Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant
Printable version
1. Beth yw cynhaliaeth plant
Mae cynhaliaeth plant yn cwmpasu sut bydd costau byw eich plentyn yn cael eu talu pan na fydd un o’r rhieni’n byw gyda’r plentyn. Mae’n cael ei wneud pan fyddwch wedi gwahanu oddi wrth y rhiant arall neu os nad ydych erioed wedi bod mewn perthynas.
Mae hwn yn drefniant ariannol rhyngoch chi a rhiant arall eich plentyn. Gwneud trefniadau i weld eich plentyn yn digwydd ar wahân.
Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg (English).
Mae’n rhaid i chi gael trefniant cynhaliaeth plant os yw’ch plentyn o dan 16 oed (neu o dan 20 oed os ydynt mewn addysg llawn amser).
Mae’r ddau riant yn gyfrifol am gostau magu eu plant, hyd yn oed os nad ydynt yn eu gweld.
os oes gennych un yn barod.
Opsiynau ar gyfer trefnu cynhaliaeth plant
Gallwch drefnu cynhaliaeth plant:
- yn breifat rhwng rhieni, os yw’r ddau riant yn cytuno
- drwy’r Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant
Gall y Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant:
- gyfrifo swm i’w dalu
- trefnu taliadau a chymryd camau os nad yw rhiant yn talu
- datrys anghytundebau ynghylch pwy yw y rhieni
- ceisio dod o hyd i’r rhiant arall os nad ydych chi’n gwybod ble maen nhw
Os nad ydych am i riant arall eich plentyn gysylltu â chi neu eich plentyn
Gallwch ddefnyddio’r Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant i drefnu cynhaliaeth plant os nad ydych am i riant arall eich plentyn wybod eich lleoliad neu wybodaeth bersonol.
Sut mae’n effeithio ar fudd-daliadau
Ni fydd taliadau cynhaliaeth plant yn effeithio ar unrhyw fudd-daliadau rydych chi a’ch plant yn eu cael, gan gynnwys Credyd Cynhwysol. Ni fydd yn rhaid i chi dalu unrhyw dreth arnynt.
2. Cymhwyster
Mae angen i’ch plentyn fod o dan 16 - neu o dan 20 oed os yw mewn addysg llawn amser, hyd at ac yn cynnwys lefel A neu gyfwerth.
Mae angen i chi fyw yn y DU fel eich prif gartref a bod gennych yr hawl i fyw yma.
Gallwch wneud cais os ydych yn:
- naill riant (nid oes angen i chi fyw gyda’r plentyn)
- nain neu daid sy’n gofalu’n bennaf am y plentyn o ddydd i ddydd
- gwarcheidwad y plentyn
- plentyn dros 12 oed yn byw yn yr Alban
Os ydych yn y carchar neu’n fyfyriwr llawn amser heb unrhyw incwm, nid oes yn rhaid i chi dalu cynhaliaeth plant - nid oes angen gwneud cais.
Ni allwch ddefnyddio’r gwasanaeth yma os oes gennych orchymyn cydsynio presennol wedi’i gymeradwyo gan lys sydd naill ai:
- llai na blwydd oed
- wedi’i wneud cyn 3 Mawrth 2003
Os yw un o’r rhieni yn byw y tu allan i’r DU
Ni allwch wneud cais os yw’r plentyn a’r rhiant sydd gyda phrif ofal o ddydd i ddydd yn byw y tu allan i’r DU.
Gall y gwasanaeth ond fod o help os yw’r rhiant sydd heb brif ofal o ddydd i ddydd yn gweithio y tu allan i’r DU i sefydliad Prydeinig.
