Talu cosb am gyflwyno’n hwyr ar gyfer Cynllun y Diwydiant Adeiladu (CIS)
Printable version
1. Trosolwg
Bydd Cyllid a Thollau EF (CThEF) yn anfon hysbysiad o gosb am gyflwyno’n hwyr atoch yn rhoi gwybod i chi faint i’w dalu os ydych wedi cyflwyno’ch datganiad misol yn hwyr (yn agor tudalen Saesneg).
Mae’n rhaid i chi dalu cyn pen 30 diwrnod o gael yr hysbysiad, neu gallwch apelio:
-
drwy
-
drwy ysgrifennu at CThEF – dyfynnwch eich Cyfeirnod Unigryw y Trethdalwr (UTR) a’r cyfeirnod talu a ddangosir ar yr hysbysiad
Mae’r gwasanaeth hwn hefyd ar gael yn Saesneg.
Talu cosb am gyflwyno’n hwyr ar-lein
Gallwch dalu ar-lein drwy’r dulliau canlynol:
-
cymeradwyo gan ddefnyddio’ch cyfrif banc
-
Debyd Uniongyrchol (taliad untro)
-
cerdyn debyd neu gerdyn credyd corfforaethol
Dulliau o dalu
Gwnewch yn siŵr eich bod yn talu erbyn y dyddiad cau. Mae’r amser y mae angen i chi ei ganiatáu yn dibynnu ar eich dull o dalu.
Ni allwch dalu yn Swyddfa’r Post mwyach.
Ar yr un diwrnod neu’r diwrnod nesaf
-
bancio ar-lein neu dros y ffôn drwy daliadau cyflymach neu CHAPS
3 diwrnod gwaith
-
Debyd Uniongyrchol (os ydych wedi trefnu un ar gyfer CThEF o’r blaen)
-
bancio ar-lein neu dros y ffôn drwy Bacs
5 diwrnod gwaith
- Debyd Uniongyrchol (os nad ydych wedi trefnu un gyda CThEF o’r blaen)
Os bydd y dyddiad cau ar benwythnos neu ŵyl banc, gwnewch yn siŵr bod eich taliad yn dod i law CThEF erbyn y diwrnod gwaith olaf cyn hynny (oni bai eich bod yn talu drwy Daliadau Cyflymach gan ddefnyddio bancio ar-lein neu ffôn).
2. Debyd Uniongyrchol
Bydd angen i chi drefnu Debyd Uniongyrchol newydd drwy eich busnes i wneud taliad unigol.
Ni allwch ddefnyddio’ch Debyd Uniongyrchol misol neu chwarterol presennol ar gyfer Cynllun y Diwydiant Adeiladu (CIS).
Bydd angen y cyfeirnod talu, 14 cymeriad o hyd, arnoch ar gyfer y gosb am gyflwyno’n hwyr ar gyfer CIS o’ch hysbysiad o gosb am gyflwyno’n hwyr. Mae’r rhif hwn bob amser yn dechrau gydag ‘X’.
Peidiwch â defnyddio’ch cyfeirnod Swyddfa Gyfrifon. Gall eich taliad gael ei oedi os ydych yn defnyddio’r cyfeirnod anghywir.
Faint o amser i’w ganiatáu
Caniatewch 5 diwrnod gwaith i brosesu Debyd Uniongyrchol pan fyddwch yn trefnu un am y tro cyntaf. Dylai gymryd 3 diwrnod gwaith y tro nesaf os ydych yn defnyddio’r un manylion banc.
Os nad ydych wedi defnyddio’ch Debyd Uniongyrchol am 2 flynedd neu fwy, gwiriwch gyda’ch banc ei fod wedi’i drefnu o hyd.
3. Cymeradwyo taliad drwy’ch cyfrif banc ar-lein
Gallwch dalu’ch cosb am gyflwyno’n hwyr ar gyfer Cynllun y Diwydiant Adeiladu (CIS) yn uniongyrchol drwy ddefnyddio’ch cyfrif banc ar-lein neu’ch cyfrif bancio drwy ffôn symudol.
