Lwfans Gweini
Printable version
1. Trosolwg
Mae Lwfans Gweini yn helpu gyda chostau ychwanegol os oes gennych anabledd neu gyflwr iechyd sy’n ddigon difrifol fel bod angen rhywun arnoch i helpu i ofalu amdanoch.
Mae yna ffordd wahanol o wneud cais os ydych yn nesáu at ddiwedd oes (er enghraifft, oherwydd bod gennych salwch sy’n cyfyngu ar fywyd).
Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg (English) a fformat hawdd i’w ddarllen.
Mae’n cael ei dalu ar 2 gyfradd wahanol ac mae faint a gewch yn dibynnu ar lefel y gofal sydd ei angen arnoch oherwydd eich anabledd neu gyflwr iechyd.
Gallech gael £73.90 neu £110.40 yr wythnos i helpu gyda chymorth personol os yw’r ddau o’r canlynol yn berthnasol:
- mae gennych anabledd corfforol, anabledd meddwl, neu gyflwr iechyd
- rydych yn Oedran Pensiwn y Wladwriaeth neu’n hŷn
Nid yw’n cynnwys anghenion symudedd.
Gallech gael Credyd Pensiwn ychwanegol, Budd-dal Tai neu Ostyngiad Treth Cyngor os ydych yn cael Lwfans Gweini.
Nid oes rhaid i chi gael rhywun yn gofalu amdanoch er mwyn gwneud cais.
Os oes gennych ofalwr, efallai y gallent cael Lwfans Gofalwr os oes gennych anghenion gofal sylweddol.
Os ydych yn byw yn yr Alban
Bydd angen i chi wneud cais am yn lle Lwfans Gweini.
Os ydych yn cael Lwfans Gweini ar hyn o bryd
Nid oes angen i chi wneud cais am Daliad Anabledd Oedran Pensiwn - byddwch yn cael eich symud yn awtomatig i Daliad Anabledd Oed Pensiwn o wanwyn 2025.
Pan fydd y symud yn dechrau, byddwch yn cael llythyrau gan yr Adran Gwaith a Phensiynau a Social Security Scotland.
.
Os ydych yn symud o’r Alban i Gymru neu Loegr
Os ydych yn cael Taliad Anabledd Oedran Pensiwn, rhaid i chi:
Bydd eich Taliad Anabledd Oedran Pensiwn yn dod i ben 13 wythnos ar ôl i chi symud. Gwnewch gais am Lwfans Gweini cyn gynted ag y byddwch yn symud i Gymru neu Loegr. Os na wnewch hynny, gallai eich taliadau gael eu heffeithio.
2. Beth fyddwch yn ei gael
Mae Lwfans Gweini yn cael ei dalu bob wythnos ar 2 gyfradd wahanol - mae’r un a gewch yn dibynnu ar lefel yr help sydd ei angen arnoch.
Nid yw Lwfans Gweini yn amodol ar brawf modd - ni fydd yr hyn rydych yn ei ennill na faint sydd gennych mewn cynilion yn effeithio ar yr hyn rydych yn ei gael.
Cyfraddau Lwfans Gweini
Cyfradd | Lefel y cymorth sydd ei angen arnoch |
---|---|
Cyfradd is - £73.90 | Cymorth aml neu oruchwyliaeth gyson yn ystod y dydd, neu oruchwyliaeth gyda’r nos |
Cyfradd uwch - £110.40 | Cymorth neu oruchwyliaeth drwy gydol y dydd a’r nos, neu mae gweithiwr meddygol proffesiynol wedi dweud eich bod yn nesáu at ddiwedd oes |
Os bydd eich amgylchiadau’n newid, fe allech chi gael cyfradd wahanol. Mae’n rhaid i chi roi gwybod am newid mewn amgylchiadau.
Gallech gael Credyd Pensiwn ychwanegol, Budd-dal Tai neu Ostyngiad mewn Treth Cyngor os ydych yn cael Lwfans Gweini - gwiriwch gyda’r llinell gymorth neu’r swyddfa sy’n delio â’ch budd-dal.
Os ydych yn cael Lwfans Gweini Cyson ar yr un pryd, bydd eich Lwfans Gweini yn cael ei leihau gan swm y Lwfans Gweini Cyson a gewch.
Sut rydych yn cael eich talu
Mae’r holl fudd-daliadau yn cael eu talu i mewn i’ch cyfrif banc, cymdeithas adeiladu neu undeb credyd.