3. Sut i wneud cais
Gallwch naill ai drefnu cynhaliaeth plant:
- yn breifat rhwng rhieni, os yw’r ddau riant yn cytuno
- trwy’r Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant
Cael help i drefnu cynhaliaeth plant
Defnyddiwch y teclyn ‘Cael help i drefnu cynhaliaeth plant’ i:
- ddarganfod am eich opsiynau i dalu neu i gael cefnogaeth ar gyfer eich plentyn
- darganfod sut i wneud trefniant preifat, os ydych yn penderfynu gwneud hyn
- gwneud cais i’r Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant, os ydych yn penderfynu ei ddefnyddio
Os na allwch ddefnyddio’r teclyn ‘Cael help i drefnu cynhaliaeth plant’, ffoniwch y Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant
Os ydych yn penderfynu defnyddio’r Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant
Pan fyddwch yn cysylltu â’r Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant, bydd angen y canlynol arnoch:
- y rhif cyfeirnod a roddwyd i chi gan y teclyn Cael help i drefnu cynhaliaeth plant
- eich manylion banc
- eich rhif Yswiriant Gwladol
Os nad ydych yn gofalu am y plentyn o ddydd i ddydd, byddant yn gofyn i chi hefyd am:
- eich manylion cyflogaeth
- eich incwm ac unrhyw fudd-daliadau a gewch
- cyfraniadau pensiwn preifat
Dywedwch wrth y Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant os nad yw’n ddiogel i’r rhiant arall wybod eich enw (os ydych wedi ei newid) neu eich lleoliad.
Dywedwch wrth y Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant os oes gan y rhiant sy’n talu cynhaliaeth incwm neu dreuliau eraill rydych am iddynt eu hystyried wrth gyfrifo taliadau. Gelwir hyn yn ‘gwneud cais am amrywiad’. Gall y naill riant neu’r llall wneud cais.^
Sut y defnyddir eich gwybodaeth
Bydd y Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant yn defnyddio eich gwybodaeth i:
- rhannu eich enw ac enw eich plant gyda’r rhiant arall. (ni fyddant yn rhannu eich cyfeiriad)
- rhannu eich manylion cyswllt gyda sefydliadau eraill y llywodraeth, asiantaethau casglu dyledion neu’r llysoedd, os oes angen (ni fyddant yn rhannu manylion o’ch achos)
- chwilio am y rhiant sy’n talu cynhaliaeth os nad ydych yn gwybod eu cyfeiriad
Os na all y Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant gael y wybodaeth gan y naill riant, efallai y byddant yn cysylltu gyda:
- cyflogwr y rhiant sy’n talu cynhaliaeth
- sefydliadau’r llywodraeth fel y Ganolfan Byd Gwaith
- gwasanaethau carchardai neu gynghorau lleol
- banc neu gymdeithas adeiladu’r rhiant sy’n talu cynhaliaeth
4. Gwneud a derbyn taliadau
Gellir trefnu taliadau:
- yn breifat rhwng rhieni, os yw’r ddau riant yn cytuno
- drwy’r Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant
Os ydych chi’n defnyddio’r Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant, byddan nhw’n cyfrifo eich swm cynhaliaeth plant yn seiliedig ar amgylchiadau’r rhiant sy’n talu.
Mae dwy ffordd o reoli taliadau drwy’r Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant:
- mae’r rhiant sy’n talu yn gwneud taliadau’n uniongyrchol i’r rhiant sy’n derbyn (Talu Uniongyrchol)
- mae’r Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant yn casglu ac yn trosglwyddo taliadau (Casglu a Thalu) - mae ffioedd am y gwasanaeth hwn
Pan fyddwch yn gwneud cais, gall y ddau riant nodi sut y byddai’n well ganddynt reoli taliadau.
Os nad yw’r rhiant sy’n talu yn talu’n llawn neu ar amser, gall y Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant newid y dull talu i Gasglu a Thalu.
Os oes angen help arnoch gydag arian fel rhiant sy’n talu neu fel rhiant sy’n derbyn, darganfyddwch pa gymorth y gallwch ei gael gyda chostau byw.
Eich cynllun talu
Ar ôl i chi wneud cais, byddwch yn cael llythyr yn dweud wrthych a fydd eich taliadau’n cael eu rheoli drwy Dalu Uniongyrchol neu Gasglu a Thalu.
