Sut i bleidleisio

Printable version

1. Trosolwg

Mae angen i chi fod wedi’ch cofrestru i bleidleisio cyn y gallwch bleidleisio mewn etholiadau neu refferenda yn y DU.Ìý

Bydd angen i chi ddangos ID ffotograffig pan fyddwch yn pleidleisio yn bersonol mewn rhai etholiadau a refferenda yng Nghymru, Lloegr a’r Alban.Ìý 

Cadarnhewch ym mha etholiadau y mae angen ID ffotograffig arnoch a pha fathau o ID y gallwch eu defnyddio cyn i chi fynd i bleidleisio.

Mae rheolau gwahanol .

Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg (English).

Ni allwch gofrestru i bleidleisio yn yr etholiadau lleol yn Lloegr ar 1 Mai 2025 mwyach. Gallwch gofrestru i bleidleisio mewn etholiadau a refferenda yn y dyfodol o hyd.

Eich cymhwystra i bleidleisio

Bydd p’un a ydych yn gymwys i bleidleisio yn dibynnu ar y canlynol: 

  • eich oedran 
  • eich cenedligrwydd
  • ble rydych yn byw
  • p’un a ydych wedi’ch cofrestru i bleidleisio 

Mae gan etholiadau a refferenda gwahanol yn y DU reolau gwahanol o ran pwy all bleidleisio. Mae hyn yn golygu na all pawb bleidleisio ym mhob sefyllfa.

Dysgwch fwy am etholiadau gwahanol a chadarnhewch a ydych yn gymwys i bleidleisio.

Ffyrdd o bleidleisio

Unwaith y byddwch wedi cofrestru, gallwch wneud y canlynol: 

Ni allwch bleidleisio ar-lein mewn unrhyw etholiadau.

2. Pleidleisio yn bersonol

Rydych yn pleidleisio yn bersonol mewn gorsaf bleidleisio (mewn adeilad cyhoeddus fel arfer, megis ysgol neu neuadd leol).Ìý

Eich cerdyn pleidleisio

Caiff cerdyn pleidleisio ei anfon atoch cyn etholiad neu refferendwm yn dweud wrthych pryd i bleidleisio ac ym mha orsaf bleidleisio.Ìý

Dim ond yn yr orsaf bleidleisio a nodir ar eich cerdyn y gallwch bleidleisio.

Os nad ydych wedi cael cerdyn pleidleisio ond rydych yn meddwl y dylech, cysylltwch â’ch Swyddfa Cofrestru Etholiadol.

Gallwch dal bleidleisio os byddwch wedi colli eich cerdyn pleidleisio. Nid oes rhaid i chi fynd â’ch cerdyn gyda chi i bleidleisio.

Os nad yw eich cerdyn gennych a bod angen i chi gadarnhau pa orsaf bleidleisio y dylech fynd iddi, cysylltwch â’ch Swyddfa Cofrestru Etholiadol.

Pryd y gallwch bleidleisio 

Bydd gorsafoedd pleidleisio ar agor rhwng 7am a 10pm ar ddiwrnod etholiad (‘y diwrnod pleidleisio’).

Pan fyddwch yn cyrraedd yr orsaf bleidleisio

Rhowch eich enw a’ch cyfeiriad i’r staff yn yr orsaf bleidleisio pan fyddwch yn cyrraedd.

Bydd angen i chi ddangos eich ID ffotograffig er mwyn cadarnhau pwy ydych chi mewn rhai etholiadau a refferenda.

Byddwch yn cael papur pleidleisio â rhestr o’r bobl, y pleidiau neu’r opsiynau y gallwch bleidleisio drostynt.

Llenwi eich papur pleidleisio

Dilynwch y cyfarwyddiadau ar yr hysbysiadau yn y bwth bleidleisio ac ar frig y papur pleidleisio er mwyn bwrw eich pleidlais.

Pleidleisio os oes gennych anabledd

Os oes gennych anabledd, gall eich Swyddfa Cofrestru Etholiadol roi gwybodaeth am y canlynol i chi:

  • mynediad ffisegol, er enghraifft rampiau ar gyfer cadeiriau olwyn a lleoedd parcio i bobl anabl
  • bythau pleidleisio lefel isel
  • unrhyw gyfarpar penodol sydd ei angen arnoch

Mae’n rhaid i bob gorsaf bleidleisio ddarparu o leiaf un fersiwn print bras o’r papur pleidleisio.

