Mynd i wrandawiad tribiwnlys

Gan amlaf, byddwch yn cael o leiaf 14 diwrnod o rybudd o ddyddiad ac amser eich gwrandawiad.

Fel arfer cynhelir gwrandawiadau yn y swyddfa tribiwnlys cyflogaeth sydd agosaf at lle roeddech yn gweithio. Bydd y tribiwnlys yn cysylltu 芒 chi ac yn dweud wrthych os bydd eich gwrandawiad yn digwydd dros y ff么n, drwy fideo neu wyneb yn wyneb.

Rhaid i chi ddod 芒鈥檙 holl ddogfennau rydych am eu defnyddio i gefnogi eich achos gyda chi. Os yw eich gwrandawiad yn un wyneb yn wyneb, gallwch ddod 芒 chydweithiwr neu rywun arall gyda chi os dymunwch wneud hynny. Gallwch hefyd gael rhywun i鈥檆h cefnogi mewn gwrandawiad o bell.

Os ydych chi, eich tyst neu eich cynrychiolydd y tu allan i鈥檙 DU ac eisiau rhoi tystiolaeth trwy gyswllt fideo neu sain byw, cysylltwch 芒鈥檙 tribiwnlys i wneud cais am hyn. Dywedwch wrth y tribiwnlys ym mha wlad ydych chi, y tyst neu鈥檙 cynrychiolydd a pha fath os dystiolaeth sy鈥檔 cael ei rhoi. Mae鈥檔 rhaid i chi wneud hyn cyn gynted 芒 phosibl.

Ni fydd y tribiwnlys yn talu costau teithio i wrandawiad.

Beth fydd yn digwydd yn y gwrandawiad

Byddwch yn cyflwyno鈥檆h achos i鈥檙 tribiwnlys - gall rhywun arall wneud hyn ar eich rhan, er enghraifft, , ffrind neu aelod o鈥檆h teulu. Bydd yr atebydd yn cyflwyno eu hachos yn eich erbyn.

Fel arfer, chi fydd yn rhoi tystiolaeth gyntaf, oni bai bod eich achos yn ymwneud 芒 diswyddo annheg. Gallwch hefyd alw ar dystion i roi tystiolaeth.

Fel arfer, bydd y bobl ganlynol yn gofyn cwestiynau i chi:

  • y barnwr
  • yr atebydd
  • y ddau aelod arall o鈥檙 panel tribiwnlys (dim ond mewn achosion penodol)

Cael penderfyniad

Bydd y penderfyniad yn cael ei anfon atoch ychydig ddyddiau neu wythnosau ar 么l y gwrandawiad. Bydd y penderfyniad yn cael ei gyhoeddi ar PG电子. Mewn rhai achosion efallai byddwch yn cael y penderfyniad yn y gwrandawiad.