Gwneud hawliad i dribiwnlys cyflogaeth

Printable version

1. Pryd allwch wneud hawliad

Gallwch wneud hawliad i dribiwnlys cyflogaeth os ydych yn meddwl bod rhywun, megis eich cyflogwr, darpar gyflogwr neu undeb lafur, wedi eich trin mewn ffordd anghyfreithlon.

Gall triniaeth anghyfreithlon gynnwys:

Mae’r tribiwnlys yn annibynnol o’r llywodraeth. Bydd yn gwrando arnoch chi (yr ‘hawlydd’) ²¹â€™r unigolyn neu’r sefydliad rydych yn gwneud hawliad yn ei erbyn (yr ‘atebydd’) cyn gwneud penderfyniad.

Mae’r broses ar gyfer

Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg (English).

Terfynau amser

Gan amlaf bydd rhaid i chi wneud hawliad o fewn 3 mis o’r dyddiad daeth eich cyflogaeth i ben, neu’r dyddiad pan ddigwyddodd y broblem.

Os ydych chi’n meddwl eich bod wedi colli eich swydd yn annheg, bydd y cyfnod o 3 mis yn dechrau o’r dyddiad daeth eich cyflogaeth i ben.

Os yw eich hawliad yn ymwneud â gwahaniaethu neu anghydfod ynghylch tâl, bydd y cyfnod o 3 mis yn dechrau o’r dyddiad pryd digwyddodd y digwyddiad neu’r anghydfod.

Cyn i chi wneud hawliad i dribiwnlys cyflogaeth, mae’n rhaid i chi gysylltu ag Acas (Y Gwasanaeth Cynghori, Cymodi a Chyflafareddu).

Bydd y terfyn amser ar gyfer gwneud hawliad yn cael ei atal tra bydd Acas yn eich helpu gyda’ch anghydfod.

Os ydych yn gwneud hawliad am ddiswyddo annheg

Efallai y gallwch wneud cais i’ch cyflogaeth cyflogedig barhau (a elwir hefyd yn ‘gymorth interim’) hyd nes y penderfynir yr achos.

Gallwch ond wneud cais am gymorth interim mewn rhai sefyllfaoedd. Mae’r rhain yn cynnwys os ydych wedi’ch diswyddo am:

  • weithgareddau undeb llafur
  • gweithredu fel cynrychiolydd gweithwyr
  • chwythu’r chwiban

Mae’n rhaid i chi wneud eich hawliad o fewn 7 diwrnod i chi gael eich diswyddo. Nid oes rhaid i chi gysylltu ag Acas, oni bai eich bod hefyd yn gwneud hawliadau eraill nad ydynt yn ymwneud â gwneud cais am gymorth interim.

2. Cyn i chi wneud hawliad

Gallwch weld os oes yna ffordd arall i ddatrys y broblem cyn i chi wneud hawliad i dribiwnlys, drwy er enghraifft, ddefnyddio gweithdrefn gwyno.

Defnyddio proses cymodi cynnar Acas

Rhaid i chi roi gwybod i Acas (Gwasanaeth Cynghori, Cymodi a Chyflafareddu) eich bod yn bwriadu gwneud hawliad.

.

Byddwch yn cael cynnig cyfle i geisio setlo’r anghydfod heb fynd i’r tribiwnlys trwy ddefnyddio rhad ac am ddim Acas.

Os na fydd cymodi cynnar yn llwyddiannus, neu os byddwch yn dewis peidio â chymryd rhan, bydd Acas yn anfon tystysgrif cymodi cynnar atoch. Defnyddiwch y dystysgrif hon pan fyddwch yn gwneud hawliad i’r tribiwnlys.

Unwaith y byddwch wedi cael eich tystysgrif, bydd gennych o leiaf un mis ar ôl i wneud eich hawliad.

Os oes mwy nag un atebydd, bydd Acas yn anfon atoch dystysgrif ar gyfer pob atebydd.

os oes gennych gwestiynau am sut mae’r broses cymodi cynnar yn gweithio.