3. Cymhwyster
Gallwch gael Lwfans Gweini os ydych wedi cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth ac mae’r canlynol yn berthnasol:
- mae gennych anabledd corfforol (gan gynnwys anabledd synhwyraidd, er enghraifft dallineb), anabledd meddwl (gan gynnwys anawsterau dysgu), neu gyflwr iechyd
- mae eich anabledd neu gyflwr iechyd yn ddigon difrifol fel bod angen help arnoch i ofalu amdanoch chi’ch hun neu rywun i’ch goruchwylio, er eich diogelwch chi neu ddiogelwch rhywun arall
- rydych chi wedi bod angen yr help hwnnw am o leiaf 6 mis
Mae rheolau cymhwysedd gwahanol os ydych yn nesáu at ddiwedd oes (Er enghraifft, oherwydd salwch sy’n cyfyngu ar fywyd). Efallai y byddwch yn gallu cael Lwfans Gweini yn gyflymach ac ar gyfradd uwch.
Mae’n rhaid i chi hefyd:
- bod ym Mhrydain Fawr pan fyddwch yn gwneud cais - mae rhai eithriadau, fel aelodau ac aelodau teulu’r lluoedd arfog
- wedi bod ym Mhrydain Fawr am o leiaf 2 o’r 3 blynedd diwethaf (nid yw hyn yn berthnasol os ydych chi’n ffoadur neu os oes gennych statws amddiffyn dyngarol)
- bod yn yn y DU, Iwerddon, Ynys Manaw neu Ynysoedd y Sianel
- ddim yn destun i (oni bai eich bod yn fewnfudwr noddedig)
- peidio â chael Lwfans Byw i’r Anabl (DLA), Taliad Annibyniaeth Personol (PIP), neu
Os ydych yn byw yn yr Alban
Bydd angen i chi wneud cais am yn lle Lwfans Gweini.
Os ydych yn byw yn yr UE, y Swistir, Norwy, Gwlad yr Iâ neu Liechtenstein
Efallai y byddwch yn dal i allu cael Lwfans Gweini os ydych yn ddinesydd yn y DU a’ch bod yn byw neu’n symud i’r UE, yr Ardal Economaidd Ewropeaidd (AEE) neu’r Swistir.
Darllenwch ganllaw i ddarganfod a allwch chi gael budd-daliadau yn yr UE, yr AEE neu’r Swistir.
Os ydych mewn cartref gofal
Fel rheol ni allwch gael Lwfans Gweini os ydych chi’n byw mewn cartref gofal a bod eich awdurdod lleol yn talu am eich gofal. Gallwch barhau i hawlio Lwfans Gweini os ydych chi’n talu am eich holl gostau cartref gofal eich hun.
Os oes angen asesiad arnoch
Dim ond os yw’n aneglur sut mae’ch anabledd neu gyflwr iechyd yn effeithio arnoch y bydd angen i chi fynd i asesiad i wirio’ch cymhwysedd.
Os oes angen asesiad arnoch, byddwch yn cael llythyr yn dweud pam a ble mae’n rhaid i chi fynd. Yn ystod yr asesiad, bydd angen i weithiwr meddygol proffesiynol eich archwilio.
4. Sut i wneud cais
Gallwch wneud cais am Lwfans Gweini ar-lein neu drwy’r post.
Mae yna ffordd wahanol o wneud cais:
-
os ydych yn nesáu at ddiwedd oes (er enghraifft, oherwydd bod gennych salwch sy’n cyfyngu ar fywyd)
I wneud cais, byddwch angen:
- eich rhif Yswiriant Gwladol
- eich cyfeiriad a manylion cyswllt
- manylion o’r anabledd neu gyflwr iechyd rydych angen cymorth ychwanegol gyda hwy
- manylion meddygfa eich Meddyg Teulu neu ganolfan meddygol
- manylion eich cartref gofal, ysbyty neu hosbis os ydych yn aros mewn un ar hyn o bryd
Gwneud cais ar-lein
Bydd y gwasanaeth newydd yn derbyn nifer cyfyngedig o geisiadau pob wythnos.
Ni allwch wneud cais ar-lein os ydych:
- yn benodai
- gyda pŵer atwrnai
Os ydych yn byw yn yr Alban
Os ydych yn byw yn yr Alban, bydd angen i chi wneud cais am yn lle Lwfans Gweini.