3. Pleidleisio drwy'r post

Mae’n rhaid i chi wneud cais am bleidlais bost os ydych chi am bleidleisio drwy’r post, er enghraifft:

  • os ydych oddi cartref
  • os ydych dramor ac am bleidleisio yng Nghymru, Lloegr neu’r Alban

Nid oes angen i chi roi rheswm oni bai eich bod yn pleidleisio yng Ngogledd Iwerddon.Ìý

Ni allwch wneud cais am bleidlais bost ar gyfer yr etholiadau yn Lloegr ar 1 Mai 2025 mwyach. Gallwch wneud cais am bleidlais bost i’w defnyddio mewn etholiadau a refferenda yn y dyfodol o hyd.

Gwneud cais am bleidlais bost

Gallwch wneud cais am bleidlais bost ar gyfer un o’r canlynol:

  • etholiad unigol ar ddyddiad penodol
  • cyfnod penodol os ydych am bleidleisio yng Nghymru, Lloegr neu’r Alban
  • hyd at dair blynedd

Gallwch wneud y canlynol:

Mae ffurflen wahanol os ydych yn gwneud cais am bleidlais bost yng .

Ar ôl i chi wneud cais, caiff pecyn pleidleisio drwy’r post ei anfon atoch yn cynnwys papur pleidleisio a datganiad pleidleisio drwy’r post.Ìý

Newid i ble caiff eich pecyn pleidleisio drwy’r post ei anfon

Dylech wneud cais newydd am bleidlais bost os byddwch yn symud tÅ· neu os byddwch oddi cartref pan gaiff y pecyn pleidleisio drwy’r post ei anfon.Ìý

Mae ffurflen wahanol os ydych yn gwneud cais am bleidlais bost yng .

Cwblhau a dychwelyd eich pecyn pleidleisio drwy’r post

Pan fyddwch yn pleidleisio drwy’r post, dylech wneud y canlynol:

  • marcio eich pleidlais ar eich papur pleidleisio yn gyfrinachol 
  • llenwi’r datganiad pleidleisio drwy’r post
  • rhoi’r papur pleidleisio a’r datganiad pleidleisio drwy’r post yn yr amlen a ddarperir
  • selio’r amlen eich hun

Dylech ddychwelyd eich pecyn pleidleisio drwy’r post cyn gynted â phosibl er mwyn gwneud yn siŵr bod eich pleidlais bost yn cael ei chyfrif.

Os ydych yn rhy hwyr i bostio eich pecyn pleidleisio drwy’r post 

Yng Nghymru a Lloegr

Ewch â’ch papur pleidleisio a’ch datganiad pleidleisio drwy’r post i’ch gorsaf bleidleisio erbyn 10pm ar ddiwrnod yr etholiad neu i’ch Swyddfa Cofrestru Etholiadol cyn iddi gau.

Caiff eich pleidlais ei gwrthod os na fyddwch yn rhoi eich papur pleidleisio i aelod o’r staff yn yr orsaf bleidleisio neu’r Swyddfa Cofrestru Etholiadol ac yn cwblhau ffurflen.Ìý

Peidiwch â phostio eich papur pleidleisio drwy flwch llythyrau’r Swyddfa Cofrestru Etholiadol.

Gallwch gyflwyno: 

  • eich pecyn pleidleisio drwy’r post eich hun wedi’i gwblhau
  • pecynnau pleidleisio drwy’r post wedi’u cwblhau ar gyfer hyd at bum pleidleisiwr arall

Os ydych yn ymgyrchydd gwleidyddol, rhaid i’r pum pleidleisiwr arall fod yn aelodau o’ch teulu neu’n bobl rydych yn darparu gofal rheolaidd iddynt.

Yn yr Alban

Dylech ddychwelyd eich pecyn pleidleisio drwy’r post wedi’i gwblhau i’r swyddog canlyniadau yn eich cyngor cyn iddo gau. Dod o hyd i’ch cyngor.