Achlysuron pan nad oes angen i chi gysylltu ag Acas

Nid oes rhaid i chi gysylltu ag Acas i’w hysbysu eich bod yn bwriadu gwneud hawliad:

  • os ydych yn gwneud hawliad gydag unigolyn arall sydd eisoes wedi bod drwy’r broses cymodi cynnar
  • mae’r atebydd eisoes wedi cysylltu ag Acas – bydd angen i chi ddarparu tystiolaeth o hyn
  • rydych ond yn gwneud hawliad am ddiswyddo annheg ac yn gwneud cais am gymorth interim fel rhan o’r hawliad hwnnw – bydd angen i chi ddefnyddio’r broses cymodi cynnar ar gyfer unrhyw hawliadau eraill rydych yn eu gwneud ar yr un amser
  • nid oes gan Acas y pŵer i gymodi ar ran o’ch hawliad neu’ch hawliad cyfan.

Os ydych yn ansicr, cysylltwch ag Acas cyn gwneud hawliad i’r tribiwnlys.

Cymorth cyfreithiol

Efallai byddwch eisiau cael cymorth neu gyngor cyfreithiol, os ydych yn byw yng neu yn , cyn gwneud eich hawliad.

Efallai y bydd eich undeb llafar yn gallu talu am gyfreithiwr i chi.

Efallai y gallwch hefyd gael cyngor cyfreithiol am ddim gan:

  • , os ydych yn byw yng Nghymru a Lloegr
  • , os ydych yn byw yn yr Alban
  • , os ydych yn byw yng Nghymru a Lloegr
  • , os ydych yn byw yng Nghymru a Lloegr
  • , os ydych yn byw yng Nghymru a Lloegr

Os yw eich hawliad yn ymwneud â gwahaniaethu, efallai y gallwch gael:

3. Gwneud hawliad

Gallwch wneud hawliad:

  • ar gyfer chi eich hun, fel yr unig unigolyn sy’n gwneud yr hawliad
  • ar gyfer chi eich hun ac eraill sydd wedi’u trin yn yr un ffordd
  • ar gyfer rhywun arall, os ydych yn gweithredu fel eu cynrychiolydd

Gan amlaf bydd rhaid i chi wneud hawliad i’r tribiwnlys o fewn 3 mis o’r dyddiad daeth eich cyflogaeth i ben, neu’r dyddiad pan ddigwyddodd y broblem.

Gan amlaf byddwch angen tystysgrif cymodi cynnar ar gyfer pob atebydd cyn i chi wneud hawliad. Mae’r rhain ar gael gan Acas (Y Gwasanaeth Cynghori, Cymodi a Chyflafareddu).

Os oes gennych anabledd neu gyflwr iechyd a allai effeithio ar eich gallu i gymryd rhan mewn gwrandawiad, gallwch hysbysu’r tribiwnlys y byddwch angen addasiadau rhesymol. Dywedwch wrth y tribiwnlys os ydych angen i addasiadau gael eu gwneud ar eich cyfer pan fyddwch yn gwneud eich hawliad neu ar unrhyw adeg yn ystod y broses gwneud hawliad.

Dylech hefyd ddarllen yr arweiniad ar chwythu’r chwiban os yw’n berthnasol i’ch hawliad.

Y gost

Nid oes rhaid i chi dalu ffi i wneud hawliad i dribiwnlys cyflogaeth.