Pan fyddwch yn barod i dalu, . Dewiswch yr opsiwn ‘talu drwy gyfrif banc’. Wedyn, gofynnir i chi fewngofnodi i’ch cyfrif banc ar-lein neu’ch cyfrif bancio drwy ffôn symudol er mwyn cymeradwyo’ch taliad cosb am gyflwyno’n hwyr ar gyfer CIS.
Fel arfer, bydd y taliad yn digwydd ar unwaith, ond weithiau mae’n gallu cymryd hyd at 2 awr i ymddangos yn eich cyfrif banc.
Bydd angen i chi fod â’ch manylion bancio ar-lein wrth law er mwyn talu drwy’r dull hwn.
4. Gwneud trosglwyddiad banc ar-lein neu dros y ffôn
Gallwch dalu drwy Daliadau Cyflymach, CHAPS neu Bacs i gyfrif Cyllid a Thollau EF (CThEF).
Cod didoli | Rhif y cyfrif | Enw’r cyfrif |
---|---|---|
08 32 10 | 12001020 | HMRC Shipley |
Cyfeirnod
Bydd angen y cyfeirnod talu ar gyfer y gosb am gyflwyno’n hwyr ar gyfer Cynllun y Diwydiant Adeiladu (CIS) arnoch. Mae’r cyfeirnod hwn yn 14 cymeriad o hyd a gellir dod o hyd iddo ar eich hysbysiad o gosb am gyflwyno’n hwyr. Mae’r cyfeirnod hwn bob amser yn dechrau gydag ‘X’.
Peidiwch â defnyddio’ch cyfeirnod Swyddfa Gyfrifon. Gall eich taliad gael ei oedi os ydych yn defnyddio’r cyfeirnod anghywir.
Faint o amser y mae’n ei gymryd
Fel arfer, bydd taliadau a wneir gan ddefnyddio Taliadau Cyflymach (bancio ar-lein neu dros y ffôn) yn cyrraedd CThEF ar yr un diwrnod neu’r diwrnod nesaf, gan gynnwys ar benwythnosau a gwyliau banc.
Fel arfer, bydd taliadau CHAPS yn cyrraedd CThEF ar yr un diwrnod gwaith os byddwch yn talu o fewn amserau prosesu’ch banc.
Fel arfer, mae taliadau Bacs yn cymryd 3 diwrnod gwaith.
Gwiriwch derfynau trosglwyddo ac amserau prosesu’ch banc cyn i chi wneud taliad.
Taliadau tramor
Defnyddiwch y manylion hyn er mwyn talu o gyfrif tramor.
Rhif y cyfrif (IBAN) | Cod Adnabod y Busnes (BIC) | Enw’r cyfrif |
---|---|---|
GB03BARC20114783977692 | BARCGB22 | HMRC Shipley |
Cyfeiriad bancio CThEF yw:
Barclays Bank PLC
1 Churchill Place
London
United Kingdom
E14 5HP
5. Â cherdyn debyd neu gerdyn credyd corfforaethol ar-lein
Gallwch .
Bydd ffi yn cael ei chodi os talwch â cherdyn credyd corfforaethol neu gerdyn debyd corfforaethol. Nid yw’r ffi yn ad-daladwy.
Ni fydd ffi yn cael ei chodi os talwch â cherdyn debyd personol.
Ni allwch dalu â cherdyn credyd personol.
Bydd Cyllid a Thollau EF (CThEF) yn derbyn eich taliad ar y dyddiad y gwnewch y taliad (hyd yn oed ar wyliau banc a phenwythnosau) – nid y dyddiad y mae’n cyrraedd cyfrif CThEF.
Os na allwch dalu’ch cosb am gyflwyno’n hwyr yn llawn â cherdyn, dylech ddefnyddio dull arall o dalu megis trosglwyddiad banc.