Bydd y Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant yn cyfrifo faint y dylid ei dalu a phryd. Byddwch yn cael llythyr arall gyda’ch cynllun talu yn dweud wrthych:
- faint sydd angen i chi ei dalu a phryd, os mai chi yw’r rhiant sy’n talu
- faint fyddwch chi’n ei dderbyn a phryd, os mai chi yw’r rhiant sy’n derbyn
Gallwch hefyd weld eich cynllun talu .
Fel arfer gwneir y taliad cyntaf o fewn 12 wythnos o wneud cais.
Os ydych yn gwneud neu’n derbyn taliadau ychwanegol, mae’n rhaid i chi roi gwybod i’r Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant.
Os ydych yn meddwl bod eich swm cynhaliaeth plant yn anghywir
Cysylltwch â’r Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant os:
-
rydych am iddynt edrych ar y penderfyniad eto - gelwir hyn yn ‘ailystyriaeth orfodol’ ac mae’n rhaid i chi ofyn amdano o fewn mis i’r penderfyniad
-
mae gan y rhiant sy’n talu cynhaliaeth incwm neu dreuliau eraill yr ydych am iddynt eu cymryd i ystyriaeth - gelwir hyn yn gofyn am amrywiad
Gallwch ofyn am amrywiad trwy
Os nad yw rhiant yn talu’n llawn neu ar amser
Darganfyddwch beth i’w wneud os:
Talu Uniongyrchol
Mae’r rhiant sy’n talu yn gwneud taliadau’n uniongyrchol i’r rhiant sy’n derbyn. Nid ydych yn talu unrhyw ffioedd casglu.
Cadwch gofnod o daliadau. Os byddwch yn rhoi gwybod am daliad a fethwyd, bydd angen i chi ddarparu copi o’ch cyfriflen banc.
Rhoi gwybod am newidiadau neu daliadau a fethwyd
Mewngofnodwch i:
- roi gwybod am newid yn eich amgylchiadau
- rhoi gwybod os yw’r rhiant sy’n talu yn methu taliadau neu ddim yn talu digon
- gwneud cais i newid i Gasglu a Thalu
Os nad ydych am gysylltu â’r rhiant arall
Os nad ydych am i’r rhiant arall wybod ble rydych chi’n byw, gofynnwch i’ch banc sefydlu cyfrif gyda chod didoli ‘nad yw’n ddaearyddol’.
Nid oes rhaid i chi gysylltu â’r rhiant sy’n talu i gael taliadau. Gallwch rannu eich manylion banc yn .
Casglu a Thalu
Gall y Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant gasglu taliadau gan y rhiant sy’n talu a’u trosglwyddo i’r rhiant sy’n derbyn. Gallant gymryd y taliad yn uniongyrchol oddi wrth y rhiant sy’n talu trwy:
- enillion (wedi’i drefnu gyda’u cyflogwr)
- cyfrif banc (drwy Ddebyd Uniongyrchol)
- budd-daliadau neu bensiwn
Nid oes angen i chi gael unrhyw gysylltiad â’r rhiant arall.
Ffioedd casglu
Mae’n rhaid i chi dalu ffi bob tro y byddwch yn gwneud neu’n derbyn taliad cynhaliaeth plant rheolaidd drwy’r Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant. Y ffi yw:
- 20% (sy’n cael ei ychwanegu at y taliad) ar gyfer rhieni sy’n talu
- 4% (sy’n cael ei dynnu oddi ar y taliad) ar gyfer rhieni sy’n derbyn
Os ydych yn defnyddio Casglu a Thalu, ni allwch osgoi ffioedd casglu drwy dalu’r rhiant arall yn uniongyrchol.