Fodd bynnag, efallai y bydd rhaid i chi dalu costau eraill, er enghraifft:

  • costau tystion
  • costau’r bobl neu’r sefydliadau rydych yn gwneud hawliad yn eu herbyn (yr ‘atebwyr’) os bydd y tribiwnlys yn penderfynu eich bod wedi ymddwyn mewn modd afresymol

Gwneud hawliad ar-lein

Cyn i chi ddechrau, byddwch angen:

  • enwau a chyfeiriadau pawb sy’n gwneud yr hawliad (yr ‘hawlwyr’)
  • enwau a chyfeiriadau’r atebwyr – gallwch ddod o hyd i’r wybodaeth hon yn eich llythyr cynnig swydd, eich contract cyflogaeth neu eich slipiau cyflog
  • rhifau eich tystysgrifau cymodi cynnar Acas

Os ydych eisoes wedi cychwyn hawliad

Gallwch i barhau â’ch cais neu i weld yr hawliadau rydych wedi’u cyflwyno’n barod.

Gwneud hawliad drwy’r post

Gallwch hefyd lawrlwytho a llenwi ffurflen hawlio.

Anfonwch eich ffurflen wedi’i llenwi i un o’r cyfeiriadau canlynol, yn ddibynnol ar lle oeddech chi’n gweithio.

Swyddfa Ganolog y Tribiwnlys Cyflogaeth (Cymru a Lloegr)
PO Box 10218
Leicester
LE1 8EG

Swyddfa Ganolog y Tribiwnlys Cyflogaeth (Yr Alban)
PO Box 27105
Glasgow
G2 9JR

Os oes arnoch angen cymorth i wneud cais

Mae pwy y dylech gysylltu â hwy yn dibynnu ar y math o gymorth sydd ei angen arnoch.

Os ydych yn cael problemau technegol neu angen cymorth am sut i wneud hawliad

Ffoniwch canolfan gyswllt cwsmeriaid y tribiwnys cyflogaeth.

Canolfan gyswllt cwsmeriaid y tribiwnys cyflogaeth ar gyfer Cymru a Lloegr
Rhif ffôn i siaradwyr Cymraeg: 0300 303 5176
Dydd Llun i ddydd Iau, 9am – 5pm, dydd Gwener 9am – 4.30pm
Rhif ffôn i siaradwyr Saesneg: 0300 323 0196
(os na allwch glywed neu siarad ar y ffôn): 18001 yna 0300 323 0196
Dydd Llun i ddydd Gwener, 9am i 5pm
Gwybodaeth am gost galwadau

Canolfan gyswllt cwsmeriaid y tribiwnys cyflogaeth ar gyfer yr Alban
Rhif ffôn: 0300 790 6234
(os na allwch glywed neu siarad ar y ffôn): 18001 yna 0300 790 6234
Dydd Llun i ddydd Gwener, 9am - 5pm
Gwybodaeth am gost galwadau

Os nad oes gennych fynediad i’r rhyngrwyd, neu nid ydych yn teimlo’n hyderus yn defnyddio’r we

We Are Group
support@wearegroup.com
Rhif ffôn: 03300 160 051
Dydd Llun i ddydd Gwener, 9am i 5pm
Ar gau ar wyliau’r banc
Tecstiwch FORM i 60777 a bydd rhywun yn eich ffonio’n ôl
Gwybodaeth am gost galwadau

4. Ar ôl i chi wneud hawliad

Fel arfer, bydd rhaid i’r atebydd ymateb i’ch hawliad yn ysgrifenedig o fewn 28 diwrnod iddynt gael eich ffurflen hawlio. Byddant yn rhoi eu hochr nhw o’r achos.

Unwaith y byddant wedi ymateb, bydd y tribiwnlys yn penderfynu p’un a fydd yna wrandawiad llawn i benderfynu eich achos.

Os na fyddant yn ymateb, gall y tribiwnlys benderfynu eich achos heb i chi orfod cael gwrandawiad.

