Canllawiau

Tudalennau atodol CT600F: Treth Dunelledd

Os yw鈥檙 cwmni鈥檔 gweithredu llongau, gwiriwch sut i lenwi tudalennau atodol CT600F a pha wybodaeth y mae angen i chi ei chynnwys.

Pryd i鈥檞 llenwi

Llenwch y tudalennau atodol hyn os yw鈥檙 cwmni鈥檔 gweithredu llongau ac yn rhan o ddewis Treth Dunelledd.

Gwybodaeth am y cwmni

Enw鈥檙 cwmni F1

Nodwch enw鈥檙 cwmni.

Cyfeirnod treth F2

Nodwch Gyfeirnod Unigryw y Trethdalwr, sef 10 digid, ar gyfer y cwmni.

Y cyfnod dan sylw yn y dudalen atodol hon (ni all fod yn fwy na 12 mis)

F3

Nodwch y dyddiad dechrau gan ddefnyddio鈥檙 fformat DD MM BBBB.

F4

Nodwch ddyddiad dod i ben y cyfnod cyfrifyddu gan ddefnyddio鈥檙 fformat DD MM BBBB.

Rhan 1: Gwybodaeth Treth Dunelledd am y cyfnod hwn

F5A and F5B Roedd y cwmni鈥檔 rhan o ddewis gr诺p Treth Dunelledd

Nodwch 鈥榅鈥 yn y blwch perthnasol. Os mai 鈥業awn鈥 (F5A) yw鈥檙 ateb, llenwch flwch F10. Os mai 鈥楴a鈥 (F5B) yw鈥檙 ateb, llenwch flwch F15A, blwch F15B neu flwch F15C.

Mae鈥檔 rhaid i ddewis gr诺p Treth Dunelledd gael ei wneud ar y cyd gan bob cwmni cymwys yn y gr诺p.

F10 Enw鈥檙 gr诺p Treth Dunelledd yr oedd y cwmni鈥檔 aelod ohono ar ddiwedd y cyfnod cyfrifyddu

Nodwch enw鈥檙 gr诺p.

Gall y cwmn茂au cymwys mewn gr诺p enwebu un cwmni o鈥檙 gr诺p i ddelio 芒 materion sy鈥檔 ymwneud 芒 Threth Dunelledd yr ymdrinnir 芒 nhw yn fwy cyfleus ar sail gr诺p cyfan. Mae hyn yn cynnwys y terfyn o 75% ar dunelledd wedi鈥檌 logi i mewn.

Pan fydd gr诺p yn dymuno gwneud trefniant o鈥檙 fath, dylai pob cwmni cymwys lofnodi llythyr ar y cyd sy鈥檔 enwebu un o鈥檙 cwmn茂au fel y cwmni cynrychioliadol ac sy鈥檔 nodi鈥檙 materion y bydd yn ymdrin 芒 nhw ar ran y gr诺p cyfan.

F15A i F15C Ymrwymiad hyfforddi

Nodwch 鈥榅鈥 yn y blwch perthnasol.

Mae鈥檔 rhaid i gwmni neu gr诺p sy鈥檔 dewis talu Treth Dunelledd fel gweithredwr llongau (neu sy鈥檔 adnewyddu ei ddewis i dalu鈥檙 dreth honno) feddu ar dystysgrif gyfredol gan yr Adran Drafnidiaeth sy鈥檔 cadarnhau cymeradwyaeth o鈥檌 ymrwymiad hyfforddi cychwynnol neu flynyddol.

F20A i F20C ac F25A i F25C Terfyn llogi i mewn

Nodwch 鈥橷鈥 yn y blychau perthnasol.

Ni ddylai mwy na 75% o dunelledd net llongau cymwys y cwmni ymwneud 芒 llongau sydd wedi鈥檜 llogi i mewn, ac eithrio ar delerau llogi llong neu gwch heb griw na darpariaethau. Ar gyfer grwpiau, mae鈥檙 terfyn o 75% yn ymwneud 芒 thunelledd net llongau cymwys yn y gr诺p, gan anwybyddu llogi rhwng aelodau鈥檙 gr诺p.

Gan y bydd llongau鈥檔 aml yn cael eu gweithredu am lai na chyfnod cyfrifyddu llawn, bydd angen cyfrifo鈥檙 ganran trwy gyfeirio at y tunelledd net dyddiol cyfansymiol ar gyfer y cwmni neu鈥檙 gr诺p. Darllenwch baragraffau 37 i 40 o i gael rhagor o wybodaeth am y terfyn o 75%.

F30A i F30C Roedd y cwmni neu鈥檙 gr诺p wedi gweithredu llongau nad oeddent wedi鈥檜 cofrestru yn y DU am y tro cyntaf

Nodwch 鈥榅鈥 yn y blwch perthnasol. Llenwch flwch F30C os yw鈥檙 cyfnod a gwmpesir gan y Ffurflen Dreth yn ymwneud yn llwyr 芒 blynyddoedd eithriedig.