Yng Ngogledd Iwerddon

Os byddwch yn pleidleisio yng Ngogledd Iwerddon, dim ond mewn Swyddfa Cofrestru Etholiadol y gallwch gyflwyno eich pecyn pleidleisio drwy’r post wedi’i gwblhau.Ìý

Cael papur pleidleisio newydd yn lle un sydd wedi’i ddifrodi neu ar goll

Mae angen i’ch papur pleidleisio ddangos eich manylion a’ch pleidlais yn glir. Os bydd wedi’i ddifrodi, bydd angen i chi gael un arall.

Gallwch naill ai:

Ni chewch bleidleisio mewn gorsaf bleidleisio os byddwch wedi cofrestru i bleidleisio drwy’r post ond bod eich papur pleidleisio yn mynd ar goll neu’n cael ei ddifrodi wedi hynny.

4. Pleidleisio drwy ddirprwy

Os na allwch bleidleisio yn bersonol, gallwch ofyn i rywun bleidleisio ar eich rhan. Gelwir hyn yn bleidlais drwy ddirprwy.

Dim ond o dan rai amgylchiadau y cewch wneud cais i bleidleisio drwy ddirprwy, gan gynnwys:

  • bod i ffwrdd ar y diwrnod pleidleisio
  • wedi’ch cofrestru fel pleidleisiwr tramor
  • problem feddygol neu anabledd
  • methu pleidleisio yn bersonol oherwydd gwaith neu wasanaeth milwrol

Dylai eich dirprwy fod yn rhywun rydych chi’n ymddiried ynddo i bleidleisio ar eich rhan. Bydd angen i chi ddweud wrtho dros ba ymgeisydd (neu ganlyniad refferendwm) rydych am bleidleisio.

Ni allwch wneud cais i bleidleisio drwy ddirprwy yn yr etholiadau yn Lloegr ar 1 Mai 2025 mwyach. Gallwch wneud cais i bleidleisio drwy ddirprwy mewn etholiadau a refferenda yn y dyfodol o hyd.

Sut i wneud cais am bleidlais drwy ddirprwy

Gallwch wneud y canlynol:

Rhaid i chi wneud cais erbyn:

  • 5pm, 6 diwrnod gwaith cyn diwrnod yr etholiad yng Nghymru, Lloegr neu’r Alban 
  • 5pm, 14 diwrnod gwaith cyn diwrnod yr etholiad yng Ngogledd Iwerddon

Gwneud cais am bleidlais drwy ddirprwy mewn argyfwng 

Os bydd y dyddiad cau i wneud cais am bleidlais drwy ddirprwy wedi mynd heibio, mae’n bosibl y byddwch yn gallu gwneud cais am bleidlais drwy ddirprwy mewn argyfwng os byddwch yn bodloni unrhyw un o’r canlynol:

  • ni allwch bleidleisio yn bersonol oherwydd argyfwng meddygol neu anabledd
  • ni allwch bleidleisio yn bersonol oherwydd eich gwaith 
  • mae’r ID ffotograffig roeddech yn bwriadu ei ddefnyddio i bleidleisio ar goll, wedi’i ddwyn, wedi’i ddifrodi neu wedi’i ddinistrio
  • nid ydych wedi cael ID ffotograffig newydd neu un yn lle hen un rydych wedi’i archebu eto

Nid oes angen i chi ddangos ID ffotograffig i bleidleisio yn bersonol ym mhob etholiad neu refferendwm yn y DU. Cadarnhewch a oes angen i chi ddod ag ID ffotograffig i bleidleisio.

Yng Nghymru, Lloegr a’r Alban, gallwch wneud cais hyd at 5pm ar ddiwrnod yr etholiad.

Llenwch ffurflen bapur er mwyn:

Os ydych yn gwneud cais am bleidlais drwy ddirprwy mewn argyfwng oherwydd argyfwng meddygol, anabledd neu oherwydd eich gwaith, rhaid i’ch ffurflen gais gael ei llofnodi gan ‘berson priodol’. Gallai hyn gynnwys cyflogwr neu feddyg, er enghraifft.Ìý

Anfonwch eich ffurflen wedi’i chwblhau i’ch Swyddfa Cofrestru Etholiadol.