Gwneud cais trwy’r post
Gallwch wneud cais drwy naill ai:
- argraffu a chyflwyno’r ffurflen gais Lwfans Gweini
- Cysylltu â’r llinell gymorth i ofyn am ffurflen gais
Llinell gymorth Lwfans Gweini
Ffôn: 0800 731 0122
Ffôn testun: 0800 731 0317
(os na allwch glywed na siarad dros y ffôn): 18001 yna 0800 731 0122
Iaith Arwyddion Prydain (BSL) os ydych ar gyfrifiadur – darganfyddwch sut i
Dydd Llun i ddydd Gwener, 8am i 6pm
Darganfyddwch fwy am gostau galwadau
Ble i anfon y ffurflen
Anfonwch y ffurflen wedi’i chwblhau i:
Freepost DWP Attendance Allowance
Peidiwch ag ysgrifennu unrhyw beth ac eithrio’r cyfeiriad rhadbost ar yr amlen. Nid oes angen cod post na stamp arnoch.
Daw’r ffurflen gyda nodiadau yn dweud wrthych sut i’w chwblhau.
Ar ôl i chi wneud cais
Ar ôl i chi anfon eich cais, byddwch yn derbyn neges testun neu llythyr o fewn 3 wythnos sy’n esbonio pryd gallwch ddisgwyl cael penderfyniad.
Pan mae penderfyniad wedi cael ei wneud, byddwch yn derbyn llythyr yn esbonio’r canlyniad.
Pryd y byddwch yn cael eich talu
Os ydych yn cael dyfarniad o Lwfans Gweini, bydd y llythyr penderfyniad yn dweud wrthych pryd y byddwch yn cael eich taliad cyntaf.
Os ydych yn gwneud cais ar-elin, bydd eich cais yn dechrau ar y dyddiad rydych yn gwneud eich cais.
Os ydych yn argraffu ac yn anfon y ffurflen drwy’r post, bydd eich cais yn dechrau ar y dyddiad mae’r Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) yn ei derbyn.
Os ydych yn ffonio’r llinell gymorth i gael ffurflen, bydd eich cais yn dechrau ar ddyddiad eich galwad ffôn (os byddwch yn dychwelyd y ffurflen o fewn 6 wythnos).
Os ydych yn anghytuno â phenderfyniad
Gallwch herio penerfyniad am eich cais. Gelwir hyn yn gofyn am ailystyriaeth orfodol.
Cwynion
Gallwch gwyno i’r DWP os ydych yn anfodlon gyda’r gwasanaeth a gawsoch.
5. Rhoi gwybod am newid mewn amgylchiadau
Os bydd eich amgylchiadau’n newid, gall y swm a gewch o’r Lwfans Gweini godi neu ostwng.
Mae’n rhaid i chi gysylltu â’r llinell gymorth Lwfans Gweini ar unwaith os:
- mae lefel y cymorth sydd ei angen arnoch neu’ch cyflwr yn newid - bydd angen i chi ddarparu manylion fel a yw’r amseroedd y mae angen help arnoch bob dydd wedi newid
- rydych yn mynd i’r ysbyty neu gartref gofal - bydd angen i chi ddarparu’r cyfeiriad, y dyddiadau rydych wedi bod yno, a sut y telir am eich arhosiad
- mae gweithiwr meddygol wedi dweud efallai y bydd gennych 12 mis neu lai i fyw (gallech gael Lwfans Gweini ar gyfradd uwch o dan ‘reolau arbennig ar gyfer diwedd oes’)
- rydych yn bwriadu gadael y wlad am fwy na 4 wythnos
- rydych yn mynd i’r carchar
- rydych yn newid eich enw, cyfeiriad neu fanylion banc
- rydych am roi’r gorau i dderbyn eich budd-dal
- mae manylion eich meddyg yn newid
- mae eich statws mewnfudo yn newid, os nad ydych yn ddinesydd Prydeinig
Gallech gael eich cymryd i’r llys neu orfod talu cosb os byddwch yn rhoi gwybodaeth anghywir neu os nad ydych yn rhoi gwybod am newid yn eich amgylchiadau.
Llinell Gymorth Lwfans Gweini
Ffôn: 0800 731 0122
Ffôn testun: 0800 731 0317
(os na allwch glywed na siarad dros y ffôn): 18001 yna 0800 731 0122
Iaith Arwyddion Prydain (BSL) os ydych ar gyfrifiadur – darganfyddwch sut i
Dydd Llun i ddydd Gwener, 8am i 6pm
Darganfyddwch fwy am gostau galwadau
Os ydych wedi cael eich talu gormod
Efallai y bydd yn rhaid i chi ad-dalu’r arian os ydych:
- heb roi gwybod am newid ar unwaith
- wedi rhoi gwybodaeth anghywir
- wedi cael eich gordalu trwy gamgymeriad
Darganfyddwch sut i ad-dalu’r arian sy’n ddyledus gennych o ordaliad budd-dal.
6. Gwneud cais am Lwfans Gweini os ydych yn nesáu at ddiwedd oes
Os ydych yn nesáu at ddiwedd oes (er enghraifft, oherwydd salwch sy’n cyfyngu ar fywyd) efallai y byddwch yn gallu cael Lwfans Gweini yn gyflymach ac ar gyfradd uwch.