Mynychu gwrandawiad rhagarweiniol

Efallai y gofynnir i chi fynychu gwrandawiad cychwynnol (a elwir yn wrandawiad rhagarweiniol) yn bersonol, dros y ffôn neu drwy fideo. Ar ôl gwrando ar y ddwy ochr, bydd y barnwr yn penderfynu ar bethau fel:

  • a all rhan o’ch hawliad neu’ch hawliad cyfan fynd yn ei flaen
  • dyddiad ac amser gwrandawiad
  • hyd tebygol y gwrandawiad
  • sut bydd angen i chi ²¹â€™r atebydd baratoi ar gyfer y gwrandawiad llawn

Rhannu dogfennau

Bydd rhaid i chi rannu unrhyw ddogfennau perthnasol gyd²¹â€™r atebydd ²¹â€™r tribiwnlys, hyd yn oed os nad ydynt yn helpu eich achos. Bydd rhaid i’r atebydd wneud yr un fath.

Gall enghreifftiau o ddogfennau perthnasol gynnwys:

  • contract cyflogaeth
  • slipiau cyflog
  • manylion eich cynllun pensiwn
  • nodiadau o gyfarfodydd perthnasol bu i chi fynychu yn y gwaith

Os ydych yn credu nad yw’r atebydd wedi rhannu eu holl ddogfennau perthnasol gyda chi ²¹â€™r tribiwnlys, gallwch ofyn i’r tribiwnlys orchymyn eu bod yn rhannu’r dogfennau.

Fel arfer bydd y tribiwnlys yn gwneud gorchymyn yn pennu amserlen ar gyfer pryd y dylech rannu dogfennau cyn y gwrandawiad.

Fe gewch lythyr hefyd yn dweud wrthych sawl copi o bob dogfen y dylech ddod gyda chi i’r gwrandawiad.

Trefnu tystion

Gallwch ddod â thystion i’r gwrandawiad os allant roi tystiolaeth sy’n berthnasol yn uniongyrchol i’ch achos.

Os byddwch yn gofyn i dyst fod yn bresennol ond nid ydynt eisiau gwneud hyn, gallwch ofyn i’r tribiwnlys orchymyn iddynt fod yn bresennol. Mae’n rhaid i chi ysgrifennu i swyddf²¹â€™r tribiwnlys, gan roi:

  • enw a chyfeiriad y tyst

  • manylion o ran beth all y tyst ddweud a sut bydd yn helpu’ch achos

  • y rheswm pam bod y tyst wedi gwrthod mynychu (os ydynt wedi rhoi rheswm)

Os yw eich tyst y tu allan i’r DU a’u bod eisiau rhoi tystiolaeth trwy gyswllt fideo neu sain byw, cysylltwch â’r tribiwnlys sy’n delio â’ch achos cyn gynted â phosibl i wneud cais am hyn. Dywedwch wrth y tribiwnlys ym mha wlad y maent a pha fath o dystiolaeth maent yn ei rhoi.

Mwy na thebyg, chi fydd yn gyfrifol am dalu costau’r tyst.

Os byddwch yn setlo eich anghydfod

Os byddwch yn dod i gytundeb drwy Acas (Y Gwasanaeth Cynghori, Cymodi a Chyflafareddu), yna gan amlaf byddant yn rhoi gwybod i’r tribiwnlys. Bydd y cymodwr Acas yn egluro os bydd angen i chi wneud rhywbeth.

Os byddwch yn setlo eich anghydfod yn breifat, yna mae’n rhaid i chi gysylltu â’r tribiwnlys sy’n delio â’ch achos i ddweud wrthynt.

Os ydych eisiau tynnu eich hawliad cyfan yn ôl neu ran ohono

Mae’n rhaid i chi gysylltu â’r tribiwnlys yn ysgrifenedig.

5. Mynd i wrandawiad tribiwnlys

Gan amlaf, byddwch yn cael o leiaf 14 diwrnod o rybudd o ddyddiad ac amser eich gwrandawiad.

Fel arfer cynhelir gwrandawiadau yn y swyddfa tribiwnlys cyflogaeth sydd agosaf at lle roeddech yn gweithio. Bydd y tribiwnlys yn cysylltu â chi ac yn dweud wrthych os bydd eich gwrandawiad yn digwydd dros y ffôn, drwy fideo neu wyneb yn wyneb.