5. Mewngofnodi i’ch cyfrif
Mewngofnodi i’ch cyfrif Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant i:
- roi gwybod am newid yn eich amgylchiadau
- rhoi gwybod bod y rhiant sy’n talu heb dalu’r swm llawn neu ar amser, os ydych yn cael taliadau yn uniongyrchol ohonynt gan ddefnyddio Talu Uniongyrchol
- rhoi gwybod am daliad ychwanegol ar ben eich taliadau presennol
- rhoi gwybod am unrhyw dreuliau neu incwm yr ydych am i’r Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant (CMS) eu hystyried
- gweld eich cynllun talu
Byddwch angen eich:
- rhif cyfeirnod 12 digid - fe welwch hwn ar lythyrau gan y Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant
- Rhif Yswiriant Gwladol - fe welwch hwn ar lythyrau budd-dal neu slipiau cyflog
- Rhif PIN 7-digid a ddewisoch wrth sefydlu’ch achos
Ni allwch ddefnyddio’r gwasanaeth yma i sefydlu trefniant newydd. Cysylltwch ag Opsiynau Cynhaliaeth Plant i wneud hyn.
Beth sydd angen i chi ei wybod
Cysylltwch â’r Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant os oes angen help arnoch i ddefnyddio’ch cyfrif ar-lein.
6. Anghytundebau ynghylch bod yn rhiant
Os ydych chi neu’r rhiant arall yn eich achos cynhaliaeth plant yn gwadu eu bod yn rhiant i blentyn, gall y Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant:
- ofyn am dystiolaeth sy’n profi nad yw un ohonoch yw’r rhiant
- dweud wrth y rhiant arall beth sydd wedi digwydd a gofyn am dystiolaeth i brofi pwy yw’r rhiant
Os nad oes tystiolaeth i brofi nad chi yw’r rhiant, gall y Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant:
- ofyn i chi a’r rhiant arall gymryd prawf DNA
- gofyn i’r llys wneud penderfyniad
Pan fydd y Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant yn tybio pwy yw’r rhiant
Byddwn yn tybio mai chi yw rhiant y plentyn os yw unrhyw un o’r canlynol yn berthnasol:
- roeddech yn briod, neu’n bartner sifil i fam y plentyn ar unrhyw adeg rhwng beichiogi a genedigaeth y plentyn (oni bai bod y plentyn wedi cael ei fabwysiadu)
- rydych wedi eich enwi ar dystysgrif geni’r plentyn (oni bai bod y plentyn wedi cael ei fabwysiadu)
- mae prawf DNA yn dangos mai chi yw’r rhiant
- rydych chi wedi mabwysiadu’r plentyn yn gyfreithiol
- rydych chi’n cael eich enwi mewn gorchymyn llys fel rhiant pan aned y plentyn i fam fenthyg
Talu cynhaliaeth plant yn ystod anghytundeb
Os byddwn yn tybio mai chi yw’r rhiant
Bydd y Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant yn cyfrifo swm cynhaliaeth plant. Bydd yn rhaid i chi dalu hwn os nad oes gennych brif ofal o ddydd i ddydd am y plentyn. Os profwch nad chi yw’r rhiant ni fydd yn rhaid i chi dalu mwyach.
Os na fyddwn yn tybio mai chi yw’r rhiant
Nid oes angen i chi dalu cynhaliaeth plant nes bod yr anghytundeb wedi’i ddatrys. Os canfyddir mai chi yw’r rhiant, bydd y swm o gynhaliaeth plant y mae’n rhaid i chi ei dalu yn cael ei ôl-ddyddio i’r adeg pan agorwyd yr achos.
Os profwch nad chi yw’r rhiant
Pan fydd hyn yn digwydd, gall y Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant:
- ad-dalu’r taliadau rydych a wnaed ar ôl y dyddiad y gwnaethoch wadu mai chi oedd y rhiant
- gwrthbwyso’r swm rydych wedi’i dalu mewn cynhaliaeth plant yn erbyn cynhaliaeth ar gyfer plentyn arall rydych yn talu amdanynt
- ad-dalu cost unrhyw brofion DNA a drefnir drwy’r gwasanaeth
- gofyn i’r rhiant arall dalu unrhyw gynhaliaeth plant yn ôl i chi
7. Newidiadau mae angen i chi eu hysbysu
Mae yna rai newidiadau sy’n rhaid i chi ddweud wrth y Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant amdanynt yn ôl y gyfraith. Dylech roi gwybod am y newid cyn gynted ag y bydd yn digwydd
Gall y naill riant neu’r llall yn rhoi gwybod am newid trwy gysylltu â’r Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant.