Mae ffordd wahanol o wneud cais am bleidlais drwy ddirprwy mewn argyfwng yng Ngogledd Iwerddon. Gallwch wneud cais hyd at 6 diwrnod cyn yr etholiad. .

Am ba hyd y bydd eich pleidlais drwy ddirprwy yn para

Gallwch wneud cais i bleidleisio drwy ddirprwy:

  • ar gyfer etholiad neu refferendwm unigol ar ddyddiad penodol
  • am gyfnod penodol os ydych am bleidleisio yng Nghymru, Lloegr neu’r Alban
  • yn barhaol 

Pwy all fod yn ddirprwy

Gallwch ofyn i unrhyw un weithredu fel eich dirprwy, ar yr amod bod yr unigolyn:

  • wedi’i gofrestru i bleidleisio
  • yn cael pleidleisio yn y math o etholiad a gynhelir
  • yn gallu pleidleisio yn yr orsaf bleidleisio a nodir ar eich cerdyn pleidleisio 

Bydd angen i’r unigolyn fynd â’i ID ffotograffig ei hun gydag ef er mwyn pleidleisio mewn rhai etholiadau.

Os na all gyrraedd eich gorsaf bleidleisio, bydd angen iddo gysylltu â’ch Swyddfa Cofrestru Etholiadol i drefnu i fwrw ei bleidlais drwy ddirprwy drwy’r post.

Newid neu ganslo eich pleidlais drwy ddirprwy

I newid pwy sy’n gweithredu fel eich dirprwy neu i ddechrau pleidleisio yn bersonol, cysylltwch â’ch Swyddfa Cofrestru Etholiadol.Ìý

Os byddai’n well gennych bleidleisio drwy’r post, cwblhewch ffurflen gais am bleidlais bost.

5. Pleidleisio o dramor

Mae’r ffordd y byddwch yn pleidleisio pan fyddwch dramor yn dibynnu ar y canlynol:

  • p’un a fyddwch dramor dros dro neu a ydych yn byw dramor
  • ble yr hoffech bleidleisio

Os byddwch dramor dros dro

Gallwch bleidleisio drwy’r post neu drwy ddirprwy os byddwch dramor dros dro ar ddiwrnod yr etholiad, er enghraifft ar wyliau neu ar daith gyda’ch gwaith.Ìý

Pleidleisio yng Nghymru, Lloegr neu’r Alban

Gallwch drefnu:

Os byddwch dramor ar ddiwrnod yr etholiad, bydd angen i chi wneud trefniadau ymlaen llaw. Gwnewch gais i bleidleisio drwy ddirprwy os yw’r etholiad neu’r refferendwm lai na phythefnos i ffwrdd ac nad ydych wedi gwneud trefniadau eto.

Caiff eich papur pleidleisio drwy’r post ei anfon i’r cyfeiriad a ddewiswyd gennych 16 diwrnod cyn yr etholiad ar y cynharaf. Bydd angen i chi ddychwelyd eich papur pleidleisio cyn 10pm ar y diwrnod pleidleisio.

Pleidleisio yng Ngogledd Iwerddon

Mae proses wahanol ar gyfer ac y byddwch dramor dros dro ar ddiwrnod yr etholiad.

Os na fydd amser gennych i dderbyn a dychwelyd eich papur pleidleisio drwy’r post yng Ngogledd Iwerddon cyn mynd dramor, bydd angen i chi bleidleisio drwy ddirprwy. Ni allwch wneud cais i’ch pleidlais bost gael ei hanfon y tu allan i’r DU.Ìý

Os ydych yn symud dramor neu’n byw dramor

Gallwch bleidleisio yn etholiadau Senedd y DU. Mae’n bosibl y byddwch yn gallu pleidleisio mewn refferenda. Mae gan bob refferendwm reolau gwahanol o ran pwy all bleidleisio ynddo.Ìý

Mae angen i chi gofrestru i bleidleisio fel etholwr tramor.Ìý

Gallwch bleidleisio drwy’r post neu bleidleisio drwy ddirprwy.Ìý

Dysgwch sut i bleidleisio os ydych wedi’ch cofrestru fel pleidleisiwr tramor.