Weithiau gelwir hyn yn ‘reolau arbennig ar gyfer diwedd oes’.
Efallai y byddwch hefyd yn gallu cael budd-daliadau eraill os ydych yn nesáu at ddiwedd oes.
Cymhwysedd
Rydych yn gymwys os:
- ydych wedi cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth
- mae eich meddyg neu weithiwr meddygol proffesiynol wedi dweud y gallai fod gennych 12 mis neu lai i fyw
Gall fod yn anodd rhagweld pa mor hir y gallai rhywun fyw. Os nad yw gweithiwr meddygol proffesiynol wedi siarad â chi am hyn, gallwch barhau i ofyn iddynt gefnogi eich cais o dan y rheolau arbennig ar gyfer diwedd oes.
Beth fyddwch yn ei gael
Byddwch yn cael y gyfradd uwch o £110.40 yr wythnos.
Gallech hefyd gael Credyd Pensiwn, Budd-dal Tai neu Ostyngiad Treth Gyngor ychwanegol.
Ni fydd y llythyr am yr arian a ddyfarnwyd yn sôn am ‘reolau arbennig’.
Sut i wneud cais
Gallwch wneud cais dros eich hun neu gall rhywun arall wneud cais ar eich rhan (nid oes angen eich caniatâd arnynt).
Mae angen i chi:
- ofyn i weithiwr meddygol proffesiynol am ffurflen SR1 - byddant naill ai’n ei llenwi ac yn rhoi’r ffurflen i chi neu’n ei hanfon yn uniongyrchol i’r Adran Gwaith a Phensiynau (DWP)
- gwneud cais am Lwfans Gweini ar-lein neu drwy’r post
Ni fydd angen i chi fynd i asesiad wyneb yn wyneb.
Gwneud cais ar-lein
I wneud cais, byddwch angen:
- eich rhif Yswiriant Gwladol
- eich cyfeiriad a manylion cyswllt
- manylion o’r anabledd neu gyflwr iechyd rydych angen cymorth ychwanegol gyda hwy ar ei gyfer
- manylion meddygfa eich Meddyg Teulu neu ganolfan feddygol
- manylion eich cartref gofal, ysbyty neu hosbis os ydych yn aros mewn un ar hyn o bryd
Gwneud cais drwy’r post
Gallwch naill ai:Â
- argraffu a chyflwyno’r Ffurflen gais Lwfans Gweini
- cysylltu â’r llinell gymorth i ofyn am ffurflen gais
Llinell gymorth Lwfans Gweini
Ffôn: 0800 731 0122
Ffôn testun: 0800 731 0317
(os na allwch glywed neu siarad dros y ffôn): 18001 yna 0800 731 0122
Iaith Arwyddion Prydain (BSL) os ydych ar gyfrifiadur - darganfyddwch sut i
Dydd Llun i ddydd Gwener, 8am i 6pm
Darganfyddwch am gostau galwadau
Anfonwch y ffurflen gais wedi’i chwblhau at:
Freepost
DWP Attendance Allowance
Ar ôl i chi wneud cais
Ar ôl i chi anfon eich cais, byddwn yn cysylltu â chi dros y ffôn neu’n anfon llythyr o fewn 3 wythnos i egluro pryd y gallwch ddisgwyl penderfyniad.
Unwaith y bydd penderfyniad yn cael ei wneud, byddwch yn cael llythyr yn egluro’r canlyniad.
Pryd y byddwch yn cael eich talu
Os ydych yn cael dyfarniad o Lwfans Gweini, bydd y llythyr penderfyniad yn dweud wrthych pryd y byddwch yn cael eich taliad cyntaf.
Os ydych yn gwneud cais ar-lein, bydd eich cais yn dechrau ar y dyddiad y byddwch yn gwneud eich cais.
Os ydych yn argraffu ac yn anfon y ffurflen drwy’r post, bydd eich cais yn dechrau ar y dyddiad mae’r DWP yn ei derbyn.
Os byddwch yn ffonio’r llinell gymorth i gael ffurflen, bydd eich cais yn dechrau ar ddyddiad eich galwad ffôn (os byddwch yn dychwelyd y ffurflen o fewn 6 wythnos).
Os ydych eisoes yn cael Lwfans Gweini
Cysylltwch â llinell gymorth y Lwfans Gweini ar unwaith os ydych eisoes yn cael Lwfans Gweini a bod gweithiwr meddygol proffesiynol wedi dweud y gallai fod gennych 12 mis neu lai i fyw.