Rhaid i chi ddod â’r holl ddogfennau rydych am eu defnyddio i gefnogi eich achos gyda chi. Os yw eich gwrandawiad yn un wyneb yn wyneb, gallwch ddod â chydweithiwr neu rywun arall gyda chi os dymunwch wneud hynny. Gallwch hefyd gael rhywun i’ch cefnogi mewn gwrandawiad o bell.

Os ydych chi, eich tyst neu eich cynrychiolydd y tu allan i’r DU ac eisiau rhoi tystiolaeth trwy gyswllt fideo neu sain byw, cysylltwch â’r tribiwnlys i wneud cais am hyn. Dywedwch wrth y tribiwnlys ym mha wlad ydych chi, y tyst neu’r cynrychiolydd a pha fath os dystiolaeth sy’n cael ei rhoi. Mae’n rhaid i chi wneud hyn cyn gynted â phosibl.

Ni fydd y tribiwnlys yn talu costau teithio i wrandawiad.

Beth fydd yn digwydd yn y gwrandawiad

Byddwch yn cyflwyno’ch achos i’r tribiwnlys - gall rhywun arall wneud hyn ar eich rhan, er enghraifft, , ffrind neu aelod o’ch teulu. Bydd yr atebydd yn cyflwyno eu hachos yn eich erbyn.

Fel arfer, chi fydd yn rhoi tystiolaeth gyntaf, oni bai bod eich achos yn ymwneud â diswyddo annheg. Gallwch hefyd alw ar dystion i roi tystiolaeth.

Fel arfer, bydd y bobl ganlynol yn gofyn cwestiynau i chi:

  • y barnwr
  • yr atebydd
  • y ddau aelod arall o’r panel tribiwnlys (dim ond mewn achosion penodol)

Cael penderfyniad

Bydd y penderfyniad yn cael ei anfon atoch ychydig ddyddiau neu wythnosau ar ôl y gwrandawiad. Bydd y penderfyniad yn cael ei gyhoeddi ar PGµç×Ó. Mewn rhai achosion efallai byddwch yn cael y penderfyniad yn y gwrandawiad.

6. Os byddwch yn ennill eich achos

Os byddwch yn ennill eich achos, gall y tribiwnlys orchymyn i’r parti aflwyddiannus wneud pethau penodol, yn ddibynnol ar y math o achos. Mae’r enghreifftiau o hyn yn cynnwys:

  • talu iawndal i chi
  • talu unrhyw gostau tyst rydych wedi’u talu
  • cymryd camau i leihau effeithiau gwahaniaethu yn eich erbyn
  • eich ailbenodi i’ch swydd, os yw’n briodol

Os byddwch yn cael iawndal, gall y swm ddibynnu ar:

  • y math o achos - mae yna derfynau ar rai achosion penodol
  • faint o arian rydych wedi’i golli o ganlyniad i weithredoedd yr atebydd
  • eich oedran, hyd eich gwasanaeth a’ch cyflog

Os na fydd yr atebydd yn talu

Os na fyddwch yn cael eich taliad, cysylltwch â nhw i ganfod pam.

Os na fyddant yn talu ar ôl hynny, gallwch ofyn iddynt gael dirwy ac i’r llywodraeth eu henwi ar-lein. Gallwch hefyd ofyn i lys eu gorfodi i dalu.

Ni allwch wneud unrhyw un o’r ddau beth uchod os yw’r atebydd wedi apelio, neu ar fin gwneud hynny. Mae ganddynt 42 diwrnod i apelio.

Os yw’r atebydd yn ‘ansolfedd’ (er enghraifft, maent yn nwylo gweinyddwyr, yn cael eu diddymu neu yn nwylo derbynnydd), gallwch wneud hawliad am yr arian sy’n ddyledus i chi ganddynt, gan gynnwys taliadau colli swydd.