Os ydych wedi cofrestru yng Ngogledd Iwerddon, ni allwch bleidleisio drwy’r post o dramor.

Cael cymorth i bleidleisio

Gallwch gysylltu â’ch Swyddfa Cofrestru Etholiadol i gael gwybod pryd y gallai pleidleisiau post gael eu hanfon. Gallai hyn eich helpu i benderfynu p’un a ydych am bleidleisio drwy ddirprwy neu drwy’r post.

6. ID ffotograffig y bydd ei angen arnoch

Bydd angen i chi ddangos ID ffotograffig pan fyddwch yn pleidleisio yn bersonol mewn rhai etholiadau neu refferenda yn y DU.Ìý

Bydd ei angen arnoch i bleidleisio yn y canlynol:

  • etholiadau Senedd y DU, gan gynnwys etholiadau cyffredinol ac is-etholiadau 
  • deisebau adalw ar gyfer Aelodau Seneddol yng Nghymru, Lloegr a’r Alban
  • etholiadau lleol yn Lloegr (gan gynnwys cynghorau, meiri, Awdurdod Llundain Fwyaf a phlwyfi)
  • etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu yng Nghymru a Lloegr
  • refferenda cynllunio cymdogaethau yn Lloegr
  • refferenda mewn awdurdodau lleol yn Lloegr (gan gynnwys refferenda am gynyddu’r Dreth Gyngor)

Mae rheolau gwahanol .

Cadarnhau bod gennych fath o ID ffotograffig a dderbynnir

Mae’n rhaid i chi ddangos y fersiwn wreiddiol o’ch ID ffotograffig. Ni allwch ddefnyddio ffotograff, delwedd ar ffôn na llungopi o’ch ID.Ìý

Mae’n rhaid i’r llun ar eich ID edrych fel chi. Gallwch ddefnyddio eich ID hyd yn oed os na fydd y dyddiad yn ddilys bellach.

Bydd angen un o’r mathau canlynol o ID ffotograffig arnoch i bleidleisio:

  • trwydded yrru cerdyn-llun ar gyfer y DU neu Ogledd Iwerddon (llawn neu dros dro)
  • trwydded yrru a gyflwynwyd gan wlad yn yr UE, Norwy, Gwlad yr Iâ, Liechtenstein, Ynys Manaw neu unrhyw un o Ynysoedd y Sianel
  • pasbort y DU
  • pasbort a gyflwynwyd gan wlad yn yr UE, Norwy, Gwlad yr Iâ, Liechtenstein neu un o wledydd y Gymanwlad
  • cerdyn PASS (Cynllun Safonau Prawf Oedran Cenedlaethol)
  • Bathodyn Glas
  • trwydded preswylio fiometrig
  • Cerdyn Adnabod Amddiffyn (Ffurflen 90 y Weinyddiaeth Amddiffyn)
  • cerdyn adnabod cenedlaethol a gyflwynwyd gan wlad yn yr UE, Norwy, Gwlad yr Iâ neu Liechtenstein
  • Cerdyn Adnabod Etholiadol Gogledd Iwerddon
  • Tystysgrif Awdurdod Pleidleisiwr
  • Dogfen Etholwr Dienw

Gallwch hefyd ddefnyddio un o’r cardiau teithio canlynol fel ID ffotograffig pan fyddwch yn pleidleisio:

Os nad oes gennych fath o ID ffotograffig a dderbynnir

Os nad oes gennych fath o ID ffotograffig sy’n caniatáu i chi bleidleisio, gallwch wneud cais am Dystysgrif Awdurdod Pleidleisiwr am ddim. Dogfen bapur yw Tystysgrif Awdurdod Pleidleisiwr sy’n dangos eich llun a gellir ei defnyddio i brofi pwy ydych chi pan fyddwch yn pleidleisio mewn gorsaf bleidleisio.Ìý

Gallwch naill ai:

Os byddwch yn pleidleisio fel dirprwy rhywun

Bydd angen i chi fynd â’ch ID eich hun pan fyddwch yn mynd i bleidleisio ar ran rhywun arall. Nid oes angen i chi fynd ag ID yr unigolyn.

