffi鈥檙 llys i wneud cais.

Ble i anfon y ffurflenni

Anfon drwy e-bost

Gallwch anfon eich ffurflenni wedi鈥檜 llenwi ac unrhyw ddogfennau ategol trwy e-bost i鈥檙 llys sirol sy鈥檔 delio 芒鈥檆h achos sifil parhaus.

Rhaid i chi atodi un copi o bob ffurflen y byddwch yn ei hanfon.

Chwilio am fanylion cyswllt y llys sirol

Anfon drwy鈥檙 post neu ddanfon yn bersonol

Gallwch anfon eich ffurflenni wedi鈥檜 llenwi ac unrhyw ddogfennau ategol i鈥檙 llys drwy鈥檙 post neu eu danfon yn bersonol.

Os nad oes gennych gynrychiolydd cyfreithiol, rhaid i chi bostio neu ddanfon un copi o bob dogfen rydych yn ei hanfon.

Os oes gennych gynrychiolydd cyfreithiol, rhaid i chi bostio neu ddanfon 3 chopi o bob dogfen rydych yn ei hanfon. Os ydych yn gofyn i鈥檙 llys orchymyn rhywbeth yn ymwneud ag eiddo, yna rhaid i chi bostio neu ddanfon 4 copi. Gallwch ofyn i鈥檆h cynrychiolydd cyfreithiol wneud cop茂au.

Chwilio am fanylion cyswllt y llys sirol

Cael cymorth

Mae Cyngor ar Bopeth y Llysoedd Barn Brenhinol (RCJ) yn cynnig cymorth i ddioddefwyr cam-drin domestig. Gallant eich helpu i ddod o hyd i gynghorwyr cyfreithiol i wneud y canlynol:

  • trafod eich opsiynau gyda chi
  • eich helpu gyda鈥檆h cais

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 27 Tachwedd 2024
Diweddarwyd ddiwethaf ar 28 Ebrill 2025 show all updates
  1. Added a Welsh version of the guidance. Added a new area and courts.

  2. Added new areas to the 'Who can apply' section.

  3. Added a new area and county court that you can apply to.

  4. First published.

Argraffu'r dudalen hon