Rhoi dirwy i’r atebydd ac i’r llywodraeth eu henwi ar-lein

Defnyddiwch y ffurflen gorfodi dirwy. Anfonwch y ffurflen i’r cyfeiriad a nodir ar y ffurflen neu anfonwch hi ar e-bost i’r Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol

Yr Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol etpenalties@businessandtrade.gov.uk

Yn gyntaf, bydd yr atebydd yn cael hysbysiad o rybudd yn dweud wrthynt efallai y gallant gael dirwy a’u henwi ar-lein gan y llywodraeth.

Os na fyddant yn talu’r iawndal o fewn 28 diwrnod i’r rhybudd hwn, bydd rhaid iddynt dalu dirwy a gallant gael eu henwi ar-lein gan y llywodraeth.

Gallwch dal ofyn i lys eu gorfodi i dalu.

Eu gorfodi i dalu os ydych yn byw yng Nghymru neu Loegr

Gallwch ddefnyddio’r cynllun Trac Cyflym i anfon swyddog gorfodi o’r uchel lys (sy’n debyg i feili) i fynnu taliad gan yr atebydd. Mae’n costio £71, a bydd yn cael ei ychwanegu at y ddyled sy’n ddyledus i chi gan yr atebydd.

Llenwch y Ffurflen Gorfodi Trac Cyflym (neu ffurflen gais i orfodi dyfarniad os cafodd eich achos ei setlo cyn gwrandawiad), a’i hanfon i’r cyfeiriad a nodir ar y ffurflen.

Gallwch hefyd ofyn i’r Llys Sirol lleol gael yr arian gan yr atebydd.

Llenwch ffurflen gais i orfodi dyfarniad a’i hanfon gyda chopi o benderfyniad y tribiwnlys i’ch Llys Sirol lleol. Byddant yn adolygu eich cais ac yn cofrestru Dyfarniad Llys Sirol ar gyfer y ddyled.

Bydd yr atebydd yn cael e-bost neu lythyr yn egluro’r ddyled sy’n ddyledus ac erbyn pryd y mae rhaid iddynt ei thalu.

Os na fyddant yn ymateb erbyn y dyddiad cau, llenwch ffurflen gwneud cais am warant a’i hanfon i’ch Llys Sirol lleol. Byddant yn anfon beili’r llys sirol i gael yr arian gan yr atebydd. Mae hyn yn costio £83, a bydd yn cael ei ychwanegu at y ddyled sy’n ddyledus i chi gan yr atebydd.

Eu gorfodi i dalu os ydych yn byw yn Yr Alban

Ysgrifennwch at y swyddfa a wrandawodd eich achos a gofyn am ‘ddetholiad o’r dyfarniad’. Gall ddefnyddio hyn i orfodi’r atebydd i dalu.

7. Os byddwch yn colli eich achos

Gallwch ofyn i’r tribiwnlys ailystyried y penderfyniad (neu’r ‘dyfarniad’) os byddwch yn colli’ch achos.

Mae’n rhaid i chi ysgrifennu i swyddf²¹â€™r tribiwnlys o fewn 14 diwrnod i’r penderfyniad ysgrifenedig gael ei anfon atoch, gan ddweud pam eich bod eisiau i’r penderfyniad gael ei ailystyried.

Mae rhaid i chi hefyd roi rhesymau da, er enghraifft:

  • mae’r tribiwnlys wedi gwneud camgymeriad yn y ffordd y daeth i’w benderfyniad
  • ni chawsoch eich hysbysu am y gwrandawiad, neu nid oeddech yn bresennol yn y gwrandawiad
  • mae yna dystiolaeth newydd

Anfonwch eich llythyr i swyddf²¹â€™r tribiwnlys a wnaeth ddelio â’ch achos.

Apelio i’r Tribiwnlys Apeliadau Cyflogaeth

Gallwch hefyd apelio i’r Tribiwnlys Apeliadau Cyflogaeth os ydych yn credu bod y tribiwnlys cyflogaeth wedi gwneud camgymeriad cyfreithiol.