Os ydych wedi newid eich enw

Mae’n rhaid i’r enw ar eich ID gyfateb i’ch enw ar y gofrestr etholiadol. Os nad yw’n cyfateb, bydd angen i chi wneud un o’r pethau canlynol:

  • cofrestru i bleidleisio eto gyda’ch manylion newydd
  • mynd â dogfen gyda chi i bleidleisio sy’n profi eich bod wedi newid eich enw (er enghraifft, tystysgrif priodas)

Nid yw gwahaniaethau bach yn bwysig. Er enghraifft, os yw eich ID yn dweud ‘Jim Smith’ yn hytrach na ‘James Smith’.

7. Pleidleisio fel dirprwy ar ran rhywun arall

Mae’n bosibl y gofynnir i chi bleidleisio ar ran rhywun arall os na fydd yr unigolyn hwnnw yn gallu pleidleisio yn bersonol. Gelwir hyn yn bleidlais drwy ddirprwy.

Er mwyn bod yn ddirprwy, rhaid i chi fodloni’r canlynol:

  • bod wedi’ch cofrestru i bleidleisio
  • bod yn gallu pleidleisio yn y math o etholiad sy’n cael ei gynna
  • bod yn gallu pleidleisio yn yr orsaf bleidleisio a nodir ar ei gerdyn pleidleisio

Ar ran pwy y gallwch weithredu fel dirprwy

Gallwch fod yn ddirprwy ar gyfer naill ai:

  • hyd at ddau berson 
  • hyd at bedwar person os bydd o leiaf ddau ohonynt wedi’u cofrestru i bleidleisio o dramor

Pleidleisio fel dirprwy ar ran rhywun sydd wedi cofrestru i bleidleisio i bleidleisio o dramor 

Bydd y person rydych yn gweithredu fel dirprwy ar ei ran wedi cofrestru i bleidleisio o dramor os yw naill ai: 

  • yn ddinesydd Prydeinig sy’n byw dramor (a elwir yn ‘bleidleisiwr tramor’)Ìý
  • yn byw dramor oherwydd gwaith i’r lluoedd arfog neu’r Llywodraeth (a elwir yn ‘bleidleisiwr yn y lluoedd arfog’)

Pleidleiswyr yn y lluoedd arfog

Bydd pleidleiswyr yn y lluoedd arfog yn gwneud ‘datganiad gwasanaeth’ pan fyddant yn cofrestru i bleidleisio. Mae’n rhaid iddynt fod naill ai: 

Pleidleisio drwy ddirprwy yn bersonol

Cyn i chi bleidleisio, dylech gael gwybod pa ymgeisydd (neu ganlyniad refferendwm) y mae’r unigolyn am bleidleisio ar ei gyfer.

Bydd angen i chi bleidleisio yn yr orsaf bleidleisio y mae’r unigolyn rydych yn ddirprwy ar ei ran yn pleidleisio ynddi fel arfer. Efallai y bydd yr orsaf bleidleisio hon yn wahanol i’r orsaf bleidleisio rydych chi’n pleidleisio ynddi.

Os nad ydych yn gwybod pa orsaf bleidleisio y dylech fynd iddi, cysylltwch â Swyddfa Cofrestru Etholiadol y person rydych yn ddirprwy ar ei gyfer.Ìý

Efallai y bydd angen i chi ddangos ID ffotograffig i bleidleisio mewn rhai etholiadau. Cadarnhewch pa ID ffotograffig y bydd ei angen arnoch. Nid oes angen i chi ddangos ID yr unigolyn rydych yn ddirprwy ar ei ran.

Os na allwch gyrraedd gorsaf bleidleisio yr unigolyn rydych yn gweithredu fel dirprwy ar ei gyfer

Gallwch wneud cais i bleidleisio fel dirprwy drwy’r post.

Bydd angen i chi gysylltu â Swyddfa Cofrestru Etholiadol yr unigolyn rydych yn gweithredu fel dirprwy ar ei gyfer i gael ffurflen gais er mwyn pleidleisio fel dirprwy drwy’r post. Ni allwch gael gafael ar y ffurflen hon ar-lein.