Mae鈥檙 rheolau baneri wedi eu diddymu o 1 Ebrill 2022 ymlaen. Peidiwch 芒 llenwi blychau F30A a F30B - llenwch flwch F30C os yw dyddiad dechrau cyfnod y Ffurflen Dreth ar neu ar 么l 1 Ebrill 2022.

i gael rhagor o wybodaeth.

F35A a F35B Roedd y cwmni neu鈥檙 gr诺p yn bodloni鈥檙 amodau baneri

Nodwch 鈥榅鈥 yn y blwch perthnasol. Dim ond os ydych wedi llenwi blwch F30A y dylech lenwi鈥檙 adran hon.

Mae鈥檙 rheolau baneri wedi eu diddymu o 1 Ebrill 2022 ymlaen. Peidiwch 芒 llenwi blychau F35A i F35B os yw dyddiad dechrau cyfnod y Ffurflen Dreth ar neu ar 么l 1 Ebrill 2022.

i gael rhagor o wybodaeth.

F40A a F40B Gweithgareddau alltraeth

Mae鈥檙 gweithgareddau hyn yn cwmpasu archwilio neu ymelwa ar wely鈥檙 m么r, yr isbridd, neu鈥檙 adnoddau naturiol yn sector y DU o鈥檙 sgafell gyfandirol.

Nid ydynt yn berthnasol i longau cyflenwi, cychod tynnu, llongau sy鈥檔 trin angorau, a thanceri alltraeth:

  • oni bai eu bod wedi鈥檜 neilltuo i faes olew penodol

  • lle mae llongau鈥檙 cwmni鈥檔 ymgymryd 芒 gweithgareddau alltraeth am gyfnod nad yw鈥檔 fwy na 30 diwrnod at ei gilydd

Mae Rhan XI o ond yn berthnasol i gwmn茂au sydd 芒 llongau sy鈥檔 ymgymryd 芒 gweithgareddau alltraeth yn sector y DU o鈥檙 sgafell gyfandirol ac nad ydynt wedi鈥檜 heithrio o dan baragraff 105 o atodlen 22.

Rhan 2: lwfans hyfforddiant alltraeth

F45 a F50 Lwfans hyfforddiant (alltraeth)

Caniateir i gwmni sy鈥檔 dod o dan ran XI o wrthbwyso cyfwerth mewn arian parod hyfforddiant neu unrhyw daliadau yn lle hyfforddiant yn erbyn ei rwymedigaeth Treth Gorfforaeth ar ei elw yn sgil gweithgareddau alltraeth.

Mae鈥檙 cyfwerth mewn arian parod yn seiliedig ar gyfradd bresennol y taliadau yn lle hyfforddiant. Y didyniad yw cyfanswm cyfwerth mewn arian parod yr hyfforddiant a wnaed, ac unrhyw daliadau a wnaed yn lle hyfforddiant, sy鈥檔 ymwneud 芒鈥檙 dyddiau pan oedd pob llong yn ymgymryd 芒 gweithgareddau alltraeth yn sector y DU.

Rhowch y swm sydd ym mlwch F45 ym mlwch 450 o鈥檆h ffurflen CT600.

Rhan 3: elw morgludiant perthnasol

Rhowch yr wybodaeth ychwanegol ganlynol am yr elw morgludiant perthnasol i helpu CThEF i weinyddu鈥檙 Dreth Dunelledd.

Mae elw Treth Dunelledd yn disodli elw morgludiant perthnasol. Yn fras, dyma鈥檙 incwm morgludiant perthnasol o weithgareddau Treth Dunelledd, gan gynnwys dosraniadau gan gwmn茂au morgludiant tramor, yn ogystal ag enillion trethadwy ar asedion Treth Dunelledd.

Mae gweithgareddau Treth Dunelledd yn cynnwys gweithgareddau craidd cymwys, gweithgareddau eilaidd cymwys, a gweithgareddau achlysurol cymwys. I gael rhagor o wybodaeth, darllenwch:

F55A a F55B Yr elw neu鈥檙 golled yng nghyfrifon y cwmni

Peidiwch 芒 chynnwys y canlynol:

  • elw neu golledion eraill nad ydynt yn ymwneud 芒鈥檙 dreth dunelledd sydd wedi鈥檜 cynnwys mewn mannau eraill ar y ffurflen CT600

  • unrhyw symiau a nodir ym mlychau F60A, F60B neu F65

Mae llong gymwys yn cael ei gweithredu gan gwmni pan fydd yn eiddo i鈥檙 cwmni hwnnw neu鈥檔 cael ei llogi iddo. Ni ystyrir ei bod yn cael ei gweithredu lle mae鈥檔 cael ei llogi ar delerau llogi llong neu gwch heb griw na darpariaethau, oni bai y gwneir hyn i gyd-aelod o鈥檙 gr诺p, neu i鈥檙 Goron, neu lle mae gor-gapasiti tymor byr ac nid yw鈥檙 llogi鈥檔 para mwy na 3 blynedd.