Gall newidiadau i’ch amgylchiadau olygu newid i faint o gynhaliaeth plant y rydych yn ei dalu neu’n ei gael. Darganfyddwch sut mae taliadau cynhaliaeth plant yn cael ei gyfrifo.
Beth sydd angen i chi rhoi gwybod amdano
Rhowch wybod i’r Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant os:
- ydych yn newid pwy yw prif ofalwr y plentyn
- ydych yn newid y cytundeb ar ba mor aml y mae’r plentyn yn aros dros nos, naill ai gyda’r rhiant sy’n talu cynhaliaeth neu’r awdurdod lleol, ac mae’r newid hwn i ‘ofal a rennir’ yn effeithio ar eich taliadau cynhaliaeth plant
- ydych am newid sut rydych yn gwneud a chael taliadau trwy ddefnyddio’r gwasanaeth Talu Uniongyrchol neu’r gwasanaeth Casglu a Thalu
- ydych yn symud tŷ (rhowch eich cyfeiriad newydd o fewn 7 diwrnod ar ôl symud)
- ydych yn newid eich manylion banc
- ydych yn newid eich rhif ffôn
- ydych am i rywun arall ddelio â’ch achos ar eich rhan
- ydych yn ychwanegu plentyn i’ch achos
- bydd y plentyn yn gadael addysg llawn amser (hyd at a gan gynnwys Lefel A neu gyfwerth)
- bydd y plentyn yn cael ei fabwysiadu gan rywun arall
- ydych am gau eich achos
- nid yw’r plentyn yn byw yn y DU bellach
- bydd rhywun ar yr achos yn marw
Mae yna bethau ychwanegol sydd angen eu rhoi gwybod amdano am y rhiant sy’n talu cynhaliaeth. Gall y naill riant neu’r llall ddweud wrth y Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant os yw’r rhiant sy’n talu cynhaliaeth:
- yn methu taliad wrth ddefnyddio Talu Uniongyrchol
- yn gwneud unrhyw daliadau gwirfoddol ar ben eu taliadau presennol
- wedi cael newid yn eu hincwm o 25% neu fwy, neu nad oes ganddynt incwm bellach
- yn gwario mwy neu lai o arian er mwyn gweld y plentyn, er enghraifft ar gostau cludiant
Os na fyddwch yn rhoi’r wybodaeth gywir
Gallech gael eich dwyn i’r llys a chael dirwy o hyd at £1,000 os:
- na fyddwch yn rhoi’r wybodaeth y gofynnir i chi amdani
- byddwch yn rhoi gwybodaeth y gwyddoch sy’n ffug
Mae hyn yn gymwys i unrhyw berson neu sefydliad sydd, yn ôl y gyfraith, yn gorfod rhoi gwybodaeth i’r Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant, er enghraifft:
- cyflogwyr
- cyfrifwyr
- y naill riant neu’r llall
Os mai chi yw’r rhiant sy’n talu cynhaliaeth, ni fyddwch yn cael eich dwyn i’r llys neu’ch dirwyo os ydych wedi gwneud camgymeriad pan roddwch wybod am eich incwm. Bydd rhaid i chi roi gwybod am y camgymeriad trwy gysylltu â’r Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant cyn gynted â phosib fel eich bod yn talu’r swm cywir o gynhaliaeth plant.
8. Cysylltu â’r Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant
Gallwch gysylltu â’r Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant trwy eich cyfrif ar-lein.