8. Cael ad-daliad am ffioedd tribiwnlys

Gallwch gael ad-daliad os wnaethoch dalu ffioedd mewn Tribiwnlys Cyflogaeth neu Dribiwnlys Apeliadau Cyflogaeth rhwng 29 Gorffennaf 2013 a 26 Gorffennaf 2017.

Sut i wneud cais

Gallwch wneud cais ar-lein:

  • os nad ydych wedi newid eich enw ers i chi gyflwyno’r hawliad i’r tribiwnlys
  • roedd eich hawliad yn erbyn un cyflogwr
  • mae gennych gyfrif banc yn y DU

Fel arall, gallwch wneud cais drwy’r post neu drwy e-bost.

Bydd rhaid i chi nodi faint oedd swm y ffioedd tribiwnlys wnaethoch chi eu talu.

Gwneud cais ar-lein

Defnyddiwch y gwasanaeth i .

Gwneud cais drwy e-bost neu drwy’r post

Bydd y math o ffurflen y bydd angen i chi ei defnyddio yn dibynnu ar pam wnaethoch chi dalu’r ffioedd.

Defnyddiwch ffurflen 1/2-CR os:

  • wnaethoch chi’r hawliad ar ben eich hun a chi dalodd y ffioedd
  • cafodd hawliad ei wneud yn eich erbyn a chawsoch eich gorchymyn i dalu ffioedd rhywun arall, neu os wnaethoch chi dalu unrhyw ffioedd eraill i’r tribiwnlys
  • chi oedd y ‘prif hawlydd’ mewn hawliad ar y cyd (‘lluosog’) ar gyfer llai na 11 o bobl

Defnyddiwch ffurflen 3-S os:

  • wnaethoch chi dalu’r ffioedd er mwyn i rywun arall wneud yr hawliad
  • chi oedd y ‘prif hawlydd’ mewn hawliad ar y cyd (‘lluosog’) ar gyfer mwy na 10 o bobl.

Anfonwch eich ffurflen wedi’i llenwi drwy’r post neu drwy e-bost i Wasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd EF (GLlTEF).

Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd EF - Cymru a Lloegr
etrefunds@justice.gov.uk

Tribiwnlys Cyflogaeth - Cymru a Lloegr
Canolfan Gyswllt Cwsmeriaid
PO Box 10218
Leicester
LE1 8EG

Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd EF - Yr Alban
glasgowet@justice.gov.uk

Tribiwnlys Cyflogaeth - Yr Alban
Canolfan Gyswllt Cwsmeriaid
PO Box 27105
Glasgow
G2 9JR

Cael cymorth i wneud cais

Cysylltwch â GLlTEF os ydych angen help neu os oes gennych gwestiynau am ad-daliadau.

GLlTEF - Cymru a Lloegr
Rhif ffôn i siaradwyr Saesneg: : 0300 323 0196

GLlTEF - Llinell Iaith Gymraeg
Rhif ffôn: 0300 303 5176

GLlTEF - Yr Alban
Rhif ffôn: 0300 790 6234

Gwybodaeth am gost galwadau

Beth fydd yn digwydd nesaf

Os oes gennych hawl i gael ad-daliad, bydd yn cael ei drosglwyddo i’ch cyfrif banc (gyda 0.5% llog hefyd). Byddwch yn cael llythyr yn cadarnhau’r swm.

9. Deddfwriaeth

Mae’r Tribiwnlys Cyflogaeth yn dilyn rheolau a phrosesau y mae’n rhaid i chi eu dilyn hefyd.

Gallwch hefyd ddarllen eraill.

Mae’r tribiwnlys wedi cyhoeddi arweiniad a chanllawiau ymarfer ar gyfer ²¹â€™r sy’n darparu rhagor o wybodaeth am feysydd penodol, fel gohirio gwrandawiadau a chyflwyno dogfennau.

Gallwch hefyd ddarllen yr arweiniad ar .