Cyfeirnod
Bydd angen y cyfeirnod talu ar gyfer y gosb am gyflwyno’n hwyr ar gyfer Cynllun y Diwydiant Adeiladu (CIS) arnoch. Mae’r cyfeirnod hwn yn 14 cymeriad o hyd a gellir dod o hyd iddo ar eich hysbysiad o gosb am gyflwyno’n hwyr. Mae’r cyfeirnod hwn bob amser yn dechrau gydag ‘X’.
Peidiwch â defnyddio’ch cyfeirnod Swyddfa Gyfrifon. Gall eich taliad gael ei oedi os ydych yn defnyddio’r cyfeirnod anghywir.
6. Yn eich banc neu’ch cymdeithas adeiladu
Defnyddiwch y slip talu a anfonodd Cyllid a Thollau EF (CThEF) gyda’ch hysbysiad o gosb am gyflwyno’n hwyr.
Peidiwch â defnyddio slip talu o’ch llyfryn talu gan y bydd eich taliad yn cael ei gredydu i’r cyfrif anghywir a chan ei bod yn bosibl y cewch nodynnau atgoffa i dalu.
Gwnewch eich siec yn daladwy i ‘Cyllid a Thollau EF yn unig’.
Ysgrifennwch eich cyfeirnod, sy’n 14 o gymeriadau, ar gyfer y gosb am gyflwyno’n hwyr ar gyfer Cynllun y Diwydiant Adeiladu (CIS) ar gefn eich siec. Bydd y cyfeirnod ar eich hysbysiad o gosb. Mae bob amser yn dechrau gydag X.
Peidiwch â defnyddio’ch cyfeirnod Swyddfa Gyfrifon. Gall eich taliad gael ei oedi os ydych yn defnyddio’r cyfeirnod anghywir.
Bydd CThEF yn derbyn eich taliad ar y dyddiad y gwnewch y taliad, nid y dyddiad y mae’n cyrraedd ei gyfrif banc.
7. Talu â siec drwy’r post
Gallwch anfon siec i Gyllid a Thollau EF (CThEF) drwy’r post.
HMRC
Direct
BX5 5BD
Nid oes angen i chi gynnwys enw stryd, enw dinas na blwch Swyddfa’r Post gyda’r cyfeiriad hwn.
Caniatewch 3 diwrnod gwaith i’ch taliad gyrraedd CThEF.
Yr hyn i’w gynnwys
Gwnewch eich siec yn daladwy i ‘Cyllid a Thollau EF yn unig’.
Ysgrifennwch eich cyfeirnod, sy’n 14 o gymeriadau, ar gyfer y gosb am gyflwyno’n hwyr ar gyfer Cynllun y Diwydiant Adeiladu (CIS) ar gefn y siec. Mae hyn bob amser yn dechrau gyda’r llythyren ‘X’. Peidiwch â defnyddio’ch cyfeirnod Swyddfa Gyfrifon.
Mae’n bosibl y caiff eich taliad ei ohirio os na fyddwch yn llenwi’ch siec yn gywir.
Cofiwch gynnwys y slip talu a anfonodd CThEF atoch gyda’ch hysbysiad o gosb am gyflwyno’n hwyr. Peidiwch â phlygu’r slip talu na’r siec, a pheidiwch â’u glynu wrth ei gilydd.
Gallwch gynnwys llythyr ynghyd â’ch taliad er mwyn gwneud cais am dderbynneb oddi wrth CThEF.
Os nad oes gennych slip talu
Anfonwch eich siec gyda llythyr gyda’r manylion hyn:
-
enw’r cwmni
-
cyfeiriad
-
rhif ffôn
-
cyfeirnod y gosb
-
faint rydych yn ei dalu
8. Gwirio bod eich taliad wedi dod i law
Gallwch fwrw golwg dros eich cyfriflen banc neu gymdeithas adeiladu er mwyn cadarnhau bod y taliad wedi gadael eich cyfrif.
Os ydych yn talu â siec drwy’r post, gallwch gynnwys llythyr ynghyd â’ch taliad er mwyn gofyn am dderbynneb oddi wrth Gyllid a Thollau EF (CThEF).