Ffoniwch y Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant
Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant
Rhif ffôn: 0800 232 1979
Llinell Gymorth Saesneg: 0800 171 2345
(os nad ydych yn gallu clywed neu siarad ar y ffôn): 18001 wedyn 0800 171 2345
Iaith Arwyddion Prydain (BSL) os ydych ar gyfrifiadur – darganfyddwch sut i
Dydd Llun i ddydd Gwener, 8am i 6pm
Darganfyddwch fwy am gostau ffonio
Mae yna rif ffôn gwahanol os ydych yn byw yng .
Cysylltu â’r Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant trwy’r post
Gallwch hefyd ysgrifennu i’r Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant.
Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant (achosion Cymru, Lloegr a’r Alban)
Child Maintenance Service 21
Mail Handling Site A
Wolverhampton
WV98 2BU
Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant (achosion Gogledd Iwerddon)
Child Maintenance Service 24
Mail Handling Site A
Wolverhampton
WV98 2BU
9. Cwynion ac apeliadau
Gwneud cwyn
Dilynwch weithdrefn gwyno’r Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) os ydych yn anhapus â’r gwasanaeth a gawsoch.
Os ydych yn anghytuno gyda phenderfyniad
Gallwch herio penderfyniad am swm eich taliad. Gelwir hyn yn gofyn am ‘ailystyriaeth orfodol’.
Mae’n rhaid i chi ofyn am hyn o fewn 30 diwrnod o’r dyddiad ar eich llythyr penderfyniad.
Apêl i’r Tribiwnlys Nawdd Cymdeithasol a Chynnal Plant
Os ydych yn anhapus gyda chanlyniad yr ailystyriaeth orfodol, gallwch apelio i’r Tribiwnlys Nawdd Cymdeithasol a Chynnal Plant o fewn mis o gael y penderfyniad. Os cyflwynwch eich apêl ar ôl mis, bydd yn rhaid i chi esbonio pam na wnaethoch hynny yn gynt.
Dylech lawr-lwytho a llenwi ffurflen SSCS2. A’i hanfon i’r cyfeiriad ar y ffurflen.
Byddwch angen dewis os ydych am fynd i wrandawiad y tribiwnlys i esbonio eich achos. Os na fyddwch yn bresennol, penderfynir ar eich apêl gyda’ch ffurflen apêl ac unrhyw dystiolaeth ategol.
Ar ôl cyflwyno eich apêl, gallwch ddarparu tystiolaeth. Bydd eich apêl a’r dystiolaeth yn cael eu hystyried yn y gwrandawiad gan farnwr ac weithiau arbenigwr ariannol. Yna bydd y tribiwnlys yn gwneud penderfyniad.
Fel arfer mae’n cymryd tua 6 mis i’ch apêl gael ei chlywed gan y tribiwnlys.
10. Gwneud trefniant preifat
Gallwch wneud trefniant preifat gyda rhiant arall eich plentyn ynglyn â sut i dalu costau byw eich plentyn os yw’r ddau riant yn cytuno. Nid oes yn rhaid i unrhyw un arall gymryd rhan. Mae’n hyblyg a gellir ei newid os bydd eich amgylchiadau’n newid. Er enghraifft, gallai’r ddau ohonoch gytuno bod un rhiant yn:
- talu cyfran o’u hincwm i’r rhiant sydd gyda gofal ddydd i ddydd
- talu am bethau fel costau tai, gwisg ysgol, tripiau neu glybiau ar ôl ysgol
Os na allwch gytuno, neu os ydych yn teimlo eich bod mewn perygl wrth siarad â’r rhiant arall, efallai y byddwch yn gallu defnyddio’r Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant.
Cyfrifo taliadau
Eich penderfyniad chi yw faint ddylai taliadau fod. Gallwch ddefnyddio’r cyfrifydd cynhaliaeth plant i helpu.
Cael help i wneud trefniant
Gallwch ddarllen canllawiau ar:
Gallwch hefyd i’ch helpu i ddod i gytundeb ynglŷn â threfniant.
Os ydych angen cymorth gydag arian fel rhiant sy’n talu neu fel rhiant sy’n cael taliadau, darganfyddwch pa gefnogaeth gallwch gael gyda chostau byw.