Mae llong gymhwysol yn cael ei rheoli gan gwmni, os yw鈥檙 cwmni hwnnw鈥檔 cynnal gweithgareddau Treth Dunelledd mewn perthynas 芒鈥檙 llong, ac os yw鈥檙 gweithgareddau hynny鈥檔 cynrychioli cyfraniad sylweddol i鈥檙 ffordd mae鈥檙 llong yn cael ei gweithredu.

F60A a F60B Yr elw neu鈥檙 golled yng nghyfrifon y cwmni mewn perthynas 芒 gwaredu asedion Treth Dunelledd, a fyddai fel arall yn cael eu cyfrifo o dan reolau enillion trethadwy

Mae鈥檙 rheolau arferol o ran Treth Enillion Cyfalaf yn berthnasol i warediadau a wneir gan gwmn茂au Treth Dunelledd, ac eithrio pan fo鈥檙 rheolau hynny鈥檔 cael eu newid yn unswydd gan Ran VIII o Atodlen 22 i Ddeddf 2000.聽 Dyma brif effaith Rhan VIII:

  • caiff rhai enillion sy鈥檔 codi yn sgil gwaredu asedion a ddefnyddir mewn masnach Treth Dunelledd, a fyddai fel arall wedi鈥檜 hystyried yn enillion trethadwy, eu heithrio (yn llwyr neu鈥檔 rhannol) rhag y dreth

  • ni chaiff rhai colledion sy鈥檔 codi yn sgil gwaredu asedion a ddefnyddir mewn masnach Treth Dunelledd, a fyddai fel arall wedi鈥檜 hystyried yn golledion caniataol, eu trin fel colledion caniataol

F65 Difidendau a dosraniadau eraill sy鈥檔 gymwys fel incwm morgludiant perthnasol

O dan rai amodau, mae鈥檔 bosibl y bydd dosbarthiadau a geir oddi wrth gwmni tramor yn gymwys fel incwm morgludiant perthnasol. Gellir gweld yr amodau hyn ym Mharagraff 49 o .

Rhan 4: cyfrifiant elw Treth Dunelledd

Nodwch fanylion yr holl longau cymwys.

F70 Cyfrifiant elw Treth Dunelledd

Mae鈥檔 rhaid i long gymwys fod yn llong forol o 100 tunnell gros neu fwy a ddefnyddir ar gyfer cludo teithwyr neu gargo, gweithgareddau tynnu, gweithgareddau achub, neu gymorth neu gludiant morol arall mewn cysylltiad 芒 gwasanaethau eraill o鈥檙 fath a ddarperir o reidrwydd ar y m么r.

Y rhai sydd wedi鈥檜 heithrio鈥檔 benodol yw:

  • cychod pysgota

  • llongau ffatri

  • llongau pleser

  • llongau fferi harbwr neu afon

  • gosodiadau alltraeth

  • tanceri sydd wedi鈥檜 neilltuo i faes olew penodol

  • carthlongau

Nodwch y swm o鈥檙 blwch hwn F70 ym mlwch 200 o鈥檆h ffurflen CT600.

Cyfrifir elw trwy luosi鈥檙 elw dyddiol ar gyfer pob llong 芒 nifer y dyddiau y gweithredwyd pob un yn ystod y cyfnod cyfrifyddu.

Cyfrifir yr elw dyddiol mewn unedau o 100 tunnell net ar y cyfraddau canlynol:

  • 100 tunnell net hyd at 1,000 鈥 拢0.60

  • 100 tunnell net o 1,001 i 10,000 鈥 拢0.45

  • 100 tunnell net o 10,001 i 25,000 鈥 拢0.30

  • 100 tunnell net uwch na 25,000 鈥 拢0.15

Enghraifft

Mae鈥檙 tabl canlynol yn dangos sut y byddai鈥檙 elw dyddiol ar gyfer llong o 30,099 tunnell net yn cael ei gyfrifo.

Tunelli Unedau 100 tunnell Cyfradd Cyfanswm
hyd at 1,000 10 拢0.60 拢6.00
o 1,001 i 10,000 90 拢0.45 拢40.50
o 10,001 i 25,000 150 拢0.30 拢45.00
uwch na 25,000 50 拢0.15 拢7.50

Yn yr achos hwn, cyfanswm yr elw dyddiol yw 拢99.

Ni ellir defnyddio unrhyw ryddhad, didyniad na gwrthbwyso i leihau鈥檙 elw Treth Dunelledd.

Rhagor o wybodaeth

Darllenwch y Llawlyfr Treth Dunelledd (yn agor tudalen Saesneg) i gael rhagor o wybodaeth.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 30 Medi 2022
Diweddarwyd ddiwethaf ar 1 Ebrill 2025 show all updates
  1. Guidance updated to include Box F15C, legislation links to Tonnage Tax activities and information regarding qualifying ship managed by a company.

  2. Welsh translation added.

  3. We have updated the headings for F30 and F65.

  4. Information about the boxes to complete if the return period start date is on or after 1 April 2022 has been added to the the 'F30A to C The company or group operated ships that were not registered in one of the Member States' registers for the first time' and 'F35A and F35B The company or group satisfied the flagging conditions' sections.

  5. First published.

Argraffu'r dudalen hon